Rhyd-wyn: Rheithgor yn dechrau trafod eu dyfarniad
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor yn achos dyn o Ynys Môn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gymar hir dymor wedi cael eu hel adref am y noson ar ôl dechrau ystyried eu dyfarniad.
Cafodd Buddug Jones, 48, ei darganfod yn farw yn ei chartref ym mhentref Rhydywyn, yng ngogledd orllewin yr ynys, fis Ebrill.
Mae Llys y Goron Caernarfon wedi clywed iddi farw o ganlyniad anafiadau "anferthol" i'w phen, a'u bod o bosib wedi eu hachosi gan forthwyl trwm.
Mae Colin Milburn, 52, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o lofruddiaeth.
Mae'r erlyniad yn honni ei fod wedi lladd y fam i bedwar o blant am ei fod yn credu ei bod yn cael perthynas gyda rhywun arall.
Mynnodd Mr Milburn wrth roi tystiolaeth ei fod yn caru Ms Jones ac yn dymuno dychwelyd i'r cartref i fyw.
Fe adawodd aelodau'r rheithgor - naw dyn a thair dynes - y llys i ddechrau ystyried y dystiolaeth am 14:50 brynhawn Mercher.
Maen nhw wedi cael cyfarwyddyd gan y barnwr i anelu at ddod i ddyfarniad unfrydol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022