Honiad gweithwyr post: 'Blaenoriaeth i barseli cyn llythyrau'
- Cyhoeddwyd
Mae llythyrau ar gyfer apwyntiadau ysbyty yn cael eu gadael mewn swyddfeydd dosbarthu gan fod rheolwyr yn dweud mai parseli sy'n cael blaenoriaeth, yn ôl gweithwyr post.
Wrth i'r streic post barhau, mae dau weithiwr yn y de-orllewin wedi siarad yn ddi-enw gyda BBC Cymru gan ddweud eu bod "wedi cael digon".
Fe wnaeth un o'r gweithwyr honni bod yn rhaid "cau eich pen a gwneud beth maen nhw [y rheolwyr] yn dweud wrthoch chi i wneud".
Mae llefarydd ar ran y Post Brenhinol wedi gwadu eu bod nhw'n blaenoriaethu parseli ar draul llythyrau gan ddweud eu bod "o bwysigrwydd cydradd".
'Pryder am y dyfodol'
Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, wedi dweud ei fod yn pryderu yn fawr am ddyfodol y gwasanaeth post cyffredinol sydd â rheidrwydd cyfreithiol i ddarparu gwasanaeth cydradd i bob rhan o'r Deyrnas Unedig.
Mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) wedi trefnu cyfres o streiciau rhwng nawr a'r Nadolig ar ôl methu â tharo bargen gyda'r Post Brenhinol ynglŷn â newidiadau dadleuol i amodau gwaith a chyflogau.
Dywedodd un gweithiwr wrth BBC Cymru ei fod e wedi cael cyfarwyddyd i adael llythyrau ar ôl.
"Yn enwedig ar ddiwrnodau streic, ry'n ni yn gwybod bod y diwrnod wedyn yn mynd i fod yn ddiwrnod mawr a'r peth cyntaf mae rheolwyr yn dweud yw does dim modd gweithio gor-amser," dywedodd.
"Maen nhw'n dweud cliriwch eich parseli a gadael y llythyrau. Felly i bob pwrpas, chi'n gwneud hanner eich gwaith."
Mae'n honni ei fod e wedi gweld apwyntiadau ysbyty yn cael eu gadael am ddyddiau.
"Yn bendant, 100%. Mae gen i lythyr apwyntiad ysbyty ar fy rownd sydd wedi bod yn y swyddfa am ddau ddiwrnod.
"Yn anffodus, chi ddim yn cytuno gyda'r rheolwyr, ond mae'n rhaid i chi gau eich pen a gwneud beth maen nhw'n dweud wrthoch chi i wneud."
Dywedodd gweithiwr arall ei fod e hefyd wedi gweld llythyrau yn cael eu gadael ar ôl.
"Mae e wedi cyrraedd y sefyllfa, yn ein swyddfa ni, ein bod ni'n cael cyfarwyddyd dyddiol gan reolwyr i flaenoriaethu parseli ac eitemau wedi eu tracio dros lythyrau fel apwyntiadau ysbyty ac mae llythyrau, yn gyffredinol, yn cael eu gadael am ddyddiau. A nid dim ond un neu ddau o lythyrau.
"Mae'n rhaid i ni siarad mas achos 'dan ni wedi cael digon o beth sydd yn digwydd yn lleol ac mae'n rhaid i ni weld newid."
'Llythyrau a pharseli yn gydradd'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd a ran y Post Brenhinol fod bob eitem o bost yn bwysig.
"Dyw'r Post Brenhinol ddim yn gweithredu polisi o flaenoriaethu parseli. Rydym yn atgoffa ein cydweithwyr bod angen trin llythyrau a pharseli yn gydradd wrth eu casglu, prosesu a'u dosbarthu.
"Mae gor-amser yn parhau i fod ar gael, yn dibynnu ar ein llwyth gwaith. Os ydych chi yn pryderu am eich post, cysylltwch gyda llinell gymorth i gwsmeriaid y Post Brenhinol ar 03457 740 740."
Mae nifer y llythyrau sy'n cael eu dosbarthu i gartrefi wedi lleihau o 20 biliwn yn 2004 i 8 biliwn yn y flwyddyn ariannol ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.
Mae rhiant gwmni'r Post Brenhinol, International Distribution Services, yn awyddus i roi mwy o bwyslais ar y busnes dosbarthu parseli.
Dywedodd gweithiwr post wrth BBC Cymru mai nod y gweithredu diwydiannol oedd sicrhau dyfodol gwasanaeth cynhwysfawr i bob rhan o'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys y Gymru wledig.
"Mae'n fygythiad gwirioneddol. Mae'r Post Brenhinol eisoes wedi gofyn i'r llywodraeth i leihau'r gwasanaeth o chwe diwrnod i bump.
"Mae'r llywodraeth wedi gwrthod, y tro yma. Os ydy hynny yn digwydd, yna fe fydd y llifddorau yn agor, a dyna ddiwedd ar y gwasanaeth post cyffredinol. Dyna ddiwedd gwasanaeth sydd yn dosbarthu post i 32 miliwn o gyfeiriadau, am yr un pris. Dyna fydd dechrau'r diwedd."
Mae Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, yn poeni am y dyfodol.
"Dwi'n poeni yn fawr iawn am y gwasanaeth cynhwysfawr. 'Ni eisoes wedi clywed yr wythnos 'ma bod penaethiaid y Post Brenhinol yn gofyn i Ofcom am yr hawl i leihau'r diwrnodau maen nhw yn delifro'r post.
"'Fi'n poeni mai dyna dechrau ei bwriadau nhw, reit ar dop y Post Brehinol, a cefn gwlad fydd ar ei cholled. 'Ni'n dibynnu ar y gwasanaeth yma. Mae'n wasanaeth cyhoeddus hynod, hynod o bwysig."
Ymateb y Post Brenhinol
Doedd y Post Brenhinol ddim am wneud cyfweliad. Mewn datganiad, dywedodd llefarydd bod angen "diwygio'r gwasanaeth post cyffredinol yn sylweddol".
"Rydym wedi gofyn i'r llywodraeth am ganiatâd i leihau'r diwrnodau rydym yn dosbarthu llythyrau o chwech i bump.
"Mae ymchwil ein rheoleiddiwr Ofcom yn dangos y byddai gwasanaeth pum diwrnod yn cwrdd â gofynion 97% o ddefnyddwyr a busnesau bach i ganolig o ran maint.
"Mae darparu gwasanaeth sydd ddim yn angenrheidiol, ar gost strwythurol mawr, yn fygythiad i gynaliadwyedd y gwasanaeth post cyffredinol."
Pryd mae'r streiciau?
Bydd streic 48 awr yn digwydd ar 30 Tachwedd a 1 Rhagfyr.
Mae rhagor o streiciau ar y gweill ar gyfer 9, 11, 14, 15, 23 a 24 Rhagfyr - rhai o'r dyddiadau prysuraf cyn y Nadolig.
Ym mis Gorffennaf pleidleisiodd mwyafrif o aelodau'r undeb CWU o blaid cynnal streiciau, ac fe gynhaliwyd y gyntaf ar 26 Awst.
Cafodd streic ddeuddydd ei chynnal ar 24 a 25 Tachwedd hefyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2022
- Cyhoeddwyd26 Awst 2022