Colofn Osian Roberts: 'Dim Kieffer Moore yw'r ateb bob tro'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts, yn dadansoddi gemau Cwpan y Byd Qatar 2022 yn arbennig ar gyfer Cymru Fyw.
Ag yntau yn aelod o dîm hyfforddi Cymru yn Euro 2016, mae Osian yn gyfarwydd â'r cyffro a'r heriau sy'n wynebu carfan Robert Page yn Qatar.
Dyma beth oedd ganddo i'w ddweud am y gêm yn erbyn yr UDA, a'r hyn y bydd rhaid i Gymru ei wneud i guro Iran...
Y cynllun gwreiddiol ddim wedi gweithio
Weithiau, mae dy gynlluniau di'n mynd allan drwy'r ffenest, a ti'n gorfod brwydro i gael dy hun yn ôl i mewn i'r gêm. Dyna'n union wnaeth Cymru. Mi roedd yr hanner cyntaf yn sâl o ran perfformiad, ond be' sydd yn bwysig ar yr adeg hynny ydi bo' chdi ddim yn disgyn ar ei hôl hi'n ormodol. Wrth gwrs, roeddan nhw ar ei hôl hi o un gôl, ond dw i'n meddwl bod hynny wedi eu deffro nhw. Mi wnaethon nhw sortio pethau allan yn ystod hanner amser.
Kieffer Moore ar y cae
Da iawn Rob Page am wneud y newid yna ar yr hanner, roedd o'r peth cywir i wneud, a'r amser yn iawn hefyd. O ganlyniad i hynny, mi gawson ni ddechrau da i'r ail hanner ac mi aethon ni o nerth i nerth - cnocio ar y drws am ychydig, meddwl os ydym ni'n mynd i gael y gôl 'na, ond y dyn ei hun wedyn, wrth gwrs, yn cael y gôl holl bwysig yna i ni, fel mae o wedi ei wneud lawer gwaith yn y gorffennol.
Neco Williams yn chwarae ar ôl colli ei daid
Mae'n sefyllfa eithriadol o drist i Neco, ond mae gan bob un o'r hogia' eu stori, eu cefndiroedd, a rhesymau gwahanol sydd yn gwneud pethau'n anodd.
Dyna pam, fel tîm, maen nhw'n gorfod helpu ei gilydd drwy gyfnodau fel hyn.
Mae o yn y lle gorau gan ei fod o gwmpas ei ffrindiau ac yn gallu canolbwyntio ar ei bêl-droed. Dwi'n siwr y buasai perfformiad Neco wedi gwneud ei daid yn ddyn balch iawn.
'Rhaid perfformio'n well yn erbyn Iran'
Y peryg mawr ar ôl gêm Lloegr yn erbyn Iran ydi bod pawb yn meddwl ei bod hi am fod yn 6-2 eto. 'Da ni angen canolbwyntio ar gael digon o goliau rhag ofn y bydd hi'n mynd i lawr i hynny ar ddiwedd y grŵp ond y peth pwysicaf ydi meddwl am sut ydan ni am ennill y gêm - dyna ydi'r nod cyntaf.
Dyna'n union wnaeth Lloegr, ac mi wnaethon nhw bethau yn hawdd iddyn nhw eu hunain drwy fod yn effeithiol, cael y goliau ar yr amser cywir, ac yna ennill yn eithaf cyfforddus.
Y peth pwysig i ni ydy canolbwyntio ar y perfformiad, a pherfformio'n well na 'naethon ni yn erbyn UDA. Mae hynny'n siŵr o ddigwydd rwan. Mae hynny'n rhoi cyfle da i ni gael y gôl gyntaf 'na, ac yna adeiladu ar hynny.
Kieffer Moore i ddechrau?
Dwi'n disgwyl i Kieffer Moore ddechrau'r gêm nesaf, oherwydd ei fod o wedi trawsnewid y gêm gyntaf i ryw raddau. Dydi hynny ddim yn golygu mai'r ateb bob tro ydi dechrau Kieffer Moore, gyda llaw. Mae'n dibynnu beth ydi'r gêm a beth mae'n ei alw amdano fo.
Roedd Rob Page yn meddwl bod y gêm gyntaf yn galw am Gareth Bale a Dan James i arwain y llinell flaen. Fel 'naeth pethau droi allan, roedd rhaid iddo fo newid, ac os nad ydy pethau'n gweithio gyda Kieffer Moore nos Wener, bydd rhaid newid unwaith eto i gynllun arall. Ond mae o'n sicr yn haeddu ei le i ddechrau.