Pobl sâl yn 'methu fforddio bod gartref o'r gwaith'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer cynyddol o bobl yn gwrthod nodyn doctor i ddweud eu bod yn rhy sâl i weithio am na fedran nhw fforddio cymryd amser i ffwrdd, yn ôl meddygon teulu.
Dywedodd Dr Rowena Christmas fod cleifion ar gytundeb sydd ond yn rhoi ychydig o dâl yn ystod absenoldeb salwch yn gwrthod nodiadau oherwydd pwysau costau byw.
Roedd hi'n dweud hefyd fod yna dystiolaeth fod tlodi yn cael effaith andwyol ar iechyd pobl.
Dywedodd fod y sefyllfa yn gwneud i feddygon deimlo'n "anobeithiol" a'u bod yn wynebu problemau na fedran nhw eu datrys.
Diffyg fitaminau
"Dwi'n gweld mwy o ddiffygion mewn profion gwaed, mwy o ddiffyg fitamin B12," meddai Dr Christmas.
"Dwi'n siwr fod hynny'n gysylltiedig efo pobl yn bwyta'n wael, am nad ydyn nhw'n gallu fforddio cystal bwyd ag o'r blaen."
Dywedodd y meddyg teulu o Sir Fynwy, sydd yn gadeirydd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu yng Nghymru, ei bod hi hefyd yn gweld mwy o broblemau anadlu am fod pobl yn osgoi gwresogi eu cartrefi, yn ogystal â mwy o drais domestig.
Mae'r sefyllfa yn gwneud i feddygon teulu deimlo'n"anobeithiol," meddai.
Dywedodd Dr Kamilla Hawthorne, meddyg teulu yn Aberpennar yn Rhondda Cynon Taf, fod cleifion yn dweud wrthi fod eu hiechyd meddwl yn dirywio oherwydd pwysau ariannol.
Mewn cyfweliad â'r Guardian, dywedodd Dr Hawthorne fod pobl yn "aml ddim yn cymryd amser i ffwrdd, pan mae'n eglur eu bod angen gwneud hynny".
"Mae'r rhain yn bobl ddylai, yn ddelfrydol ddim bod yn gweithio am bod ganddyn nhw gyflwr cronig fel asthma neu diabetes, ac yn aml problemau iechyd meddwl, rhai yn reit ddifrifol," meddai.
'Dim dewis' ond dychwelyd i weithio
Dywedodd Emma Watkins, cynorthwydd gofal iechyd o Bort Talbot ei bod hi'n teimlo bod yn rhaid iddi ddod â'i habsenoldeb mamolaeth i ben yn gynnar ar ôl y Nadolig i dalu'r biliau.
"Dwi ddim eisiau mynd yn ôl i weithio ond does gen i ddim dewis", meddai. "Mae fy mhartner yn dioddef gydag Asperger's a ddim yn cael help.
"Weithiau dim ond fi sy'n gwethio a gorfod talu'r biliau".
Dywedodd nad ydy'r tâl mae hi'n dderbyn pan mae hi i ffwrdd yn sâl yn ddigon i fyw arno.
"Dwi ishe deud wrth Aelodau Seneddol: Pam na wnewch chi drio byw ar £97 yr wythnos? Achos fydden nhw ddim yn gallu.
"Does gan i ddim dewis. Mae treth cyngor yn cynyddu, mae bwyd yn cynyddu".
Yn ôl Gareth Jarman, cadeirydd Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng nghanolbarth Cymru, sy'n cynrychioli cyflogwyr, mae problem tâl salwch isel yn fwy amlwg yng Nghymru oherwydd bod nifer o bobl yn gweithio i fusnesau bach.
"Mae'n bosib nad oes ganddyn nhw'r adnoddau i helpu pobl yn yr un ffordd â busnesau mwy.
Ond roedd yn pwysleisio ei bod yn "hollbwysig" fod cyflogwyr yn edrych ar ôl eu staff.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022