Trin tân angheuol Llandudoch fel un 'heb esboniad'

  • Cyhoeddwyd
Cerbydau y gwasanaeth tân
Disgrifiad o’r llun,

Mae archwilwyr y gwasanaeth tân ac archwilwyr safleoedd troseddol yn parhau i ymchwilio.

Mae tân yn Sir Benfro a arweiniodd at farwolaethau dau berson yn cael ei drin fel un "heb esboniad", medd Heddlu Dyfed-Powys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i dŷ yn Llandudoch ger Aberteifi yn ystod oriau mân y bore ddydd Sul, ac fe gadarnhaodd y llu yn ddiweddarach fod dau berson wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae archwilwyr y gwasanaeth tân ac archwilwyr safleoedd troseddol yr heddlu yn y tŷ ddydd Llun wrth i'r ymchwiliad i'r achos barhau.

Bu'n rhaid i tua 11 o bobl sy'n byw gerllaw adael eu cartrefi wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i'r digwyddiad, ond roedden nhw i gyd wedi gallu dychwelyd adref nos Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Blodau ger y tŷ yn Llandudoch ddydd Sul

Roedd nifer o fusnesau lletygarwch lleol wedi estyn croeso i'r bobl hynny tra'u bod methu bod yn eu cartrefi.

Mae cynrychiolwyr cymunedol wedi disgrifio'r sioc yn lleol yn sgil y digwyddiad, ac roedd Eglwys Sant Tomos ar agor dydd Sul er mwyn cynnig cefnogaeth.

Pynciau cysylltiedig