Ateb y Galw: Betsan Ceiriog

  • Cyhoeddwyd
Yr actores Betsan CeiriogFfynhonnell y llun, Betsan Ceiriog
Disgrifiad o’r llun,

Yr actores Betsan Ceiriog

Tro Betsan Ceiriog o'r gyfres comedi Rybish yw hi i ateb rhai o gwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Pan yn blant roedd gan Lowri, fy chwaer a fi bunk beds - Lows yn top a fi'n y gwely gwaelod. Ar ôl i mam neu dad ein rhoi ni yn ein gwlau, mi faswn i'n dringo'r ysgol i fynd i'r gwely top at Lowri lle odda ni'n chwarae gemau gwahanol. Un gêm oeddan ni'n ei chwarae oedd "tickle-mania" sef cosi ein gilydd bob yn ail tan doeddan ni methu diodda' ddim mwy.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caeathro. Y pentref lle dwi wedi cael fy magu, ac yn dal i fyw yma. Digon agos i Dre, ond hefyd, digon pell!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dewis anodd, ond os faswn i'n gorfod dewis, nosweithiau gemau yr Ewros 2016 yng Nghaernarfon. Roedd awyrgylch anhygoel yno. Yn Neuadd y Farchnad oeddwn i'n gwylio y gemau, ac roedd y lle yn orlawn o gefnogwyr brwd yn bloeddio yr anthem. Yna, pawb yn llifo allan ar Stryd y Plas yn chantio "don't take me home" - briliant!

Ffynhonnell y llun, CwmniDa
Disgrifiad o’r llun,

Cast y gyfres Rybish ar S4C

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Hapus, hamddenol ond penderfynol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

'Dwi'n siwr y basa pobl sy'n fy nabod i'n cytuno gyda fy ateb i'r cwestiwn yma. Dwi wrth fy modd yn cael hwyl waeth lle ydw'i na gyda pwy. 'Da chi'n fwy tebygol o fy nghlywed cyn fy ngweld!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Disgyn yn ystod perfformiad o Sweeney Todd tra yn y Brifysgol. Nes i ddisgyn yn ystod y gymeradwyaeth. Nes i godi yn syth ar fy nhraed heb syniad lle o'n i…. Cywilydd!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Tra'n gwylio Marley and Me dwi'n meddwl, wastad yn beichio crio erbyn diwadd y ffilm.

Ffynhonnell y llun, Betsan Ceiriog
Disgrifiad o’r llun,

Mewn gardd gwrw yn Conwy yn dathlu troi yn 21 oed yn 2019

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Nagoes dwi'm yn meddwl. Ond dwi'n siwr, os fasa Mam yn llenwi hwn ar fy rhan, fasa hi'n dweud fy mod i'n ddrwg am adael fy llestri ar ben y peiriant golchi llestri…

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dwi'n rili mwynhau podlediadau Cymraeg. Yn ddiweddar 'dwi 'di bod yn gwrando ar Q's, podlediad gan Lowri Wynn a Dylan Jenkins, lle mae nhw'n trafod Rownd a Rownd, mae o'n bril. Hefyd 'dwi 'di bod yn gwrando lot ar Podpeth. 'Dwi 'di cael lot o bobl yn sbio'n od arnai pan 'dwi'n cerdded efo headphones 'mlaen yn chwerthin i fy hun yn gwrando ar Podpeth. 'Dwi hefyd yn mwynhau Gwrachod Heddiw a Dewr. Allai ddim dewis fy hoff un, cwestiwn rhy anodd!!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Efo ffrindia mewn beer garden ar ddiwrnod braf o haf.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ers yn fabi, dwi'n licio chwarae efo clustiau.

Ffynhonnell y llun, Betsan Ceiriog
Disgrifiad o’r llun,

Fi yn estyn am glust Gruff fy nghefnder

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael fy nheulu a ffrindiau at ei gilydd a chael gwledd a parti mawr.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

'Dwi 'di dewis y llun o caricatures cast Rybish. Mae o'n fy atogffa o'r hwyl gafo ni'n ei ffilmio. Hefyd mae o yn fy atgoffa o pa mor lwcus o'n i i fod yn rhan o'r rhaglen, a hitha' yn fy swydd actio gyntaf ers graddio.

Ffynhonnell y llun, CwmniDa
Disgrifiad o’r llun,

Cartwn o gymeriadau Rybish

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Faswn i ddim isho bod yn neb ond fy hun.

Hefyd o ddiddordeb: