Dewis artist ar gyfer cerflun Arglwyddes Rhondda
- Cyhoeddwyd
Merched Mawreddog: Arglwyddes Rhondda
Mae cerflunydd wedi ei ddewis i greu cerflun yng Nghasnewydd o'r swffragét, Arglwyddes Rhondda.
Mae Jane Robbins wedi'i chomisiynu i greu'r pedwerydd o bum cerflun o fenywod ysbrydoledig Cymreig.
Bydd y gofeb yn cael ei chodi yn dilyn ymgyrch genedlaethol i anrhydeddu arwresau cudd Cymru, a ddarlledwyd gan BBC Cymru yn 2019.
Fe wnaed y cyhoeddiad ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales brynhawn Sul.
'Pwysig dal y person'
Roedd Arglwyddes Rhondda yn swffragét, yn ddynes fusnes, yn newyddiadurwr ac yn ymgyrchydd gydol oes dros gydraddoldeb menywod.

Jane Robbins gyda'i cherflun blaenorol o Emmeline Pankhurst
Arweiniodd ei hymgyrch 40 mlynedd at ferched yn gallu eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Yn anffodus bu farw ychydig cyn i'r gyfraith y bu'n ymladd mor daer drosti gael ei chyflwyno.
Mae gwaith blaenorol Jane Robbins yn cynnwys cerflun o'r ffotograffydd Americanaidd Linda McCartney yn yr Alban, a phenddelw o arweinydd y Swffragetiaid, Emmeline Pankhurst ym Manceinion.
Dywedodd: "Fel cerflunydd benywaidd, rwy'n frid prin - mae cerflunwaith yn fyd sy'n cael ei reoli gan ddynion.
"Rwy'n hoffi meddwl y byddai Arglwyddes Rhondda yn falch i mi gael fy newis i greu ei cherflun.

1947: Arglwyddes Rhondda yn arwyddo deiseb yn galw am ferched i gael eistedd yn Nhy'r Arglwyddi
"Gyda cherflunwaith coffa rwy'n credu ei fod yn bwysig portreadu person fel yr oedd mewn bywyd.
"Hoffwn ddathlu'r ddynes a chipio'r urddas a feddai drwy gydol ei bywyd a'i gwaith."
Dywedodd Helen Molineux o Monumental Welsh Women: "Roedd cyflawniadau Arglwyddes Rhondda yn enfawr ac amrywiol - o'i hymgyrchu gwleidyddol i'w llwyddiannau busnes arloesol, i'w newyddiaduraeth ddylanwadol."
'Adlewyrchu stori Casnewydd'
Dyma'r pedwerydd cerflun i'w gomisiynuu i ddathlu llwyddiannau arwresau cudd Cymru.
Cafodd cerflun o Betty Campbell, pennaeth ysgol croenddu cyntaf Cymru, ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd ym mis Medi 2021 a chafodd cerflun o Elaine Morgan, damcaniaethwr a dramodydd esblygiadol, ei ddadorchuddio yn Aberpennar fis Mawrth eleni.

Fe wnaeth Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig-Thomas, dreulio cyfnod yn y carchar yn ymladd dros hawliau merched
Bydd trydydd, sef Cranogwen, y forwraig a bardd, yn cael ei ddadorchuddio fis Mehefin blwyddyn nesaf.
Mae Monumental Welsh Women hefyd yn anelu at gyflwyno eu cerflun olaf o'r ymgyrchwyr gwleidyddol sef Elizabeth Andrews.
Dywedodd Julie Nicholas, o Ymgyrch Cerflun i Arglwyddes Rhondda: "Cytunodd y panel fod syniad Jane ar gyfer y cerflun, nid yn unig yn cynrychioli stori Arglwyddes Rhondda a'i llwyddiannau niferus, ond hefyd yn adlewyrchu'n glyfar stori Casnewydd, lle bydd y cerflun yn cael ei leoli."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2018