Yr hwyl a rhai trafferthion i gefnogwyr yn Qatar

  • Cyhoeddwyd
Cefnogwyr Cymru yn Doha nos LunFfynhonnell y llun, Neil Hall/EPA-EFE/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Er mor hapus roedd cefnogwyr o weld Cymru'n chwarae yng Nghwpan y Byd nos Lun, fe gafodd rhai drafferthion ymarferol cyn ac ar ôl y gêm

Mae problemau gyda llety, trafnidiaeth a thocynnau ymhlith y trafferthion sydd wedi taro cefnogwyr Cymru yn Doha yn ystod Cwpan y Byd.

Daw hynny wedi i swyddogion diogelwch ofyn i gyn-gapten Cymru, Yr Athro Laura McAllister, dynnu het fwced enfys wrth fynychu gêm Cymru a'r UDA nos Lun.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnal trafodaethau gyda FIFA ar y mater, ac mae Cymdeithas Cefnogwyr Cymru hefyd yn dweud fod problemau o gwmpas y stadiwm wedi eu codi gyda nhw.

Ond gyda miloedd o Gymry bellach yn y ddinas ar gyfer y twrnamaint, mae llawer hefyd wedi bod yn mwynhau'r awyrgylch gyda chefnogwyr y gwledydd eraill.

Mae Aeron a Catrin o Sanclêr wedi teithio i Qatar gyda'u plant Seren, 14, a Rhys, 13.

"Doedd e ddim mor ddrwg â beth oedd y cyfryngau'n 'neud e allan i fod," meddai Aeron.

"Mae'n le gwahanol, gyda gwahanol bethau i wneud."

Ychwanegodd Catrin bod angen gwneud "lot o gerdded" o gwmpas y ddinas.

"Hwnna yw cwyn mwya'r plant!" meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Aeron a Catrin gyda'u plant Seren a Rhys

Ond mae'n canmol yr awyrgylch yn Doha, yn enwedig gyda chefnogwyr y gwledydd eraill.

"Mae pobl eisiau lluniau gyda ni. Fi wrth fy modd 'da hynny."

Cytuno mae Rhys fod yr awyrgylch "grêt".

"Naethon ni weld criw mawr o Saudi Arabia yn neidio lan a lawr ac yn canu ar ôl curo'r Ariannin," meddai.

'Lle anhygoel'

Dywedodd Mark Williams o Wrecsam fod pawb i'w gweld mewn "hwyliau da" yno.

"Dwi mor hapus i fod yng Nghwpan y Byd, s'dim ots 'sa fo ar y lleuad," meddai.

"Ond mae'n lle anhygoel. Dod allan yn y nos mae 'na oleuadau ym mhob man, mae'n lle braf i fod."

Ychwanegodd fod rhai "rhwystredigaethau", gan fynegi cydymdeimlad â'r rheiny gafodd drafferthion gyda dillad patrwm enfys wrth geisio mynd i wylio Cymru nos Lun.

"Ond roedden ni'n rhyw ddeall mai fel 'na oedd hi'n mynd i fod cyn dod yma," meddai.

"Felly 'dan ni'n bod yn realistig a thrio 'neud y gorau o bethau tra 'dan ni yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mark Williams a Wyn Roberts

Mae Wyn Roberts o Lanfairfechan yn teimlo bod yr awyrgylch hefyd yn adeiladu fesul diwrnod.

"Mae'n amlwg bod ganddyn nhw ddigon o bobl i sicrhau 'trefn' yma," meddai'n awgrymog.

"Ond mae bod yma just yn wefr. 'Dan ni'n cerdded drwy'r Souq ac mae pobl yn 'nabod ni, deud 'Wales, Wales, Gareth Bale'. Mae'n arbennig."

Trafferth tocynnau

Serch hynny roedd trafferthion tocynnau yn broblem a effeithiodd ar nifer o gefnogwyr Cymru wrth iddyn nhw geisio mynd i Stadiwm Ahmad Bin Ali i wylio'u tîm yn herio'r UDA.

Roedd Aled Thomas o Aberystwyth yn un o'r rheiny ble doedd ei app tocynnau ddim yn gweithio, ac fe aeth i'r stadiwm yn gynnar i geisio datrys y broblem.

"Yn y diwedd ar ôl rhyw awr a hanner o ddim symud fe ddechreuodd y swyddfa docynnau ddechrau rhoi tocynnau papur allan," meddai.

Ychwanegodd ei fod dal yn ansicr a fydd yn rhaid iddo wneud yr un peth ar gyfer dwy gêm nesaf Cymru, ond bod y "fraint" o weld Cymru yng Nghwpan y Byd yn trechu unrhyw ofnau.

"Mae'r croeso 'dyn ni 'di cael yn grêt, pawb yn hapus i helpu yn enwedig pan dwi'n teithio 'efo Dad sydd yn defnyddio ffon i gerdded."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Thomas yn gobeithio na fydd rhagor o drafferthion gyda'i docynnau

Nid dyna'r unig drafferthion a gafwyd o gwmpas y stadiwm, meddai Paul Corkery o Gymdeithas Cefnogwyr Pêl-droed Cymru, gyda'r stiwardio o gwmpas y Metro yn un o'r cwynion cyson maen nhw wedi ei dderbyn.

"Maen nhw i gyd yn gyfeillgar ac yn siarad Saesneg ac yn trio eu gorau, ond roedd lot o ddryswch gyda sawl un ohonyn nhw. Doedden nhw ddim yn gwybod pa gyfeiriad i anfon pobl, er enghraifft," meddai.

"Chi'n sôn am hanner milltir, neu filltir o gerdded, pan ddyle fe fod yn 100 llath."

Colli hediad

Gyda chiwiau hirfaith i adael y stadiwm ar y metro, fe fethodd yr ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis ei hediad yn ôl i Dubai ble mae'n aros gyda gweddill ei deulu rhwng y gemau.

Dywedodd ei ferch Gwenno Morris ar Twitter ei fod "dri munud yn hwyr i'r check-in oherwydd metro di-drefn Doha", a'i fod wedi bod yn sownd felly yn y ddinas "heb feddyginiaeth ei galon".

Llwyddodd Mr Francis i deithio ar hediad arall allan o'r wlad yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Pete Thomas gyda chwrw 0% yn y stadiwm - mae alcohol yn anodd neu’n ddrud i gael gafael arno yn Doha

Dyna y bu'n rhaid i Pete Thomas o Gaerffili ei wneud hefyd ar ôl darganfod nad oedd ei lety yn Doha ar gael.

Dywedodd Mr Thomas ei fod ef a ffrind wedi bwriadu aros yn Qatar am ddwy noson cyn dychwelyd i Dubai, ond wnaethon nhw ddim mynd draw i'w llety ym mhentref cefnogwyr y Free Zone nes ar ôl gêm Cymru.

"Roedden ni am dair awr mewn ciw cyn cael gwybod nad oedd mwy o stafelloedd ar gael," meddai.

Ffynhonnell y llun, Pete Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Pete Thomas yn ciwio am dair awr am lety cyn cael gwybod nad oedd ystafell ar gael

"Roedd fy ffrind wedi bwcio hwn fisoedd yn ôl, a hynny am $207 y noson.

"Felly aethon ni i'r maes awyr a phrynu tocynnau newydd i Dubai.

"Mae'r trefniadau yn ofnadwy."