Gweithwyr ambiwlans yn pleidleisio o blaid streicio

  • Cyhoeddwyd
ambiwlansysFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ysgrifennydd cenedlaethol y GMB mae gweithwyr ambiwlans "ar eu gliniau"

Mae bron i 1,500 o weithwyr ambiwlans yng Nghymru wedi pleidleisio i fynd ar streic yn sgil anghydfod am gyflogau.

Yn ôl undeb y GMB mae cynnig llywodraethau'r DU a Chymru o godiad cyflog 4% yn "doriad enfawr mewn termau real", gyda streiciau cyn y Nadolig nawr yn cael eu trafod.

Bydd aelodau'r GMB sy'n gweithio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymuno ag wyth ymddiriedolaeth arall yn Lloegr sy'n cymryd yr un cam.

Mae gwefan y Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn dweud eu bod yn cyflogi "tua 3,500 o bobl".

Gweithwyr 'ar eu gliniau'

Dywedodd ysgrifennydd cenedlaethol y GMB bod gweithwyr ambiwlans - fel gweithwyr eraill y GIG - "ar eu gliniau".

"Wedi eu digalonni a'u sarhau, maen nhw wedi wynebu 12 mlynedd o doriadau Ceidwadol i'r gwasanaeth a'u cyflogau, wedi ymladd ar reng flaen pandemig byd-eang ac nawr yn wynebu'r argyfwng costau byw gwaethaf mewn cenhedlaeth," medd Rachel Harrison.

"Does neb yn y GIG yn cymryd streic yn ysgafn - mae heddiw yn dangos faint o anobaith sydd yna."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rachel Harrison ein bod "yn wynebu'r argyfwng costau byw gwaethaf mewn cenhedlaeth"

Ychwanegodd: "Mae wnelo hyn gymaint â lefelau staffio anniogel a diogelwch cleifion ag y mae â chyflogau.

"Mae traean o weithwyr ambiwlans y GMB yn meddwl bod yr oedi y maent wedi bod yn gysylltiedig ag ef wedi arwain at farwolaeth claf.

"Mae'n rhaid i rywbeth newid neu fe fydd y gwasanaeth fel rydyn ni'n ei adnabod yn cwympo.

"Mae GMB yn galw ar y llywodraeth i osgoi gaeaf o streiciau'r GIG drwy drafod dyfarniad cyflog y mae'r gweithwyr yma'n ei haeddu."

'Cydnabod y dicter a'r siom'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod pam y pleidleisiodd cymaint o weithwyr ambiwlans fel y gwnaethant, a'r dicter a'r siom y mae llawer o weithwyr y sector cyhoeddus yn ei deimlo ar hyn o bryd.

"Rydym yn credu y dylai ein gwasanaethau brys gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith pwysig ond mae ein setliad ariannol presennol yn llawer is na'r hyn sydd ei angen i gwrdd â'r heriau sylweddol iawn sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus a'n gweithwyr ledled Cymru."

Ychwanegodd y bydd y llywodraeth yn "parhau i gwrdd â'r undebau llafur i drafod ystod o faterion sy'n effeithio ar y gweithlu".

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod hi'n "siomedig gweld rhai undebau'n pleidleisio dros streicio", ond mai "cynnig cyflog y llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd sydd wedi ei wrthod".

"Mae cleifion a staff angen gweithredu gan y llywodraeth Lafur i ddod a'r mater i ben yn deg ac yn fuan, ac rwy'n eu hannog i ddechrau trafodaethau nawr", meddai Russell George AS, llefarydd iechyd y blaid.