Penodi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol newydd
- Cyhoeddwyd
Derek Walker fydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol nesaf Cymru.
Bydd yn dechrau ar ei waith ar ôl i Sophie Howe, sydd wedi gwneud y swydd ers 2016, roi'r gorau iddi yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yw annog cyrff cyhoeddus i ystyried canlyniadau hirdymor penderfyniadau.
Ar hyn o bryd, Derek Walker yw prif swyddog gweithredol asiantaeth ddatblygu Cwmpas.
'Arwain y byd'
Dywedodd Derek Walker: "Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi fframwaith deddfwriaethol i Gymru sy'n rhoi'r cyfle inni arwain y byd mewn datblygu cynaliadwy.
"Nid wyf yn tanbrisio'r her sydd o'n blaenau. Rwy'n ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i gefnogi cyrff cyhoeddus i sicrhau bod gweithredu'n cyd-fynd ag uchelgais y ddeddf."
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Yn awr yn fwy nag erioed, mae rôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn hollbwysig. Bydd yn helpu i lywio'r dyfodol tecach, mwy cyfartal rydyn ni i gyd eisiau ei weld."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017