Covid-19: Teuluoedd i fynd â Llywodraeth Cymru i gyfraith?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Yr Uchel Lys
Disgrifiad o’r llun,

Daeth barnwyr yn yr Uchel Lys i'r casgliad bod anfon cleifion yn Lloegr o ysbytai i gartrefi gofal heb eu profi yn anghyfreithlon

Mae'n debygol y bydd pobl gollodd anwyliaid i Covid-19 yn ystyried mynd â Llywodraeth Cymru i gyfraith, yn ôl cyfreithiwr sy'n cynrychioli 350 o deuluoedd.

Ddydd Mercher, daeth dau farnwr yn yr Uchel Lys i'r casgliad bod polisïau i anfon cleifion yn Lloegr o ysbytai i gartrefi gofal heb eu profi ar ddechrau'r pandemig yn anghyfreithlon.

Yn Lloegr roedd pob claf ysbyty yn cael ei brofi am Covid cyn cael ei rhyddhau o 15 Ebrill, 2020.

Yng Nghymru, cafodd y polisi ddim ei newid tan bythefnos yn ddiweddarach.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd yn ystyried dyfarniad yr Uchel Lys "allai fod â goblygiadau i ni yng Nghymru".

Ond mewn cyfweliad â Newyddion S4C mae'r cyfreithiwr Craig Court sy'n cynrychioli grŵp 'Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru' yn dweud: "Os oedd penderfyniadau yn Lloegr yn anghyfreithlon, mae'n debygol i benderfyniadau yng Nghymru fod yn anghyfreithlon.

"Ac os oedd yr oedi mewn gwneud newidiadau yn Lloegr yn anghyfreithlon, mae'n dilyn bod oedi pellach o bythefnos yng Nghymru yn anghyfreithlon.

"Y manylion sy'n gwneud achos cyfreithiol yn anodd. Ry'n ni'n dal i ystyried hynny. Rwy'n credu y bydd rhagor o achosion cyfreithiol o ganlyniad i'r penderfyniad. Ar hyn o bryd mae'n aneglur sut fydd hynny'n edrych."

'Rhaid dysgu o beth ddigwyddodd'

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai cartrefi gofal yn cymryd camau i ddiogelu pobl cyn i'r llywodraeth weithredu, medd Mary Wimbury

Mary Wimbury yw Prif Weithredwr Fforwm Gofal Cymru.

Mae'n dweud i gartrefi gofal unigol gymryd camau i geisio atal lledaeniad Covid-19 cyn i Lywodraeth Cymru weithredu:

"Cyn i bolisi Llywodraeth Cymru newid, roedd llawer o gartrefi gofal wedi dweud na, dydw i ddim yn derbyn pobl o'r ysbyty heb brawf achos rydyn ni'n poeni am Covid. Rydyn ni'n poeni am y bobl sy'n byw yn y cartrefi gofal.

"Rhaid i ni ddysgu o bethau sydd wedi digwydd ar ddechrau'r pandemig. Rhaid i ni ddiogelu pobl hen, pobl fregus sy'n byw mewn cartrefi gofal mwy nac ar ddechrau'r pandemig."

'Mae angen atebion'

Collodd Margaret Williams ei mam i Covid yng Ngwanwyn 2020.

Roedd Peggy Patrick yn byw gyda dementia mewn cartref gofal. Bu farw ar 11 Ebrill yn 95 mlwydd oed.

Yn ôl Mrs Williams, doedd hi ddim yn gwybod bod gan ei mam Covid tan iddi weld ei thystysgrif marwolaeth.

Mae'r dyfarniad Uchel Lys yn rhoi gobaith iddi y bydd hi, a theuluoedd eraill, yn cael cyfiawnder: "Bu farw'r holl bobl yma.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw mam Mrs Williams yng Ngwanwyn 2020, yn 95 oed

"Dyw hyn ddim ynglŷn â mam a fi. Mae'r grwpiau rydw i'n perthyn iddyn nhw - mae pobl wedi colli aelodau o'u teuluoedd; gwŷr, merched, meibion, mamau a thadau."

Mae'n dweud bod y dyfarniad yn cryfhau'r galwadau am ymchwiliad Covid annibynnol penodol i Gymru.

"Does bosib y dylai'r Llywodraeth sylweddoli bod angen atebion arnom ni. Mae angen iddyn nhw gyfaddef lle oedd y ffaeleddau.

"Rydw i'n credu i'r amgylchiadau yng Nghymru fod yn wahanol, ac mae angen edrych ar y rheiny - ac mae angen i bwy bynnag sydd mewn grym i sicrhau bod hynny yn digwydd."

'Astudio casgliad yr Uchel Lys'

Droeon mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwadau am ymchwiliad Covid annibynnol i Gymru, gan ddweud y bydd yna graffu ar benderfyniadau wnaed yng Nghaerdydd fel rhan o ymchwiliad ehangach ar draws y Deyrnas Unedig.

Tra'n ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys mewn cyfweliad â rhaglen Politics Wales BBC Cymru, fe ddywedodd Mark Drakeford: "Mi wna'i astudio beth oedd gan yr Uchel Lys i'w ddweud.

"Mae'n edrych fel dyfarniad pwysig allai fod â goblygiadau i ni yng Nghymru felly mi wna'i sicrhau ei fod yn cael ei astudio'n ofalus.

"Ond heb i mi fod yn rhan o'r achos ar unrhyw adeg, ni fyddai'n briodol i mi ddod at unrhyw gasgliadau yn seiliedig ar yr hyn i mi ddarllen mewn adroddiadau papur newydd."