Camu o'r anialwch pêl-droed rhyngwladol ar ôl 64 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gêm Cymru UDA - 'Profiad hollol emosiynol'

Mae 64 mlynedd yn gyfnod hir iawn i'w dreulio yn anialwch y byd pêl-droed rhyngwladol.

Degawdau o ddisgwyl, o ddyheu, o dorcalon, o anobaith, o dderbyn ei bod hi'n bosib na welwch chi'r gwahoddiad hwnnw i'r wledd fawreddog fyth eto.

Felly pan ddaeth yr alwad, doedd dim dewis gan y Wal Goch ond teithio i Qatar i'w gweld â'u llygaid eu hunain - jyst i wneud yn siŵr nad mirage oedd y cyfan.

Ac ar ôl yr holl gyffroi, yr holl drafod, yr holl ymaros - o'r diwedd, daeth hi hefyd yn amser am ychydig o Bale-droed!

Roedd awyrgylch y noson gynt yn wahanol i unrhyw gêm Cymru arall oddi cartref.

Fel arfer ar y pwynt yna mae'r Wal Goch eisoes wedi meddiannu rhan o'r ddinas, gan iro'u lleisiau ar gyfer yr hyn sydd i ddod.

Ond sleifio mewn i Doha wnaeth y rhan fwyaf o gefnogwyr Cymru y tro hwn, ar hediadau hwyr nos Sul, neu yn oriau mân fore Llun - syth i'r gwely, yn barod am y diwrnod mawr.

Nid bod hwnnw'n ddiwrnod o yfed mawr, chwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr Cymru yn cyrraedd y parti cyn y gêm

Llwyddodd rhai cefnogwyr lwcus i ddod o hyd i ambell far ble roedd modd cael peint am lai na £10.

Ond i'r rhan fwyaf, parti Gôl Cymru yn yr Intercontinental oedd y cyrchfan, gyda'r pecyn alcoholig rhataf yn £80 am bum diod a phryd sydyn o fwyd.

Roedd 'na enwau mawr yn darparu'r adloniant - Dafydd Iwan a'r Barry Horns, a chyfle fel yr arfer i gwrdd â ffrindiau hen a newydd eto.

Ond doedd hi ddim mor fyrlymus â'r disgwyl, chwaith - cymysgedd o bosib o nerfau, a rhwystredigaeth fod dim modd yfed yn yr un modd ag adref (a'r ffaith eu bod nhw'n gwylio Lloegr yn ennill 6-2 yng ngêm arall y grŵp).

Awyrgylch yn adeiladu

Doedd neb eisiau methu'r gêm fawr chwaith, ac felly yn lle cyrraedd mewn un haid fawr i Stadiwm Ahmad Bin Ali, roedd y grwpiau'n cyrraedd yn dameidiog dros gyfnod o ryw deirawr.

Tu mewn i'r stadiwm, a phawb mewn awyrgylch fwy cyfarwydd, dechreuodd y canu o ddifrif - pawb yn adeiladu tuag at y foment fawr.

Nid y gic gyntaf wrth gwrs, ond y tro cyntaf erioed y byddai llwyfan mwya'r byd yn cael clywed anthem orau'r byd.

Wnaeth y Wal Goch ddim siomi, gan floeddio Hen Wlad Fy Nhadau i'r entrychion wrth i ambell ddeigryn lifo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Timothy Weah yn dathlu rhoi'r Unol Daleithiau ar y blaen

Buan y trodd hynny'n floeddiadau o rwystredigaeth.

Roedd Cymru'n sobor o sâl yn yr hanner cyntaf, a'r syndod mwyaf oedd nid bod yr UDA wedi sgorio, ond na wnaethon nhw yn gynt, ac na chawson nhw fwy nag un.

Fe aeth y cefnogwyr drwy'r rhestr caneuon yn ddiwyd, ond gyda llai o gwrw yn eu boliau nag arfer, doedd yr un hwyl ddim yno - a gôl Timothy Weah yn eu distewi'n llwyr.

