Trawma teulu wedi marwolaeth Hanna Roap, 7, o Strep A
- Cyhoeddwyd
Dywed teulu plentyn o Benarth a fu farw o glefyd Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS), neu Strep A, bod marwolaeth ei merch "fywiog" yn "brofiad hynod drawmatig".
Roedd Hanna Roap, saith oed, yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Victoria, Penarth ger Caerdydd.
Ers ei marwolaeth mae'r teulu wedi derbyn nifer fawr o negeseuon o gefnogaeth.
Yn y cyfamser mae adolygiad sawl asiantaeth yn cael ei gynnal er mwyn sicrhau bod pob canllaw wedi'i ddilyn yn gywir.
Dywed tad Hanna ei fod yn teimlo petai hi wedi cael gwrthfiotigau y byddai hi wedi bod yn iawn, ond nad oedd am ddod i unrhyw gasgliad tan bod ymchwiliad i'w marwolaeth wedi'i gwblhau.
Mae Strep A yn parhau i fod yn brin yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae'r risg fod plant yn dioddef ohono yn isel iawn.
'Cymeriad hwyliog' a hapus
Wrth siarad â gohebydd BBC Cymru yn ystafell wely ei ferch, dywedodd ei thad Hasan Roap, 37, bod ei ferch "llawn bywyd" wedi cyffwrdd â bywydau cymuned ehangach.
Ychwanegodd: "Ry'n ni'n gwbl ddiymadferth ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn gwybod beth i'w wneud."
Fe ddaeth Hanna adref o'r ysgol ar ddydd Iau 24 Tachwedd gyda rhywfaint o beswch - ond erbyn y nos roedd wedi gwaethygu.
Wrth iddi gael trafferth cysgu, dywedodd ei thad ei fod wedi rhoi gwrth-histamin a'i hanadlydd (inhaler) iddi gan obeithio y "byddai'n gwella wedi iddi gael cwsg".
Ond pan wnaeth y teulu ddeffro drannoeth doedd Hanna ddim yn well. Aeth ei thad â hi at y meddyg teulu a roddod steroidau iddi.
"Dwi ddim yn arbenigwr meddygol," meddai Hasan Roap gan edrych lawr, "ac felly fe wnes i gymryd yr hyn a ddywedodd y meddyg."
Am 20:00 y diwrnod hwnnw ac yntau newydd adael i fynd i'r gwaith, fe ffoniodd ei wraig Salah i ddweud nad oedd Hanna yn symud ac felly fe ruthrodd yn ôl a galw ambiwlans.
Gan bwyso ar y ffenest ac edrych ar wely ei ferch dywedodd: "Fe ddechreuais roi CPR (adfywio cardio-pwlmonaidd) ar y gwely yn fan hyn...
"Doeddwn i ddim yn gallu ei hadfywio."
O fewn hanner awr wedi i'r ambiwlans gyrraedd cofnodwyd bod Hanna wedi marw.
"Roedd hi'n gymeriad hwyliog, wastad yn llawn direidi a nawr mae'r tŷ yn gwbl dawel," meddai ei thad sydd hefyd â merch wyth oed.
Galw am adolygiad trylwyr
Yn y cyfamser mae adolygiad PRUDiC (Procedural Review of Unexpected Death in Childhood) yn cael ei gynnal - sef ymateb sawl asiantaeth i farwolaeth annisgwyl plant.
Dywed Mr Roap nad yw am ymateb tan iddo glywed casgliadau'r ymchwiliad.
"Does gen i ddim y wybodaeth i gyd felly allai ddim rhannu barn ar y mater.
"Rwy'n gobeithio y bydd pob dim yn cael ei archwilio a'i wirio yn gywir. Rwy' eisiau tawelwch meddwl fod pob dim wedi ei wneud yn iawn.
"Os yw pob dim wedi cael ei wneud yn iawn, yna fydd gen i neb i'w feio," meddai.
Ond ychwanegodd gan honni "y gwir yw petai hi wedi cael gwrthfiotigau efallai y byddai hi wedi cael cyfle - dyna oedd ei angen arni".
Yn y cyfamser mae'r teulu yn cael cefnogaeth y gymuned gyfan. Dywed Hasan Roap bod pennaeth Ysgol Gynradd Victoria ym Mhenarth wedi bod yn ymweld a bod nifer wedi bod yn angladd Hanna a gafodd ei gynnal ddydd Gwener.
"Fe ddaeth pawb o'i herwydd hi, nid o'n herwydd ni," meddai gan egluro cymaint oedd pobl yn ei charu.
Ychwanegodd ei fod yn awyddus i gadw'r cof amdani yn fyw.
"Rhaid i ni ei chofio hi yn y ffordd iawn ond ar yr un pryd rhaid i ni symud ymlaen gyda'n dolur," meddai.
Gan wyro ei ben wrth iddo gael trafferth i barhau â'r sgwrs mae'n pwyntio at luniau o'i ferch ar wal ei hystafell wely.
"Dyna luniau ohoni ar wal ei 'stafell wely," meddai. "Roedd hi'n arfer rhoi lluniau o wynebau'n gwenu ar bethau. Dyna'r llun ohoni hi - yr un pinc."
Mae'n pwyntio at ffrâm binc fechan sydd â llun direidus o Hanna ac yn dweud: "Mae hi wastad yn hapus, mae hi wastad yn hapus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2022