Rob Page: Angen perfformaid i roi 'balchder i'n cefnogwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae Rob Page wedi cyfaddef bod ei chwaraewyr wedi gwywo dan bwysau yng Nghwpan y Byd a bod yn rhaid nawr dangos asgwrn cefn yn y gêm yn erbyn Lloegr.
Mewn cynhadledd i'r wasg yn Qatar ddydd Llun, dywedodd rheolwr Cymru ei fod yn bryd i'r chwaraewr dyfu i fyny neu, yn ei eiriau ef, wisgo'u "big boy pants".
Mae Cymru ar waelod Grŵp B ar ôl gêm gyfartal yn erbyn yr Unol Daleithiau a cholli i Iran.
Mae'n rhaid i Gymru guro Lloegr ddydd Mawrth i fod ag unrhyw obaith o gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth.
'Symud ymlaen'
"Rydym wedi gweithio mor galed i gyrraedd y sefyllfa yma," meddai Page.
"Fy rhwystredigaeth a fy siom i o ran y chwaraewyr yw nad ydym wedi dangos unrhyw beth tebyg i'r lefel o berfformiad wnaeth sicrhau ein bod yn cyrraedd Cwpan y Byd.
"Dyna go iawn sydd wedi fy siomi.
"Rydym wedi siarad am hyn, mae'n rhaid nawr tynnu llinell dan hynny."
Yn y gêm arall ddydd Mawrth bydd Iran, sydd yna ail yn y grŵp ar dri phwynt, yn wynebu'r Unol Daleithiau sydd â dau bwynt.
"Dyw hi ddim bwys am y canlyniad arall, pe bai ni yn mynd adre neu fynd ymlaen i'r rownd nesa, mae'n rhaid i ni roi perfformiad y bydd ein cefnogwyr yn falch ohono," meddai Page.
"Rydym am ymateb mewn modd positif, a byddai'n pigo tîm fydd yn mynd allan a rhoi popeth i'r achos."
Dim sicrwydd o ddechrau Bale a Ramsey
Yn y gynhadledd fe gafodd Page hefyd ei holi am Gareth Bale ac Aaron Ramsey, ac a fyddan nhw'n dechrau'r gêm ddydd Mawrth.
"Mae'n ofyn mawr i unrhyw un yn y math yma o amgylchedd i fynd eto o fewn pedwar diwrnod," meddai wrth ymateb.
"Rwy'n mynd i bigo tîm dwi'n meddwl gall fynd allan a chystadlu yn erbyn Lloegr, bod hynny gyda nhw neu hebddyn nhw. Dwi ddim am ddatgelu'r gyfrinach yna heddiw."
Ychwanegodd: "Os nad ydynt yn dechrau, ydyn nhw'n gallu gwneud impact? Dyna wastad y dilema wrth chwarae gemau fel hyn yn syth ar ôl ei gilydd.
"Pe bai nhw'n dechrau un gêm, ydyn nhw'n gallu dechau'r nesa. Bydd y ffordd dwi'n meddwl am y broblem ddim yn wahanol i beth dwi wedi wynebu o'r blaen.
"Pa un bynnag, os ydynt yn dod ymlaen a chael effaith ar y gêm neu'n dechrau a phara am awr neu 90 munud, maen nhw'n chwaraewyr talentog.
"Ry'n ni wedi derbyn beirniadaeth, a digon teg oherwydd y canlyniadau a dyna'r math o fusnes ry'n ni'n gweithio yno.
"Ry'n ni'n ddigon mawr i ysgwyddo hynny - dyw e ddim yn broblem - a nawr fe wnawn ni' fwrw 'mlaen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2022