Effaith newid hinsawdd i'w gweld ar nentydd Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Wrth i gynrychiolwyr yn Uwchgynhadledd COP27 ddod i gytundeb hanesyddol, mae gwaith ymchwil yng Nghymru yn dangos bod cynnydd yn nhymheredd nentydd yn effeithio ar y rhywogaethau sy'n byw ynddyn nhw.
Yn y gynhadledd yn yr Aifft roedd yna benderfyniad i gynnig arian i gynorthwyo y gwledydd tlotaf sy'n cael eu heffeithio waethaf gan newid hinsawdd.
Yn y cyfamser mae prosiect gan Brifysgol Caerdydd wedi bod yn arsylwi effaith newid hinsawdd ar nentydd ac afonydd.
Mae gan Arsyllfa Llyn Brianne dros 40 mlynedd o ddata ar gyflwr nentydd sy'n llifo i'r gronfa ddŵr anghysbell yn Sir Gaerfyrddin.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan ddau academydd sy'n briod â'i gilydd - Steve Ormerod ac Isabelle Durance.
Tymheredd nentydd wedi cynhesu
Dywedodd yr Athro Ormerod: "Dechreuwyd y gwaith yma gan gorff a fyddai'n datblygu i fod yn Gyfoeth Naturiol Cymru.
"Roedd am fonitro'r nentydd yma yn ôl yn yr 80au cynnar er mwyn deall mwy am broblem y cyfnod, sef glaw asid.
"Ond wrth i'r prosiect esblygu, fe wnaethon nhw sylweddoli fod yna faterion eraill, a dechreuon ni weld arwyddion o effeithiau newid hinsawdd."
Mae'r arsyllfa gydag un o'r prosiectau hiraf o'i fath yn y byd. Dros y degawdau mae wedi cofnodi cynnydd yn nhymheredd y nentydd, sydd wedi cael effaith ar bryfed a rhywogaethau eraill.
Eglurodd yr Athro Ormerod: "Yn ystod cyfnod y monitro - dros bedwar degawd - mae'r dŵr wedi cynhesu tua un radd celsius ar gyfartaledd. Yn y gaeaf, mae'r cynhesu hyd yn oed yn fwy na hynny, hyd at tua un a hanner gradd.
"Yr hyn ry'n ni wedi'i weld fel canlyniad i hynny yw newid eitha sylweddol yn nifer y pryfed ac infertebratau sy'n byw yn y nentydd.
"Felly pan wnaethom ni sylwi ar hyn am y tro cyntaf, roedd nifer y pryfed yn gostwng tua un rhan o bump am bob un radd o gynnydd mewn tymheredd.
"Mae hynny wedi arafu ychydig, ond ym mhob un o'r nentydd, mae gostyngiad flwyddyn ar ôl blwyddyn yn nifer y pryfed, ac ry'n ni'n eitha sicr bod hyn yn gysylltiedig ag effaith newid yn yr hinsawdd.
"Mae anifeiliaid fel pysgod yn y nant sy'n bwydo ar bryfed wedyn mewn perygl, a phan mae pryfed o'r nant yn dod allan ac yn hedfan o gwmpas, maen nhw'n cael eu defnyddio gan bethau fel siglennod llwyd ac ystlumod."
'Microcosm o'r effaith ar fyd natur'
Dewiswyd yr 14 nant sy'n cael eu monitro oherwydd eu bod yn llifo trwy wahanol dirweddau - rhai trwy goedwigoedd pinwydd, eraill trwy goetir llydanddail a rhai trwy borfeydd agored, sy'n cael eu pori gan ddefaid.
Y nod oedd cynrychioli tirwedd ucheldir Cymru.
Dywed yr Athro Ormerod fod effaith newid hinsawdd a welir ger Llyn Brianne yn cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o Gymru, ac mae'n ficrocosm o'r effaith ar natur yn fyd-eang.
"Mae newid hinsawdd yn fater dynol o bwys a fydd yn gorfodi niferoedd mawr iawn o bobl i orfod symud lleoliad fel ffoaduriaid amgylcheddol," meddai.
"Ond yr hyn y mae ein data ni a data o gwmpas y byd yn dangos, yw ei fod yn broblem sylweddol iawn i natur.
"Mae rhai data yn awgrymu y gallai hyd at draean o achosion o ddifodiant y byd fod yn gysylltiedig ag effeithiau newid hinsawdd."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud bod dyfroedd cynhesach yn bygwth cynaliadwyedd Eog yr Iwerydd yn afonydd Cymru.
Dywedodd Nick Thomas, rheolwr gweithrediadau CNC: "Ry'n ni'n wirioneddol bryderus am ddirywiad eogiaid yr Iwerydd.
"Os bydd tymheredd y dŵr yn y gaeaf yn codi i 10 gradd celsius, mae eu gallu i bridio yn gostwng.
"Mae'n rhan o'r rheswm pam mae eog yr Iwerydd yn prinhau. Mae cymaint o rywogaethau ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio gan lu o ffactorau, ond mae newid hinsawdd ar ben hynny hefyd."
Cynllun gwerth £9m
Mae'r Tywi - sy'n llifo o Lyn Brianne - yn un afon y mae CNC yn bwriadu ei gwella drwy gynllun gwerth £9m.
Bydd y prosiect '4 Afon LIFE' hefyd yn gwella afonydd Teifi, y Cleddau a'r Wysg.
Mae'r prosiect pum mlynedd wedi'i ariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru a'i nod yw gwella cynefinoedd, lleihau bygythiad llifogydd, ac amddiffyn coridorau afonydd a lleihau maetholion rhag mynd i mewn i ddyfroedd.
Bydd 50,000 o goed llydanddail yn cael eu plannu ger yr afonydd - er mwyn gwella cynefinoedd yn ogystal â rhoi cysgod yn ystod hafau poethach.
Dywedodd Mr Thomas fod prosiect CNC arall yn cael ei yrru gan bryderon newid hinsawdd.
"Un o'n darnau mwyaf o waith sydd ar y gweill yw adfer mawndiroedd sy'n wirioneddol bwysig o ran newid hinsawdd. Mae mawndir yn dal llawer iawn o garbon," meddai.
"Os yw mawndiroedd yn sychu neu'n cael eu draenio maen nhw'n rhyddhau llawer o garbon, felly mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i wrthdroi'r sychu."
"Cyfrifoldeb i genedlaethau'r dyfodol"
Er gwaethaf targedau newydd a osodwyd yn COP27 mae rhai yn ofni ei bod yn rhy hwyr i osgoi effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.
Ond dywed yr Athro Steve Ormerod fod yn rhaid i gamau i leihau ac amsugno allyriadau gynyddu.
"Mae llawer ohonom ni sy'n gweithio yn y maes amgylcheddol yn teimlo anobaith o dro i dro ynghylch pa mor ddrwg y gall pethau fynd," meddai.
"Ond mae'n rhaid i ni barhau i obeithio bod penderfyniadau y gallwn eu gwneud a chamau y gallwn eu cymryd.
"Yn y bôn mae gennym ni gyfrifoldeb i genedlaethau'r dyfodol a'r hyn y gallent wynebu os byddwn yn gwneud y penderfyniadau anghywir nawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022