Cwpan y Byd: Joe Allen yn ôl yn hyfforddi yn dilyn anaf

  • Cyhoeddwyd
Joe AllenFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r chwaraewr canol cae, Joe Allen, wedi dychwelyd i hyfforddi'n llawn wrth iddo obeithio gwella o anaf i ymuno yn ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd.

Mae'r anaf i linyn y gar wedi ei gadw oddi ar y cae ers mis Medi.

Ers i garfan Cymru gyrraedd Qatar, mae Allen wedi bod yn ymarfer ar ei ben ei hun.

Ond fe ymunodd â gweddill y garfan ar gyfer sesiwn ymarfer ddydd Mercher.

Disgrifiad,

"Mae e'n rhoi ni mewn safle da i gallu mynd 'mlan i gael mwy o bwyntiau yn y grŵp" meddai Rubin Colwill

Fe ddechreuodd Cymru eu hymgyrch gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 64 o flynyddoedd gyda gêm gyfartal yn erbyn UDA nos Lun.

Mae'r ymosodwr Kieffer Moore wedi disgrifio'i obaith o fod ymhlith yr 11 sy'n dechrau ail gêm Cymru yn erbyn Iran fore Gwener, ar ôl dod ymlaen fel eilydd wedi'r egwyl nos Lun a helpu troi'r fantol yn yr ail hanner.

Dywedodd ei fod wedi mynd ati i fod yn bresenoldeb amlwg yn y gêm "a gwneud be' o'n i'n gallu, felly gobeithio dwi mewn sefyllfa i ddechra' [o'r gic gyntaf] ddydd Gwener," dywedodd.

"Ro'n i'n gw'bod be' oedd angen i mi neud ar hanner amser..."

Ffynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Kieffer Moore wahaniaeth mawr i berfformiad Cymru yn ail hanner y gêm yn erbyn yr Unol Daleithiau nos Lun

Ychwanegodd bod "pob chwaraewr eisiau chwarae pob gêm mewn Cwpan y Byd".

"Dyma be' 'dach chi'n breuddwydio amdano fel bachgen bach - chwarae mewn cystadlaethau Cwpan y Byd," meddai.

"Os 'dwi'n llwyddo i ddechra' o'r dechra' ddydd Gwener, bydd yn foment balch iawn i fi a fy nheulu ac un a fyddai wedi cymryd lot o waith caled ac ymroddiad i'w chyrraedd."

Mae'r gêm yn erbyn Iran yn dechrau am 10:00 fore Gwener - fe allwch chi ddilyn y cyfan ar lif byw BBC Cymru Fyw o 08:00.