Cwpan y Byd: Joe Allen yn 'holliach' ar gyfer gêm Iran

  • Cyhoeddwyd
Joe AllenFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y capten Gareth Bale y bydd cael Joe Allen yn y tîm yn "hwb enfawr"

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen yn "holliach ac yn ysu i fynd", meddai'r rheolwr Robert Page wrth i'r tîm baratoi i wynebu Iran yng Nghwpan y Byd.

Mae anaf i linyn y gar wedi rhwystro chwaraewr Abertawe rhag cymryd rhan mewn gêm ers mis Medi.

Ar ôl bod yn ymarfer ar ei ben ei hun ers i Gymru gyrraedd Qatar, mi wnaeth Allen ymuno â gweddill y garfan ar gyfer sesiwn dydd Mercher.

Ond er hynny, ni wnaeth y rheolwr ddweud y byddai Allen yn rhan o'r tîm sy'n dechrau'r gêm fore Gwener.

Dywedodd Page: "Rhaid i ni wneud penderfyniad - beth yw'r peth gorau i'r tîm.

"Mae'r tîm meddygol wedi bod yn eithriadol, a nhw yw'r rheswm ei fod e'n ffit nawr.

"Roeddem ni gyd yn poeni amdano - ffordd oedd e'n cadw i dorri lawr.

Disgrifiad,

"Mae e'n rhoi ni mewn safle da i gallu mynd 'mlan i gael mwy o bwyntiau yn y grŵp" meddai Rubin Colwill

"Pe bai ni wedi ei chwarae fe yn y gêm gyntaf ac yntau wedi torri lawr fydde fe 'di bod allan yn gyfan gwbl.

"Fydden ni wedi gallu'i wthio fe ar gyfer yr UDA, ond am bod ganddo' ni hyder y bydde' ni'n dod allan o'r grŵp, dwi isie fe ar gyfer y tymor hir."

Dechreuodd Cymru eu hymgyrch Cwpan Byd gyntaf ers 64 mlynedd gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn yr Unol Daleithiau.

Maen nhw'n wynebu Iran yn eu hail gêm yng ngrŵp B ddydd Gwener, cyn wynebu Lloegr yr wythnos nesaf.

'Croesi pob blewyn o laswellt'

Dywedodd capten Cymru Gareth Bale: "Mae Joe yn chwaraewr enfawr i ni - dyw e ddim yn cael y clod mae e'n haeddu.

"Mae ei gael e yn hwb enfawr gyda dwy gêm ar ôl, felly ni'n gobeithio y bydd e'n dod ymlaen neu yn dechrau ac yn gwneud be' mae e'n wneud orau - croesi pob blewyn o laswellt."

Mi allai Cymru gymryd cam sylweddol tuag symud allan o'r grŵp pe baen nhw'n cael buddugoliaeth yn erbyn Iran, gafodd eu curo 6-2 gan Loegr yn eu gêm gyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cyn gapten Cymru Laura McAllister wedi gorfod diosg ei het "wal enfys" ar gyfer gêm Cymru v UDA

Yn y cyfamser mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud bod FIFA wedi cadarnhau y bydd cefnogwyr fydd yn y stadiwm ar gyfer y gêm yn cael mynd â hetiau a baneri enfys i gefnogi'r gymuned LHDTC+ gyda nhw.

Roedd cefnogwyr wedi gorfod tynnu eu hetiau cyn cael mynediad i Stadiwm Ahmad Bin Ali ar gyfer gêm dydd Llun.

Roedd CBDC wedi dweud y byddai'n codi'r mater gyda FIFA.

Dywedodd CBDC ddydd Iau bod "pob lleoliad Cwpan y Byd wedi cael cyfarwyddyd i ddilyn y rheolau a gafodd eu cytuno".