Hetiau enfys i gael eu caniatáu yng ngêm Cymru v Iran
- Cyhoeddwyd
'Buddugoliaeth' cael gwisgo'r enfys i gêm Cymru ac Iran
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cael ei sicrhau y bydd hetiau bwced enfys yn cael eu caniatáu yng ngêm Cymru yn erbyn Iran.
Fe ysgrifennodd FIFA at gorff llywodraethu pêl-droed Cymru yn addo hynny yn ôl y prif weithredwr, Noel Mooney.
Fe gafodd staff yn y stadiwm eu cyhuddo o beidio a pharchu cefnogwyr LHDTC+ cyn gêm gyntaf Cymru'n erbyn UDA nos Lun, gan ofyn iddyn nhw dynnu eu hetiau lliwgar.
Dywedodd yr Athro Laura McAllister, sy'n gyn-gapten ar dîm pêl-droed merched Cymru, iddi gael ei thrin yn "llawdrwm" pan ofynnodd staff iddi dynnu ei het.
Cyn y gêm yn erbyn Iran fore Gwener, dywedodd bod y tro pedol yn "fuddugoliaeth".

Cafodd Laura McAllister ei holi gan swyddogion diogelwch yn y stadiwm am ei het enfys
Wrth siarad cyn gêm Cymru'n erbyn Iran fore Gwener, fe rybuddiodd Mr Mooney bod yn rhaid i'r cadarnhad gael ei gymryd "yn arwynebol".
Ychwanegodd: "Fe wnaethon ni ysgrifennu at FIFA gan ofyn am sicrwydd ac fe gafon ein sicrhau bod y stadiwm yn cydymffurfio.
"Mae'n rhaid i ni ei gymryd yn arwynebol na chaiff unrhyw un broblem yfory [ddydd Gwener].
"Os y bydd gofyn i unrhyw un dynnu eu hetiau yfory, fe wnawn ni ei ddwysáu [y mater].

Mae'r rhwymyn lliwgar yn rhan o ymgyrch i hybu amrywiaeth a chynhwysiad
Fe ddaeth cadarnhad fore Llun na fyddai capten Cymru, Gareth Bale, yn gwisgo rhwymyn braich OneLove yng Nghwpan y Byd wedi'r cwbl.
Roedd Cymru yn un o saith gwlad oedd yn bwriadu gwisgo'r rhwymyn - sy'n rhan o ymgyrch i hybu amrywiaeth a chynhwysiad - a ddechreuodd cyn Euro 2020.
Ond dywedodd FIFA y byddai'n cosbi unrhyw chwaraewr neu wlad oedd yn defnyddio'r rhwymyn.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
'Crac'
Wrth edrych yn ôl ar yr hyn ddigwyddodd cyn gêm UDA, dywedodd Mr Mooney ei fod "yn dal yn hynod o grac".
"Mae ein chwaraewyr yn byw eu bywydau'n breuddwydio am chwarae yng Nghwpan y Byd a chynhwysiant yw popeth yng Nghwpan y Byd.
"Roedd cymryd hynny oddi wrthom ar fore'r gêm yn gwbl afresymol i ni, ry'n ni'n dal i ddod dros hynny."
Fe wnaeth Mr Mooney wrthod yr awgrym fod y gymdeithas bêl-droed wedi ildio, gan ddweud eu bod am i'r chwaraewyr "gadw eu ffocws" ar y gêm.
Dywedodd y byddai'r gymdeithas wedi derbyn sancsiynau neu ddirwyon, ond ychwanegodd: "I siarad am gardiau melyn, cardiau coch, tynnu pwyntiau neu i'w roi ar y chwaraewyr, mae hynny oddi ar y Raddfa Richter i ni."

Mae Noel Mooney yn gobeithio y bydd pwysau ar chwaraewyr yn cael eu lleddfu cyn gêm Iran
Wrth edrych tuag at y gêm yn erbyn Iran ddydd Gwener, dywedodd bod y gemdeithas yn gobeithio "tawelu pethau" a lleddfu'r pwysau oedd ar y chwaraewyr.
Gyda sicrwydd na fydd problemau ar gyfer cefnogwyr, dywedodd eu bod yn "ceisio bod yn bositif nawr".
"Ry'n ni wedi cyrraedd llwyfan y byd ond mae'r diwrnodau diwethaf wedi bod yn anodd," dywedodd.
"Dydy hi ddim wedi teimlo fel y Cwpan y Byd cynnes, cynhwysol fel gafodd ei addo.
'Ddim yn falch o'r dyddiau diwethaf'
Dywedodd Mr Mooney ei fod yn dymuno gweld "FIFA iach a chryf" a bod angen "adeiladu unrhyw bartneriaeth ar ymddiriedaeth".
"Mae wir yn ein poeni ni am y cyfeiriad sydd wedi ei gymryd, dy'n ni ddim yn falch o'r dyddiau diwethaf.
"Ond ry'n ni i gyd yn gefnogwyr pêl-droed ac eisiau i FIFA fod yn wych."
Wrth ymateb i'r drafodaeth gan rai cefnogwyr ddydd Llun am gymryd camau cyfreithiol, dywedodd Mr Mooney: "Dwi ddim wir yn siŵr y gallen ni wneud unrhyw beth cyfreithiol."


Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2022