Mis mêl 'perffeth' yn dilyn Cymru yng Nghwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Beca a Richard yn treulio'u mis mêl yng Nghwpan y Byd - ac mae ffrind oedd yn y briodas gyda nhw hefyd

Mae pâr o Gymru a briododd fis diwethaf yn cael modd i fyw wrth dreulio'u mis mêl yn y Dwyrain Canol yn dilyn tîm pêl-droed Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.

Roedd Beca a Richard Thomas eisoes yn trefnu eu priodas, yn ystod wythnos ganol tymor yr ysgolion, cyn i dîm Robert Page sicrhau lle yn y rowndiau terfynol.

Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast fe ddywedodd Beca bod y ddau wedi cytuno y buasai'r cyfle i'w gwylio yn Qatar yn "fis mêl perffeth".

Maen nhw'n aros yn Dubai, yng nghwmni ffrindiau oedd hefyd yn y briodas.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe briododd Beca a Richard ryw bythefnos yn ôl

Roedd y ffrindiau eisoes wedi trefnu gwesty yn y wlad ac fe benderfynodd Beca a Richard i wneud yr un peth.

"Dan ni'n mynd drosodd ar y shuttle flights o Dubai i Qatar sy'n cymryd tua awr," meddai Richard.

"Mae'n fantastic yma. Mae'n lot rhatach yn fan hyn na yn Qatar."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Beca a Richard Thomas yn y stadiwm nos Lun i weld gêm gyntaf Cymru yng Ngrŵp B

Roedd yna ychydig o nerfusrwydd wrth deithio i weld y gêm gyfartal nos Lun yn erbyn UDA.

Roedd gyrrwr tacsi wedi awgrymu "bod 'na broblem yn mynd i fod gyda'r siorts o'n i'n gwisgo, a Beca ddim yn gwisgo sleeves".

"Oedd Beca'n ofnus i gyd ar y ffor' yna yn meddwl bod nhw ddim am adael ni fewn i'r wlad," meddai Richard, ond doedd dim rheswm i boeni yn y pen draw.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n cymryd awr i deithio o Dubai i Qatar

"Ers glanio, mynd ar y shuttle bus, mynd ar y metro, mae 'na gymaint o bobol yna yn helpu allan... miloedd o staff.

"Oedd o'n ddigon hawdd mynd i'r stadiwm ac roedd yr awyrgylch ar y diwrnod i gyd yn fantastic... oedd o'n anhygoel."

Cytunodd Beca bod "pawb jyst mor gyfeillgar ac os oedden ni'n colli'n ffordd, wel jest dilyn y môr coch".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae popeth wedi mynd yn hwylus hyd yn hyn, medd y cwpl, wrth iddyn nhw deithio rhwng Dubai a Qatar

Rhwng y gemau, mae modd ymlacio a "teimlo fel bod ar wyliau" wrth wneud y mwyaf o'u cyfnod mewn gwlad wahanol.

Mae'r cyfle i rannu'r profiad gyda chefnogwyr o wledydd eraill yn "anhygoel" - er, gyda gymaint yn aros tu hwnt i Qatar ac yn teithio yno'n benodol i wylio'r gemau, mae'r rheiny'n tueddu i fod yn gefnogwyr timau eraill sy'n chwarae ar yr un diwrnod â Chymru.

"Da ni 'di gweld grŵp o tua 200 o ffans Senegal yn mynd drosodd gyda'u dryms a cyrn yn canu a dawnsio ar y strydoedd," meddai Richard.

Dywedodd Beca: "Mae pawb yn hapus - mae pawb yn dod ymlaen."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Beca a Richard yn rhannu'r cyffro o fod mewn cystadleuaeth mor bwysig gyda chefnogwyr gwrthwynebwyr nos Lun, UDA

Roedd y pâr priod newydd yn eistedd yng nghanol llawer o gefnogwyr y gwrthwynebwyr wrth wylio'r gêm gyntaf nos Lun.

Maen nhw'n edrych ymlaen at gael eistedd gyda chefnogwyr y Wal Goch pan fydd Cymru'n herio Iran fore Gwener.

"Bydd rhaid i ni guro o ryw tri neu bedwar o goliau - dibynnu sut mae Lloegr yn 'neud yn erbyn America," dywedodd Richard.

"Dwi'n meddwl bydd o'n dod lawer i wahaniaeth golia' yn y grŵp ar gyfer yr ail safle."