Galw am wirfoddolwyr i gynllun sy'n helpu dysgwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Yvonne Evans a Liz Day
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Day o Benarth (dde) wedi ei pharu gyda'r gyflwynwraig Yvonne Evans

Mae 'na alw am fwy o bobl i fod yn rhan o gynllun i helpu dysgwyr Cymraeg i ddod yn rhugl.

Mae cynllun Siarad y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn paru siaradwyr Cymraeg gyda dysgwyr.

Dros y flwyddyn ddiwethaf roedd 280 o ddysgwyr yn rhan o'r cynllun, ond roedd mwy na hynny yn aros am bartner.

Pwrpas y cynllun yw rhoi cyfle i ddysgwyr fagu hyder i sgwrsio yn Gymraeg a'u cyflwyno i gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol.

'Siarad tu allan i'r dosbarth'

Dim ond ers dwy flynedd mae Liz Day o Benarth ger Caerdydd yn dysgu'r iaith.

Fe wnaeth hi gwrs dwys ac ers blwyddyn a hanner mae hi wedi cael ei pharu gyda'r gyflwynwraig Yvonne Evans.

Yn ôl Liz mae hynny wedi bod yn help mawr.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r Gymraeg dwi'n ei glywed tu allan i'r dosbarth yn gallu bod yn wahanol iawn," medd Liz Day

"Ro'n i'n dysgu Cymraeg yn ystod y cyfnod clo felly ro'n i'n siarad Cymraeg bob dydd ar Zoom, ond doedd dim llawer o gyfle i siarad tu allan i'r dosbarth," meddai.

"Mae'n bwysig iawn pan wyt ti'n dysgu iaith i ymarfer ac ymarfer, felly roedd hi'n ddefnyddiol iawn i gwrdd ag Yvonne a gallu siarad Cymraeg tu allan i'r dosbarth.

"Mae'r Gymraeg dwi'n ei glywed tu allan i'r dosbarth yn gallu bod yn wahanol iawn. Mae'n bwysig hefyd achos ro'n i'n poeni am siarad gyda phobl tu allan i'r dosbarth.

"Pan dwi'n siarad gydag Yvonne, dwi'n dysgu llawer o eirfa newydd hefyd."

'Dwi'n hoffi cloncian, felly pam lai?'

Dyna un o'r pethau pwysicaf yn ôl Yvonne, sy'n gweld y cynllun fel cyfle i annog siaradwyr newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyflwynwraig Yvonne Evans yn wyneb cyfarwydd ar raglenni fel Heno

"Mae'r iaith y'ch chi'n ei chlywed yn y dosbarth yn gallu bod yn wahanol iawn i'r iaith o'ch cwmpas ar y stryd neu yn y gwaith," meddai.

"Dwi'n hoffi cloncian, felly pam lai o'n i'n ei feddwl. Mae'n ddyletswydd arna i.

"Heddiw mae Liz wedi dysgu gair newydd, sef 'porcyn', a wna'i ddim sôn beth oedd y cyd-destun, ond efallai taw noeth sy'n cael ei ddysgu yn y dosbarth ond porcyn dros baned!"

'Help gydag unigrwydd'

Mae cynllun Siarad yn sicrhau fod y bobl sy'n cael eu paru yn rhannu diddordebau fel bod y sgwrs yn gallu llifo.

"Fe gafodd un siaradwr Cymraeg oedd yn dwlu ar rygbi ei bari gyda gohebydd rygbi yn y wasg Lundeinig," meddai Helen Prosser, cyfarwyddwr dysgu ac addysgu'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

"Roedd e'n help gydag unigrwydd dros Covid hefyd, ond yn bennaf oll 'dan ni'n clywed fod pobl yn gwneud ffrind newydd, ond yn gwneud ffrind newydd yn y Gymraeg.

"Er bod targed miliwn o siaradwyr yn bwysig, mae wrth gwrs yr un mor bwysig os nad yn bwysicach bod ail darged y llywodraeth yn cael ei wireddu, sef bod hanner miliwn ohonom ni yn defnyddio'r Gymraeg yn gyson."

Disgrifiad o’r llun,

Does dim angen i wirfoddolwyr boeni am safon eu Cymraeg, meddai Helen Prosser

Yn ôl Ms Prosser does dim angen i wirfoddolwyr boeni am safon eu Cymraeg, a dydyn nhw ddim yn chwilio am bobl i ymrwymo mwy na 10 awr o'u hamser.

"Dy'n nhw ddim i fod yn wersi, dyna'r holl bwynt. Mae rhywun yn mynd i ddosbarth i gael gwers. Sgwrs sydd eisiau," meddai.

"Does dim ots os oes ambell air o Saesneg - dyw hynny dim yn broblem o gwbl - a s'dim ishe gwybod rheolau gramadeg.

"Mae'n neis os oes rhywun yn gallu siarad yn fwy pwyllog ond mae hynny'n dibynnu ar y partner - mae rhai o'r bobl hyn yn rhugl iawn a ddim angen arafu o gwbl."

Mae modd cofrestru ar gyfer cynllun Siarad drwy ymweld â gwefan dysgucymraeg.cymru, dolen allanol neu e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru.

Pynciau cysylltiedig