Anrhydeddu cyn-bostfeistr a gafodd ei garcharu ar gam

  • Cyhoeddwyd
Noel ac Eira Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Noel ac Eira Thomas yn dilyn y seremoni arbennig ddydd Mawrth

Mae cyn-gynghorydd a phostfeistr a gollodd ei sedd ar Gyngor Ynys Môn wedi cael ei anrhydeddu, 16 mlynedd ers cael ei garcharu ar gam.

Mewn seremoni emosiynol, derbyniodd Noel Thomas gydnabyddiaeth gan yr awdurdod lleol ble fu'n gwasanaethu hyd at 2006.

Yn gynghorydd sir Plaid Cymru, roedd Mr Thomas hefyd yn gyfrifol am Swyddfa'r Post yng Ngaerwen.

Cafodd ei garcharu am naw mis ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o fod yn gyfrifol am ddiflaniad £48,000 o gyfri'r Swyddfa'r Post.

Mewn gwirionedd, system cwmni Horizon - trefn cadw cyfrifon Swyddfa'r Post - oedd yn ddiffygiol.

Cafodd euogfarn Mr Thomas ei dileu yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol y llynedd.

Roedd Mr Thomas, sydd erbyn hyn yn 75 oed, ymhlith dros 70 o is-bostfeistri a gafodd eu cyhuddo ar gam o dwyll, dwyn neu o gadw cyfrifon diffygiol.

'Trwy undod mae nerth'

Ddydd Mawrth, cododd yr holl aelodau yn y siambr ar eu traed i roi cymeradwaeth iddo.

Wrth annerch aelodau'r cyngor, diolchodd Mr Thomas i rai o'i gyd-gynghorwyr wnaeth ei gefnogi, yn ogystal â'r cyn-AS dros Fôn, Albert Owen.

"Trwy undod mae nerth - felly wnes i ennill," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Noel Thomas a'i ferch Sian tu allan i'r llys yn Llundain ar ôl i'w euogfarn gael ei dileu y llynedd

Cafodd Mr Thomas a'i deulu eu gwahodd i gyfarfod Cyngor Môn ddydd Mawrth, ble bu'r awdurdod yn dangos ei werthfawrogiad o'i waith fel cynghorydd a'i ymddygiad yn wyneb yr anghyfiawnder.

"Mae'n anrhydedd a dweud y gwir, wedi disgwyl blynyddoedd," meddai Mr Thomas wrth BBC Cymru cyn y seremoni arbennig.

"Does 'na ddim bai ar y cyngor o gwbl, wrth gwrs, a dwi'n ddiolchgar iawn mod i'n mynd i gael fy anrhydeddu."

'Sioc pan ddoth y llythyr'

Fe wnaeth Mr Thomas gynrychioli Plaid Cymru fel cynghorydd am y tro cyntaf yn 1986, ond am ei fod wedi cael ei ddedfrydu i dros chwe mis dan glo, bu'n rhaid iddo gael ei ddiarddel o'r cyngor.

Dywedodd fod derbyn y llythyr yn ei ddiarddel wedi bod yn "glec" ychwanegol iddo, ag yntau eisoes yn y carchar ac yn gwybod ei fod wedi gwneud dim o'i le.

"O'n i yng Ngharchar Kirkham yn Lancashire ar y pryd. Fedrwn i 'neud dim byd, ond mi oedd o'n sioc pan ddoth y llythyr," meddai.

"Taswn i 'di cael chwe mis o garchar mi faswn i wedi gallu cario 'mlaen os 'swn i isio, ond o'n i 'di cael naw mis, ac felly yn ôl y ddeddf o'n i'n gorfod sefyll i lawr."

Ffynhonnell y llun, Yui Mok
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Noel Thomas ymhlith dros 70 o is-bostfeistri a gafodd eu cyhuddo ar gam o dwyll, dwyn neu o gadw cyfrifon diffygiol

Ychwanegodd Mr Thomas y bydd hi'n brofiad emosiynol cael ei anrhydeddu gan y cyngor y bu'n ei gynrychioli am flynyddoedd.

"Yn anffodus mae rhan fwya'r bobl oedd yna ar yr un pryd â fi - dros 15 mlynedd yn ôl - wedi mynd," meddai.

"Mae 'na ddau neu dri ar ôl, a dwi 'di siarad efo'r rheiny o'r blaen, ond dwi'n edrych ymlaen."

'Syniad hyfryd'

Ychwanegodd ei ferch, Sian, sydd wedi cefnogi ei thad trwy'r frwydr hir am gyfiawnder: "Mae'n hyfryd, ar ôl yr holl flynyddoedd 'ma, bod y cyngor eisiau diolch i Dad.

"'Dan ni fel teulu yn meddwl ei fod yn syniad hyfryd, achos doedd gan yr awdurdod ddim opsiwn ar y pryd ond ei ddiswyddo."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Cadeirydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Dafydd Roberts, yn cyflwyno'r gwobr cydnabyddiaeth i Noel Thomas

Roedd yna hefyd anrheg i Mr Thomas gan gadeirydd y cyngor, Dafydd Roberts.

Dywedodd fod y cyngor am "[d]dangos ein gwerthfawrogiad ni o'r gwaith 'naeth o fel cynghorydd".

"Ond hefyd i werthfawrogi'r ffordd mae wedi ymddwyn yn wyneb yr her anferth 'ma," ychwanegodd.

"Mae o'n ddyn o gymeriad, yn uchel iawn ei barch, ac mae ganddon ni'r parch mwyaf ato fo yma yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

"Fysan ni wedi gwneud hyn tipyn cynt heblaw am y miri Covid 'ma, felly dyma'r cyfle cyntaf 'da ni wedi'i gael mwy neu lai fel cyngor newydd i fedru gwneud.

"Gafodd Noel fyth y cyfle i'r cyngor ddiolch iddo fo am ei waith fel cynghorydd. Rŵan, mae'n hen bryd i ni wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Bu Noel Thomas yn rhoi tystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus i sgandal Horizon ddechrau'r flwyddyn

Ychwanegodd y Cynghorydd Roberts fod ganddo barch mawr tuag at y ffordd y gwnaeth Mr Thomas ymddwyn try gydol y cyfnod cythryblus.

"Pan 'dach chi'n gwybod eich bod chi'n gwneud eich gorau, gwneud eich gwaith yn ddiwyd, ac mae'r system yn eich gweld chi'n euog o ryw gamwedd 'dach chi erioed 'di 'neud, mae'r peth yn hunllefus," meddai.

"Fedra i ddim dechrau dychmygu'r gwewyr mae Noel wedi gorfod ei wynebu, felly mae'n cydymdeimlad ni yn ofnadwy efo fo.

"Ond 'da ni'n gobeithio rŵan bod hyn yn un cyfraniad bach tuag at symud ymlaen."