Ar y meicroffon hanner amser fe ymbiliodd Rhydian Bowen Phillips, rhan o dîm cyhoeddi'r stadiwm, am floedd gan y crysau cochion, a chael ymateb mud yn ôl.

Ond â phob parch i Rhydian, nid Kieffer Moore mohono.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Newidiodd patrwm y gêm ar ôl i Kieffer Moore ddod i'r cae

Bale yn ysgwyddo'r baich

Pan ddaeth y cawr i'r cae wedi'r egwyl fe ddeffrodd Cymru o'r diwedd - y chwaraewyr a'r cefnogwyr - ac am y tro cyntaf, roedd hi'n teimlo ychydig bach fel bod yn ôl yn Stadiwm Dinas Caerdydd unwaith eto.

Pan roddwyd y gic o'r smotyn, byr oedd y dathliadau, a sawl un yn cofio Bale yn tanio ergyd debyg i'r gofod yn yr Ewros llynedd yn Baku.

Ond pwy oedd mor ffôl ag amau dyn sydd wedi achub croen y tîm yma dro ar ôl tro, sydd yn gwybod cystal â neb sut i ysgwyddo'r baich pan mae'r pwysau ar ei fwyaf?

Gyda 3,000 yn gweddïo yn y stadiwm - a thair miliwn arall adref - fe gladdodd Bale y benalti orau iddo ei chymryd erioed dros ei wlad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim angen amau cywirdeb Gareth Bale o'r smotyn

Wedi'r gorfoledd roedd hi'n amser cnoi ewinedd, a'r ofn o ildio eto yn drech na'r dyhead i sgorio ail.

Ond mewn gornest ble nad oedd unrhyw un eisiau colli, roedd hynny'n ddigon da.

Gyda'r gêm ddim yn gorffen nes hanner nos yn Doha, roedd hi'n ddiwrnod newydd erbyn i'r cefnogwyr lifo allan o'r stadiwm am eu gwlâu.

Newid y gêm

Ac er gwaetha'r lleoliad ac amgylchiadau anarferol, roedd yna deimlad hefyd fod yr achlysur wedi nodi pennod newydd hefyd.

"Nes i erioed feddwl bydden i'n gweld y diwrnod yma," meddai William Cable, sy'n cofio Cymru'n chwarae yng Nghwpan y Byd 1958 pan oedd yntau'n fachgen 16 oed.

"Ni yma nawr, ac mae'n rhaid i ni 'neud y mwya' ohono fe."

Wrth adael y stadiwm, disgrifiodd Ffion Tasker yr eiliad y tarodd ergyd Bale gefn y rhwyd.

"Ddaru pob peth newid. O fynd o feddwl bod genna ni ddim gobaith, i hynna. 'Naeth o newid y gêm yn gyfan gwbl."

Gallai'n hawdd fod wedi bod yn sôn am yr effaith ar Gymru, o fod wedi cyrraedd llwyfan mwya'r byd o'r diwedd.

Mae ffigyrau swyddogol ar gyfer sianeli Saesneg wedi dangos hefyd fod mwy o bobl yn y DU wedi gwylio gêm Cymru neithiwr na fu'n gwylio gêm Lloegr yn y prynhawn.

7.4 miliwn o bobl ar gyfartaledd fu'n gwylio Lloegr ar BBC One, tra mai 9.4 miliwn oedd y ffigwr ar gyfer gêm Cymru ar ITV.

Ond mae hynny'n siŵr o fod yn rhannol oherwydd yr amseroedd - roedd cic gyntaf Lloegr am 13:00 tra bod Cymru wedi dechrau am 19:00.

Dyw ffigyrau gwylio S4C ddim wedi'u cynnwys yn y rheiny chwaith. Mae BBC Cymru wedi gofyn i S4C am eu ffigyrau nhw.