Cwest yn dechrau yn achos marwolaeth Doreen Morris yn 1994
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi dechrau yn achos dynes a gafodd ei lladd yn ei chartref ar Ynys Môn bron i dri degawd yn ôl.
Cafodd Doreen Morris, 64, ei llofruddio yn ei chartref ar gyrion Caergybi ym 1994, cyn i'r byngalo gael ei roi ar dân.
Er gwaethaf ymchwiliadau heddlu, mae'r achos yn parhau heb ei ddatrys.
Daw'r cwest yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan deulu Ms Morris, sy'n dweud na fu erioed cyfle i sefydlu'r ffeithiau am sut y bu iddi farw.
Fe glywodd y cwest gan ferch Ms Morris, Audrey Fraser a ddisgrifiodd ei rhieni fel "cwpl rhagorol" a bod ei mam yn "ffyddlon i'w ffydd".
"Roedd ganddi hiwmor gwych," meddai, am y fam i bedwar o blant.
Disgrifiodd sut y bu'n ymgyrchu dros y blynyddoedd ac ymchwilio ei hun i unrhyw fanylion newydd a fyddai'n dod i'r fei wrth geisio dod o hyd i atebion.
Wrth roi tystiolaeth fe ddisgrifiodd y cartref teuluol - Penrhyn Uchaf ar Mill Lane - fel lle "anghysbell" ar gyrion tref Caergybi.
Dywedodd bod yna sawl ymdrech i ddwyn eitemau o'r cartref yn y cyfnod cyn marwolaeth ei mam.
Clywodd y cwest nad oedd Ms Fraser yn gallu deall pam bod ei mam a'r cartref wedi eu targedu i'r fath raddau a'i bod dal yn chwilio am atebion i'r hyn ddigwyddodd a sut.
Fe gafodd Doreen Morris ei thrywanu gyda fforc yn y cartref cyn ei losgi.
"Dwi ddim yn deall pam fod rhywun wedi targedu Penrhyn Uchaf yn y fath ffordd a llofruddio fy mam i gael gafael ar deledu symudol," meddai.
"Roedd y drosedd a gafodd ei chyflawni mor ddifrifol o gymharu â'r hyn wnaethon nhw ei gymryd."
'Cwmni drwg'
Dywedodd bod ei thad, John Henry Morris, wedi marw ym 1990 ac yn dilyn hyn fe ddaeth y berthynas rhwng y teulu a'u mab ieuengaf, Andrew Morris, dan straen.
Dywedodd bod ei brawd yn "cadw cwmni drwg" ac y gallai rhai o'r bobl hynny fod wedi targedu Penrhyn Uchaf wrth geisio dwyn.
"Wnaeth Andrew ddim lladd Mam, ond wnaeth o ddenu unigolion fel yna i Benrhyn Uchaf," meddai.
Dywedodd Ms Fraser bod hi hefyd wedi bod yn ymgyrchu ac yn rhan o grŵp Cyfiawnder i Doreen Morris ar Facebook.
Fe gafodd dyn lleol, Joseph Carl Westbury, ei arestio a'i gyhuddo o lofruddiaeth ond cafodd ei ganfod yn ddieuog ym 1996.
Bu farw yn Lerpwl ym mis Mai 2016.
Dywedodd Ms Fraser ei bod wedi ysgrifennu at wraig Mr Westbury i ganfod mwy o wybodaeth wrth iddi barhau i ymchwilio.
Daethpwyd o hyd i gorff Ms Morris wedi ei losgi yn ei chartref yng Nghaergybi yn ystod oriau mân y bore ar 25 Mawrth 1994.
Roedd yr heddlu'n credu bod y tân wedi ei gynnau i geisio dinistrio tystiolaeth.
Cafodd person arall ei arestio yn 2004, ac roedd yna apeliadau pellach am wybodaeth yn 2010 ac yn 2015.
Mae disgwyl i'r cwest bara pythefnos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2022