Ateb y Galw: Miriam Isaac
- Cyhoeddwyd

Miriam Isaac
Y gantores, y gyflwynwraig ac aelod o griw Cabarela, Miriam Isaac, sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Hywel Pitts wythnos ddiwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy nghariad cyntaf oedd Alex oedd yn aros ar yr un maes carafanau â ni yn Ffrainc pan o'n i'n 3 mlwydd oed. O'dd o'n arfer dod i alw amdana i bob bore wrth weiddi 'Bonjooooour Miriaaaaaaam!'. Cute.

Ydych chi'n gallu adnabod pwy yw pwy o deulu'r Isaac yn y llun yma?
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
'Caeheulog' sef ty Mam a Dad a lle ges i fy magu. Mae'r tŷ yn dal lot o atgofion hwyl a hapus… O! A Clwb Ifor Bach a chippy lane yn ffefrynnau hefyd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Noson fy mhen-blwydd yn 30. Nes i wahodd pawb dwi'n absolutely caru i ddod i Tiny Rebel yng Nghaerdydd. Nes i neud playlist o fy hoff ganeuon a netho ni gyd yfed a dawnsio drwy'r nos. O'dd o'n briliant. Syml, ond effeithiol.

Miriam (chwith) gyda'i ffrindiau
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Gweithgar, meddylgar, 'laff'!
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Nath un o fy ffrindiau gorau anfon llun anaddas i'r grŵp whatsapp anghywir un tro a dwi 'rioed wedi chwerthin ar unrhywbeth gymaint yn fy mywyd!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Nes i gystadlu yn yr unawd Sioe Gerdd yn Eisteddfod y sir un tro a mynd MOR nyrfys hanner ffordd trwy'r gân, nes i ddechrau crio, deud 'sori' wrth bawb a rhedeg off y llwyfan. O'dd o'n nightmare!

Miriam (dde) gyda ffrindiau ac aelodau'r grŵp Eden
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Heno! Nes i wylio The Father ar Netflix hefo Anthony Hopkins ac Olivia Colman a nath 7 munud ola'r ffilm ddifetha' fi. Mi oeddwn i a fy flatmate Remy mewn BITS.


Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Gorfeddwl! A byrpio os dwi'n gyffyrddus hefo chi.

Miriam gyda'i chwaer, Elan
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Joe Lycett. Dwi isio bod yn ffrindiau gorau hefo fo! Mae o MOR hileriys ond hefyd mor wybodus a chydwybodol. Person ysbrydoledig iawn. A fysen ni'n cael laff dwi'n meddwl!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Hoff albym(s)! Spilt Milk gan Jellyfish, Hourglass gan James Taylor, Want One gan Rufus Wainwright ac ANTI gan Rihanna.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o'n teulu ni wedi gwisgo fyny fel Dad (Myfyr) ar gyfer Sul y Tadau!

Myfyr/Dad (canol) gyda Miriam ar y chwith iddo a photel o win yn ei llaw
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Roedd tedi panda gen i pan oeddwn i'n fach a nes i enwi fo ar ôl Dad (Myfyr). Enw rybish am banda - dydi o ddim hyd yn oed yn cyflythrennu! Peter y Panda, Peredur y Panda, Pat y Panda?! Na… Myfyr y Panda…
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Canu karaoke hefo fy nheulu a ffrindiau drwy'r nos wedyn cael paned o de ar ôl canu'r hits i gyd a siarad am yr holl amseroedd briliant da ni 'di cael!

Non Parry, Steffan Rhys Williams, Miriam Isaac
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Rihanna. Eicon. Cwîn!
Hefyd o ddiddordeb: