Premiwm ail gartrefi: Argymell eithrio mwy o ail dai

  • Cyhoeddwyd
Protest
Disgrifiad o’r llun,

O fis Ebrill bydd gan gynghorau'r hawl i godi premiwm treth gyngor o 300% ar ail dai a chartrefi gwyliau

Gall rhagor o berchnogion tai gwyliau osgoi gorfod talu hyd at 300% yn fwy o dreth cyngor y flwyddyn nesaf, yn ôl yr argymhellion newydd.

O fis Ebrill bydd gan gynghorau'r hawl i godi premiwm treth gyngor o 300% ar ail dai a chartrefi gwyliau sydd ddim yn cyrraedd y canllawiau newydd.

Mae hynny'n gynnydd sylweddol o'r 100% sy'n medru cael ei hawlio ar hyn o bryd.

Ond os caiff argymhellion Llywodraeth Cymru eu mabwysiadu fel rhan o'r ddeddf newydd, bydd eiddo yn cael ei eithrio o'r premiymau os mai dim ond fel llety gwyliau tymor byr y gellir ei ddefnyddio yn ôl yr amodau cynllunio.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi disgrifio'r argymhellion diweddaraf fel "tro pedol sylweddol", gan alw eto ar ddiwygio'r ddeddf ddaw i rym y flwyddyn nesa'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn dadlau ers tro bod sawl cymuned yng Nghymru yn rhy ddrud i bobl leol fyw ynddynt

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bwriad y newidiadau fydd yn dod i rym y flwyddyn nesaf yw datblygu "marchnad dai decach", a sicrhau bod perchnogion yn gwneud "cyfraniad teg i'r cymunedau lle maent yn berchen ar gartrefi neu'n rhedeg busnesau".

Mae'r newidiadau wedi cael eu croesawu gan ymgyrchwyr, sy'n dadlau ers tro bod sawl cymuned yng Nghymru yn rhy ddrud i bobl leol fedru byw ynddyn nhw.

Ond mae ymateb chwyrn wedi bod nid yn unig gan berchnogion ail dai ond gan berchnogion tai gwyliau, sy'n dadlau fod perygl i'r premiwm uwch niweidio'r diwydiant twristiaeth a'r cymunedau eu hunain.

O fis Ebrill bydd y meini prawf ar gyfer penderfynu bod llety hunanddarpar yn gymwys i dalu ardrethi annomestig yn hytrach na threth cyngor, ac unrhyw bremiwm ychwanegol, yn cael eu cynyddu.

Yn hytrach na chael ei osod am o leiaf 70 diwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i'r eiddo gael ei osod am o leiaf 182 diwrnod, a bod ar gael i'w osod am 252 o ddiwrnodau yn hytrach na 140.

Ond bydd eiddo yn cael ei eithrio o'r premiymau treth cyngor - hyd yn oed os nad ydynt yn cyrraedd y meini prawf newydd - os yw amodau cynllunio yn golygu mai dim ond fel llety gwyliau tymor byr y gellir ei ddefnyddio, neu'n ei atal rhag cael ei ddefnyddio fel prif breswylfa.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo pleidiau Mark Drakeford (ch) ac Adam Price (dde) o wneud "tro pedol sylweddol"

Daw'r newidiadau fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: "Rwy'n cydnabod teimladau cryfion darparwyr llety hunanddarpar yn eu hymateb i'r newidiadau i'r meini prawf gosod, ac rwyf wedi gwrando ar y sylwadau gan fusnesau unigol a chyrff sy'n cynrychioli'r diwydiant.

"Bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol a byddant yn sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle mae ganddyn nhw gartrefi neu lle maen nhw'n rhedeg busnesau."

Yn ôl cynrychiolydd Plaid Cymru, sydd wedi gweithio ar y cytundeb cydweithio, Sian Gwenllian AS: "Mae'r cyhoeddiad heddiw yn gam synhwyrol i'w gymryd er mwyn sicrhau bod y pecyn o fesurau rydyn ni'n ei gyflwyno yn gallu cael ei weithredu mewn ffordd mor effeithiol â phosib - i wneud y gwahaniaeth mwyaf posib i bobl a chymunedau gan liniaru unrhyw ganlyniadau anfwriadol yr un pryd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Janet Finch-Saunders wedi croesawu'r newid, ond yn dweud fod angen mynd ymhellach i warchod twristiaeth

Disgrifiodd llefarydd tai y Ceidwadwyr Cymreig, Janet Finch-Saunders AS, y newid fel "tro pedol sylweddol gan Blaid Cymru a'r Llywodraeth Lafur".

"Rwyf wedi bod yn tynnu sylw ers misoedd at y gwallgofrwydd fod tai sydd â chyfyngiadau cynllunio i fod yn dai gwyliau yn unig yn mynd i orfod talu premiymau treth cyngor," meddai.

"Beth sy'n rhaid i Blaid Cymru a Llafur sylweddoli nawr yw bod yna dai gwyliau sydd methu cyrraedd y 182 o ddyddiau oherwydd natur dymhorol twristiaeth.

"Yn lle gadael i dynged busnesau a bywoliaethau pobl fod ar ddisgresiwn awdurdodau lleol, mae'n rhaid gostwng y 182 ar unwaith.

"Os na wnawn nhw wrando mi fydd hyn yn brawf pellach nad ydy'r cenedlaetholwyr a sosialwyr yng Nghymru yn deall natur twrisiaeth na'r economi Gymreig."

Mae awdurdodau lleol unigol eto i benderfynu a fyddan nhw'n codi'r premiwm ar ail dai o fis Ebrill ymlaen.

Mae rhai cynghorau eisoes yn codi premiwm uwch, gyda Gwynedd a Phenfro - sydd â'r nifer uchaf o ail dai yng Nghymru, 3,746 a 3,794 - yn codi 100%.