Lles staff Plaid Cymru 'o'r pwys mwyaf' medd Adam Price

  • Cyhoeddwyd
Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Adam Price ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru ym mis Medi 2018

Mae lles staff Plaid Cymru "o'r pwys mwyaf", yn ôl arweinydd y blaid, Adam Price.

Daw ei sylwadau yn dilyn honiadau o ddiwylliant gwenwynig o fewn y blaid, a honiad o ymosodiad rhyw yn erbyn uwch aelod o staff.

Mae cwyn ar wahân o gamymddwyn hefyd wedi'i gwneud yn erbyn un o aelodau o'r Senedd y blaid, sydd wedi'i wahardd o grŵp y blaid.

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg ar y cyd â'r prif weinidog ddydd Iau, mynnodd Adam Price fod y blaid wedi "gweithredu'n gyflym mewn ymateb i'r adroddiadau yn y cyfryngau", a bod yr holl staff wedi cael cynnig "cymorth priodol ac amrywiol fforymau y gallant rannu eu profiadau ynddynt yn gyfrinachol".

"Rydym wedi ymrwymo i'r blaid ymgorffori'r gwerthoedd gorau, ac os yw'r ymarfer hwn yn dangos pethau sydd angen i ni eu gwella neu fynd i'r afael â nhw yna ni fyddwn yn oedi cyn gwneud hynny," ychwanegodd.

"Fel y dywedais yn flaenorol - ac am resymau rydych chi'n eu deall - ni allaf wneud sylw ar unrhyw broses barhaus ar hyn o bryd, ac yn gwbl briodol nid wyf yn gyfarwydd â nhw.

"Ond mae'r blaid yn cymryd pob honiad o ddifrif fel yr ydw i.

"Rydym fel plaid yn gweithredu ar y sail os a phan fydd tystiolaeth o ddrwgweithredu yn dilyn canlyniad unrhyw broses, bydd y blaid yn delio'n briodol â'r materion ac yn gwneud hynny yn unol â'i gweithdrefnau disgyblu."

Cwmni allanol

Mae Plaid Cymru wedi penodi cwmni allanol i gynnal ymchwiliad i gamymddwyn yn y blaid.

Wrth wraidd ei ymholiadau mae honiad o ymosodiad rhyw gan uwch aelod o staff.

Dywedodd cyn-aelod o staff fod y digwyddiad tua phedair blynedd yn ôl pan oedden nhw'n gweithio i'r blaid.

Yn y cyfamser, mae person arall wedi dweud bod yr un uwch aelod o staff wedi gwneud iddyn nhw deimlo'n anghyfforddus ar sawl achlysur.

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd cadeirydd y blaid Marc Jones: "Yn naturiol ar y pwynt yma, nid ydym yn gallu rhannu unrhyw wybodaeth am unrhyw achosion unigol neu honiadau, ond dwi eisiau rhoi sicrwydd i holl aelodau Plaid Cymru fy mod yn cymryd y materion a phrosesau hyn o ddifri'.

"Rydym wedi penodi arbenigwyr adnoddau dynol allanol i helpu gyda'n gwaith.

"Rydym yn cynnig cymorth i bob aelod o staff, wrth i ni flaenoriaethu eu lles. Rydym yn cynnal arolwg o brofiadau staff fydd yn sail i'n penderfyniadau yn y dyfodol.

"Heb ragfarnu canlyniad unrhyw ymchwiliad sydd ar waith, fe fyddwn mor agored ag y gallwn fod wrth i ni barhau i sicrhau bod ein holl brosesau mewnol yn cael eu dilyn yn drylwyr bob amser."

Disgrifiad o’r llun,

Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru ers 2021

Mae'r honiadau ar wahân i gŵyn camymddwyn yn erbyn Rhys ab Owen AS, sy'n wynebu ymchwiliad gan Gomisiynydd Safonau Senedd Cymru.

Wrth siarad â rhaglen Wales Live y BBC nos Fercher, dywedodd AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan, fod "natur wenwynig i wleidyddiaeth".

Dywedodd Ms Fychan fod ganddi "hyder" bod proses mewn lle yn ei phlaid nawr i fynd i'r afael â phryderon a'i bod yn "obeithiol" y byddai'n "arwain at newidiadau - nid yn unig i Blaid Cymru, ond mae angen newid gwleidyddiaeth os ydym o ddifrif am fod yn fwy cynrychioliadol a chael pobl i mewn i wleidyddiaeth".

Pynciau cysylltiedig