'Cefais fy arestio am hebrwng rhywun i Dignitas'

  • Cyhoeddwyd
Sharon a SueFfynhonnell y llun, Humanists UK
Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd Sue Lawford i glinig yn Y Swistir gyda Sharon Johnston 'nôl ym mis Chwefror

Mae menyw a deithiodd i'r Swistir gyda dynes o Geredigion, oedd wedi ei pharlysu islaw ei gwddf, er mwyn iddi gael cymryd ei bywyd ei hun yn dweud i'r heddlu yng Nghymru ei thrin yn llawdrwm.

Cafodd Sue Lawford, 70 o Gaerdydd, ei chadw yn y ddalfa ym Mae Caerdydd am 16 awr cyn cael ei holi gan dditectifs Heddlu Dyfed-Powys.

Fe deithiodd Sue i glinig yn Y Swistir gyda Sharon Johnston 'nôl ym mis Chwefror.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ei bod hi'n drosedd i gynorthwyo hunanladdiad person arall.

Yn dilyn ymchwiliad troseddol trylwyr i sicrhau'r ffeithiau, mae'r achos ar ben ac ni fydd unrhyw un yn wynebu cyhuddiadau.

Mae'r Farwnes Illora Finlay, athro mewn gofal diwedd oes, yn mynnu bod yn rhaid i'r gyfraith amddiffyn pobl fregus.

"Rôl y gyfraith yw amddiffyn pawb sy'n fregus, ac fe ddylai edrych i amddiffyn y mwyaf bregus rhag cael eu rhoi o dan bwysau i feddwl y dylen nhw rywsut ddod â'u bywyd i ben."

Doedd Sue ddim yn 'nabod Sharon.

Dim ond unwaith y gwnaeth y ddwy gyfarfod cyn teithio i'r Swistir.

Fe ddaethon nhw i gysylltiad â'i gilydd drwy'r mudiad ymgyrchu My Death, My Decision, sy'n galw am newid y gyfraith i ganiatáu hunanladdiad cynorthwyedig.

Cafodd Sharon 60, cyn-berchennog siop fetio a thafarn, ei pharlysu yn dilyn damwain yn ei chartref pan syrthiodd i lawr y grisiau.

Ar ôl marwolaeth ei rhieni a'i brawd doedd ganddi ddim teulu agos ar ôl.

Ar raglen BBC Wales Investigates y llynedd esboniodd pam ei bod am ddod â'i bywyd i ben.

Roedd Sharon Johnson wedi dweud bod ei gofalwyr yn "wych" ond nad oedd ei bywyd yn "ffordd hwyliog o fyw".

Disgrifiad o’r llun,

Ar raglen BBC Wales Investigates y llynedd esboniodd Sharon Johnson pam ei bod am ddod â'i bywyd i ben

Ar 14 Chwefror eleni fe deithiodd Sharon o'i chartref yng Ngheredigion mewn tacsi arbennig, gan godi Sue Lawford ar y ffordd i Heathrow.

"Roedd Sharon yn gall a rhesymol am y cyfan. Roedd hi'n anodd dychmygu ein bod ni ar y ffordd i Zurich, lle byddai'n dod â'i bywyd i ben drannoeth."

Ond o fewn dim fe dderbyniodd Sharon yr alwad gyntaf gan yr heddlu. Yn ôl Sue roedd gofalwyr Sharon wedi cysylltu gyda nhw.

Ar y daith, meddai Sue, fe ffoniodd yr heddlu unwaith yn rhagor, cyn i'r gwasanaethau cymdeithasol ffonio hefyd.

Pob tro, fe wnaeth Sharon bwysleisio ei bod hi'n iawn a bod y galwadau yn achosi straen iddi.

Yn y maes awyr roedd Sharon am ddweud, gan wenu, ei bod hi'n mynd ar wyliau sgïo.

Yng nghanolfan Dignitas fe gafodd Sharon ei gweld gan ddoctor a seiciatrydd er mwyn sicrhau ei bod hi yn ei iawn bwyll ac yn gallu gwneud penderfyniadau dros ei hun.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu i gartref Sue Lawford yn fuan ar ôl iddi ddychwelyd i Gymru

Ond yna, meddai Sue, daeth heddlu arfog Y Swistir i'r ganolfan. Roedd yr heddlu yng Nghymru wedi gofyn iddyn nhw ymyrryd. Roedd hyn yn achosi straen i Sharon, ychwanegodd.

Drwy welltyn fe yfodd Sharon gyffuriau'r diwrnod wedyn er mwyn dod â'i bywyd i ben.

"Rwy'n edmygu ei dewrder a'i phenderfyniad," meddai Sue, a'r ffaith mai dyma oedd ei dymuniad.

'Bang uchel ar y drws'

Fe hedfanodd Sue 'nôl i Gymru'n syth. Drannoeth yn oriau mân y bore, meddai, daeth yr heddlu i'w chartref yng Nghaerdydd.

"05:30 - ro'n i'n cysgu'n drwm. Roedd 'bang, bang, bang' uchel ar y drws, ac fe aeth y ci yn wallgo'," meddai.

"Aeth fy ngŵr i ateb y drws, cyn galw arna i 'Sue well ti ddod i lawr achos mae'r heddlu yma'.

"Fe ddes i lawr yn fy nillad nos, ac roedd dwy blismones yn y 'stafell fyw yn ddweud 'y'ch chi'n gwybod pam ni yma'. Atebais i fy mod i, gan ddweud 'mod i'n bwriadau mynd i siarad gyda nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sue ei bod yn drist pan fu Sharon farw, er nad oedd yn ei hadnabod yn dda

Ychwanegodd Sue: "'Na, na' medde'r ddwy, 'ry'n ni yma i'ch arestio chi a mynd â chi i orsaf yr heddlu yn y Bae'. Ro'n ni mewn sioc a bod yn onest.

