Dyn, 18, wedi marw trwy ddamwain wrth dynnu lluniau ar fynydd

  • Cyhoeddwyd
Pen PychFfynhonnell y llun, Geograph | Jaggery

Bu farw dyn 18 oed drwy ddamwain ar ôl syrthio o fynydd wrth dynnu llun, clywodd cwest ddydd Mercher.

Roedd Fynley Jones yn cerdded gyda'i ffrindiau ar fynydd Pen Pych yn Rhondda Cynon Taf - sy'n 1,400 troedfedd o uchder - ar 7 Mai 2021.

Fe syrthiodd Fynley o erchwyn y mynydd ar ôl "colli ei gydbwysedd" gan "syrthio o uchder".

Clywodd y cwest bod parafeddygon wedi ceisio ei achub, ond bu farw o'i anafiadau y diwrnod hwnnw.

Daeth archwiliad post mortem yn Ysbyty Athrofaol Cymru i'r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i anaf yn sgil taro ei ben.

Dywedodd y crwner cynorthwyol, Rachel Knight, ym Mhontypridd bod "Fynley wedi bod gyda grŵp o ffrindiau ysgol, yn tynnu lluniau ar gopa'r mynydd".

"Fe benderfynodd Fynley dynnu llun ar erchwyn - oedd yn beryglus - ac yn drist, fe gollodd gydbwysedd a syrthio.

"Roedd y gwymp yn sylweddol, ac fe gafodd Fynley anafiadau angheuol."

Daeth y crwner i gasgliad mai marw trwy ddamwain y gwnaeth Fynley farw.

'Dyn talentog, poblogaidd'

Roedd y disgybl Safon Uwch o Bentre yn astudio Gwyddorau Technoleg, Mathemateg a Ffiseg. Roedd i fod i ddechrau astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth rai misoedd wedi'r ddamwain.

Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Uwchradd Treorci bod Fynley yn "rhan annatod" o Flwyddyn 13 a bod y gymuned o ddisgyblion "yn deilchion" o glywed am ei farwolaeth.

"Fel ysgol, ry'n ni mor drist yn sgil colled drasig y dyn talentog, poblogaidd hwn oedd â dyfodol mor addawol o'i flaen.

"Roedd haelioni Fynley yn disgleirio."

Ychwanegodd yr ysgol fod Fynley wedi helpu fforwm ieuenctid y Rhondda i godi arian ar gyfer prosiectau cymunedol yng Nghymru ac fel un oedd yn "byw bywyd yn llawn" gyda'i weithgareddau allgyrsiol.

"Mae ei gariad a'i grŵp agos o ffrindiau wedi ei ddisgrifio fel un oedd yn dod â hwyl i bopeth y bydden nhw'n gwneud gyda'i gilydd. Fe fydd yn cael ei golli'n fawr gennym ni i gyd."

Pynciau cysylltiedig