Hunanladdiadau'n ysgogi clwb rygbi i roi hyfforddiant
- Cyhoeddwyd
Mae clwb rygbi wedi rhoi hyfforddiant iechyd meddwl wedi i ddau chwaraewr ladd eu hunain yn ystod y pandemig.
Un o'r rheiny oedd Geraint Edwards, a laddodd ei hun yn 26 oed ym Mehefin 2020, ar ôl "cuddio ei deimladau ei hun".
Bu farw fisoedd yn unig wedi i'w dad-cu hefyd ladd ei hun.
Nawr, mae Clwb Rygbi Abercraf ger Ystradgynlais wedi rhoi hyfforddiant iechyd meddwl i'w ffisiotherapydd er mwyn annog mwy o ddynion i siarad am eu lles.
"Doedd neb arall fel Geraint. Fe fyddai'n helpu unrhyw un," meddai ei fam, Joanne Hedges.
"Gallai fod yn bubbly, ond fe allai fynd yn isel hefyd - roedd yn ei chael hi'n anodd weithiau - ond doedd e ddim yn gallu siarad am ei deimladau ei hun."
Dywedodd ei fod wedi ei gweld hi'n anodd ymdopi gyda chyfnodau clo y pandemig.
Roedd ei dad-cu, Dennis, yn 80 oed pan laddodd ei hun yn dilyn trafferthion iechyd.
'Cuddio ei deimladau'
"Roedd Geraint a'i dad-cu yn agos. Roedd ganddyn nhw berthynas dda a pan fu farw dad fe wnaeth Geraint stryglo. Roedd e'n ei golli," meddai Ms Hedges.
"Byddai Geraint yn fy ffonio pob dydd a gofyn: 'Mam, wyt ti'n iawn? Dwyt ti ddim am wneud unrhyw beth gwirion wyt ti?'
"Ond mewn gwirionedd fe oedd yn cuddio ei deimladau ei hun."
Ychwanegodd: "Doedd Geraint ddim yn gallu delio gydag ef, ond yn hytrach na throi at rywun a siarad, hunanladdiad oedd yr unig ffordd iddo ef - roedd eisiau i'r boen stopio.
"Ond mae ein poen ni'n parhau bob dydd.
"Rydw i eisiau i bobl ddeall yr effaith ar deuluoedd, a stopio a meddwl am funud am y teulu sy'n cael eu gadael ar ôl."
'Dim cywilydd siarad'
Mae elusen Mind yn Ystradgynlais wedi lansio ymgyrch o'r enw Frame of Mind, sy'n cael ei gefnogi gan yr actor Michael Sheen.
Mae'n rhoi hyfforddiant iechyd meddwl i bobl mewn mannau ble efallai na fyddai dynion fel arfer yn siarad am eu lles, fel clybiau rygbi.
Mae Gareth Brookes yn helpu dau glwb rygbi lleol - Abercraf a Rygbi Cyffwrdd Yogits - ac fe benderfynodd gael hyfforddiant iechyd meddwl yn dilyn marwolaeth Geraint.
"Yn Abercraf fe gollon ni ddau berson i hunanladdiad yn ystod y pandemig. Doedd ganddon ni neb â hyfforddiant iechyd meddwl, felly ro'n i'n hapus i gymryd y rôl.
"Dydw i ddim yn gwnselydd ond rydw i'n rhoi fy hun allan yna i unrhyw un sydd angen siarad.
"Ers hynny mae saith ohonyn nhw wedi cysylltu yn dweud eu bod wedi'i chael hi'n anodd - rhai gydag iselder neu gorbryder, rhai gyda PTSD.
"Fe wnes i allu rhoi cyngor iddyn nhw am ble i fynd i gael help.
"Rydw i eisiau i ni allu siarad am iechyd meddwl yn yr un ffordd â ni'n siarad am anafiadau rygbi - does dim cywilydd siarad gyda rhywun os ydych chi'n cael amser caled yn feddyliol."
Ychwanegodd Mr Brookes: "Rydw i wedi profi gorbryder ac iselder fy hun, ac wedi derbyn cwnsela a chyrsiau.
"Rwy'n teimlo bod hynny'n helpu i fi ddeall beth mae'r bois yn mynd trwyddo, ac yn gallu dweud wrthyn nhw 'os nei di fynd at y meddyg teulu, dyma fydd yn digwydd'.
"Rwy'n gwybod o'm mhrofiadau fy hun fod siarad wir yn helpu, a dyna'r neges fi mo'yn cael i'r bois cyn i bethau fynd allan o reolaeth."
'Ymgyrch wedi achub bywydau'
Dywedodd arweinydd ymgyrch Frame of Mind yn Ystradgynlais, Donna James, fod 75% o bobl sy'n lladd eu hunain heb droi at gyrff fel elusennau neu feddyg teulu am gymorth.
"Dyma pam mae'r model o roi hyfforddiant iechyd meddwl i bobl mor bwysig - mae'n rhoi person iddyn nhw droi ato, ble maen nhw'n gyfforddus i siarad am y peth," meddai.
"Rwy'n credu bod yr ymgyrch yma wedi achub bywydau, ac mae'n siŵr o achub mwy."
Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd14 Medi 2022
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2022