"Dyw pobl eraill rwy'n gwybod amdanyn nhw sydd wedi mynd gyda phobl sydd am farw ddim hyd yn oed wedi cael galwad ffôn.

"Ro'n ni'n deall pam ond yn teimlo bod y cyfan yn ymosodol ar y pryd. Pan ges i fy nhywys tu fas roedd fan heddlu tu fas gyda chaets - fe ges i fy nghloi tu fewn.

"Roedd pedwar plismon wedyn yn mynd i'r tŷ i chwilio. Gofynnodd fy ngŵr os oedd ganddyn nhw warant, ond atebon nhw nad oedd angen un.

"Mae'n debyg bod cynorthwyo rhywun i farw yr un fath o drosedd â llofruddiaeth neu derfysgaeth.

"Dyna pam ges i fy arestio, am gynorthwyo hunanladdiad, ond fe fyddwn i'n dadlau mai hebrwng Sharon wnes i. Alla i ddim dadlau gyda hynny, ond ei chynorthwyo? Fydden i ddim yn dweud mai dyna wnes i.

"Ro'n i'n gweithredu'n syml yn dosturiol, fel gobeithio y byddai rhywun yn barod i wneud i fi."

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond unwaith y gwnaeth Sue a Sharon (uchod) gyfarfod cyn teithio i'r Swistir

Er hynny mae Sue yn derbyn na allai Sharon fod wedi cyrraedd Y Swistir heb ei help.

"Fe ges i fy nghadw mewn cell am 16 awr - amser eitha' hir. Fe gyrhaeddodd dau dditectif gyda Heddlu Dyfed-Powys tua 22:00 y noson honno a chyfreithiwr," meddai Sue.

"Yna fe ges i wybod 'mod i'n cael fy rhyddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau. Ges i fy nghadw am 19 neu 20 awr. Roedd yn anodd.

"Roedden nhw'n gwneud eu gwaith, rwy'n deall hynny, ond roedd y cyfan yn ymddangos ychydig yn llawdrwm."

Dim ond yn ddiweddar y cafodd Sue Lawford wybod na fydd hi'n cael ei herlyn yn y llysoedd.

Galw eto am newid y gyfraith

Fe gytunodd Sue i gael ei holi gan BBC Cymru wrth i ymgyrchwyr fel hithau a grwpiau fel My Death, My Decision ddod at ei gilydd yn San Steffan i alw eto am newid y gyfraith ym Mhrydain.

Maen nhw eisiau'r hawl i farw mewn amgylchiadau penodol, sef caniatáu i bobl sy'n dioddef o gyflyrau terfynol sydd yn eu iawn bwyll, sy'n annhebygol o fyw mwy na chwe mis, i gael eu cynorthwyo i ddod â'u bywydau i ben.

Dau farnwr Uchel Lys fyddai'n penderfynu ar achosion unigol.

Ar hyn o bryd mae pob math o hunanladdiad cynorthwyedig yn anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

O'u cael yn euog gallai unrhyw un sy'n cynorthwyo person arall i farw gael eu carcharu am hyd at 14 mlynedd.

Mae'r Swistir wedi caniatáu hunanladdiad wedi ei gynorthwyo ers 1942. Bellach amcangyfrifir bod dros 350 o bobl o Brydain wedi teithio i ganolfan Dignitas i ddod â'u bywydau i ben.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Arfon Jones gall fod yn "greulon i adael i bobl ddioddef"

Mae Arfon Jones, cyn-gomisiynydd heddlu a throsedd gyda Heddlu'r Gogledd, o blaid caniatáu hunanladdiad cynorthwyedig mewn achos o dosturi.

Ymunodd â nifer o gomisiynwyr heddlu eraill i alw am newid y gyfraith wedi i gomisiynydd heddlu yn Lloegr ddioddef gyda chyflwr motor niwron.

Yn ôl Mr Jones mae'r gyfraith ar hyn o bryd yn golygu y gall fod yn "greulon i adael i bobl ddioddef".

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl ar y cyfan bod heddluoedd yn delio gyda materion fel hyn yn hynod o sensitif ac yn deall yr emosiwn sydd o gwmpas pethau."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhy beryglus i drwyddedu doctoriaid i roi cyffuriau angheuol i'w cleifion," meddai'r Farwnes Finlay

Yn ôl y Farwnes Finlay: "Mae gan Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus ganllawiau clir ynglŷn â phwy ddylai gael eu herlyn, a phwy ddylai ddim.

"Mae'n rhy beryglus i drwyddedu doctoriaid i roi cyffuriau angheuol i'w cleifion. Fe ddylai meddygon wneud ei gorau i wella ansawdd bywyd pobl."

Yn ôl ystadegau diweddaraf Gwasanaeth Erlyn y Goron dim ond pedwar o bobl yn y DU sydd wedi cael eu herlyn yn y llysoedd, dolen allanol, gyda'r mwyafrif helaeth o achosion ddim yn arwain at gyhuddiadau.

Dywedodd Cyngor Ceredigion nad ydyn nhw'n gwneud sylw ar achosion unigol.

Mewn datganiad dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'n cydymdeimladau ni gyda theuluoedd ac anwyliaid sydd wedi eu heffeithio gan yr achosion torcalonnus yma.

"Mater i aelodau seneddol unigol, nid i lywodraeth, fyddai ystyried newid i'r gyfraith mewn maes mor sensitif a phwysig."