Ail gartrefi: Cyngor Conwy yn diddymu cynllun i gynyddu treth
- Cyhoeddwyd
Mae cyngor yng ngogledd Cymru wedi pleidleisio i ddiddymu eu penderfyniad blaenorol i godi premiwm treth y cyngor o 50% ar berchnogion ail dai.
Yn hytrach, fe fydd perchnogion ail dai yn Sir Conwy yn talu premiwm o 25% o fis Ebrill 2022, fel y maen nhw wedi ei wneud ers tair blynedd.
Bydd perchnogion cartrefi sydd wedi bod yn wag yn yr hir dymor yn talu premiwm o 50% o fis Ebrill.
Fe wnaeth cabinet Cyngor Sir Conwy hefyd bleidleisio o blaid cyflwyno'r opsiwn o gynyddu'r premiwm ar ail dai i 50% o 1 Ebrill 2023 os y maen nhw'n dymuno.
Er bod modd i gynghorau osod premiwm o 100% ar ail dai - cam mae Gwynedd wedi ei gymryd - roedd cynghorwyr Conwy yn ofni y byddai'r sir yn colli arian pe bai perchnogion yn penderfynu dynodi eu cartrefi yn dai gwyliau masnachol.
Mae hyn oherwydd er bod cynghorau yn gallu ennill incwm o dreth y cyngor, mae cyfran sylweddol o gyfraddau busnes - fel y rheiny mae perchnogion tai gwyliau'n eu talu - yn mynd i'r llywodraeth.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Cossey o gabinet Cyngor Sir Conwy ei fod yn dymuno gweld newid i ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru fyddai'n gwneud bywyd yn haws i gynghorau sydd yn delio â pherchnogion yn trosi eu cartrefi yn fusnesau.
'Cyfle am adolygiad pellach'
"Mae'n bwnc cynhyrfiol iawn, a dwi'n amau rhwng y 59 o gynghorwyr mae gennym ni'r sbectrwm cyfan o farn ar y pwnc" meddai.
"Rydw i wir yn gobeithio erbyn yr amser hyn flwyddyn nesaf bydd gennym ni ganllawiau newydd, rheolau newydd, ac na fydd angen i ni boeni am y peth oherwydd bydd hi'n utopia yn y farchnad ail dai a thai gwag."
Yn trafod yr opsiwn o godi'r premiwm flwyddyn nesaf, dywedodd y Cynghorydd Cossey: "Mae hyn yn ein caniatáu ni yn y gweithgor i gynnal adolygiad pellach o fewn y 12 mis hynny."
"Nid yw hyn yn golygu yn 2023 y byddwn ni'n cynyddu'r lefel i 50% neu 75% neu 100% neu ba bynnag canran. Mae'n rhoi'r cyfle i'r gweithgor ddelio efo'r sefyllfa o'r newydd yr adeg hyn flwyddyn nesaf.
"Pe na byddai lefel arwyddol gyda ni, yna byddai dim caniatâd gennym ni i wneud unrhyw benderfyniad ar gynyddu'r premiwm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2021