'Dwi'n edrych ymlaen rŵan... ddim mor drist â fyddwn i'
- Cyhoeddwyd
Mae dau gyn is-bostfeistr fu'n brwydro am flynyddoedd am gyfiawnder yn treulio cyfnod yr ŵyl heb gysgod record droseddol uwch eu pennau am y tro cyntaf ers dros ddegawd.
Dywed y ddau o Ynys Môn mai eu dymuniad ar gyfer 2022 ydi cael gwybod pam gawson nhw a chymaint o is-bostfeistri eraill eu cyhuddo ar gam gan eu cyflogwr o ddwyn, twyll a chadw cyfrifon ffug.
Fe dreuliodd Noel Thomas ddydd Nadolig yn y carchar 15 mlynedd yn ôl wedi i £48,000 fynd ar goll o gyfrifon ei swyddfa bost.
Naw mlynedd yn ôl roedd Lorraine Williams yn wynebu cyfnod yr ŵyl fel troseddwr am y tro cyntaf, yn ddi-waith ac ar fin colli ei chartref, ar ôl iddi hithau hefyd gael ei herlyn o dan amgylchiadau tebyg.
Fis Ebrill eleni roedd y ddau ymysg 39 is-bostfeistr gafodd fuddugoliaeth yn erbyn Swyddfa'r Post yn y Llys Apêl. Cytunodd y llys gyda'r hyn oedd yr is-bostfeistri wedi mynnu o'r cychwyn cyntaf - mai system gyfrifiadurol ddiffygiol oedd wrth wraidd yr arian yn 'diflannu' o'u cyfrifon.
Wyth mis wedi'r diwrnod dramatig yn Llundain, mae'r ddau yn dweud bod adfer eu henw da wedi cael effaith gadarnhaol arnyn nhw.
"Mae'r gŵr wedi gweld gwahaniaeth ynddo fi ers mis Ebrill - bod fi'n cerdded efo fy mhen i fyny," meddai Lorraine Williams, o Landdaniel Fab, wrth raglen Newyddion 2021 ar S4C.
"Dwi heb fod fy hun ers blynyddoedd, a dwi ddim yn meddwl byddai fy hun yn iawn byth eto, ond mae o wedi gwneud gwahaniaeth. Dwi'n edrych ymlaen mwy rŵan nag o'n i a dwi'n mynd allan mwy hefyd, sy'n help. Dwi ddim mor drist â fyddwn i."
Mae Noel Thomas, o bentref Y Gaerwen, hefyd yn dweud ei fod yn teimlo rhyddhad er pa mor anodd ydi anghofio'r ffordd gafodd ei drin.
Meddai: "Mae o wedi bod yn iachâd, mae o wedi mynd â lot oddi ar ysgwyddau rhywun - y teulu yn enwedig.
"Ond mae 'na betha yn dod yn ôl. Yn anffodus fues i yn y carchar, a fyddai dal ddim yn licio cau drws achos am yr wyth diwrnod cynta' fues i yn Walton ac er mwyn diogelwch fi fy hun ro'n i'n cael fy nghau yn y carchar drwy'r dydd a mond mynd allan am fwyd am rhyw chwarter awr amser cinio a rhyw hanner awr gyda'r nos."
Dros 14 mlynedd, rhwng 2000 a 2014, cafodd 736 o is-bostfeistri eu herlyn gan Swyddfa'r Post a chafodd nifer eu carcharu.
Mae ymchwiliad statudol ar y gweill i ganfod beth aeth o'i le ac a fyddai gwybodaeth wedi gallu cael ei ddatgelu flynyddoedd ynghynt er mwyn arbed nifer o erlyniadau.
Mae Lorraine Williams a Noel Thomas yn credu nad ydi Swyddfa'r Post wedi bod yn ddigon gonest a bod eu profiad nhw yn codi nifer o gwestiynau.
Fe gafodd Lorraine Williams ei herlyn yn 2011 ar ôl i £14,000 fynd o gyfrif ei swyddfa bost yn Llanddaniel Fab - ond roedd ei chyflogwr yn gwybod ar y pryd am bryderon am y system gyfrifiadurol.
Roedden nhw hefyd yn gwybod bod pryderon am system gyfrifiadurol yn y swyddfa bost agosaf iddi, dair milltir i ffwrdd yn Y Gaerwen.
Noel Thomas oedd yr is-bostfeistr yno a chafodd ei garcharu yn 2006. Ers 2009 bu'n dweud yn gyhoeddus bod rhywbeth o'i le efo system gyfrifiadurol Horizon Swyddfa'r Post.
Roedd newyddiadurwyr BBC Cymru hefyd wedi canfod 30 o achosion tebyg yn 2009, dolen allanol - ac wedi codi'r pryderon efo Swyddfa'r Post, oedd yn mynnu nad oedd problem.
Meddai Lorraine Williams: "I ddigwydd i cymaint ohonon ni gyda'r un un stori. Ella bod fi'n byw fan yma a bod rhywun yn ganol Lloegr neu ble bynnag ond yr un stori a'r un pethau'n digwydd - a Noel a fi mor agos."
Ychwanegodd Noel Thomas: "Maen nhw yn gwybod be' oedd yn mynd ymlaen a pwy sy'n gyfrifol. Mae rhywun ar y top yn gwybod. Ddim un ella ond mae beth bynnag hanner dwsin. Mae'n gwneud fi'n flin."
Dywedodd Swyddfa'r Post na fydden nhw'n trafod achosion unigol ond eu bod nhw'n cydweithio a chefnogi'r ymchwiliad statudol - a'i bod yn bwysig cael darlun llawn o'r hyn ddigwyddodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd28 Mai 2021
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2021