Y dwymyn goch: Achosion ar eu huchaf ers blynyddoedd

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn sâl yn y gwelyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff ysgolion wedi cael gorchymyn i gadw llygad ar blant ac i chwilio am symptomau posib Strep A

Roedd 866 achos o'r dwymyn goch wedi'u nodi yng Nghymru yn yr wythnos hyd at 11 Rhagfyr, sef y ffigwr wythnosol uchaf yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gan ddod â'r cyfanswm achosion i 2,225 eleni - gyda dau achos newydd yr wythnos hon - mae hyn eisoes yn fwy na'r holl achosion yn 2018 a dwbl yr hyn a welwyd yn 2019.

Yn yr un wythnos roedd saith achos arall o Strep A hefyd wedi'u nodi, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Achosion o'r dwymyn goch yng Nghymru. Achosion newydd fesul wythnos.  .

Dywedodd ICC ddydd Iau fod tri achos o'r dwymyn goch wedi eu cofnodi yn Ysgol Gynradd Brynaman, gan ddod â'r cyfanswm i 33.

Bu'n rhaid i ddau o'r rheiny gael triniaeth ysbyty ond nid yw'n glir a oedd ganddyn nhw Strep A ymledol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhybuddio fod y galw am gyffuriau gwrthfiotig sy'n cael eu defnyddio mewn achosion posib o Strep A yng Nghymru wedi arwain at brinder mewn rhai fferyllfeydd.

Dywed ICC nad yw'r cyngor meddygol wedi newid, a bod Strep A ymledol yn "hynod o brin, ond bod y risg o'i ddatblygu fymryn yn uwch pan fo ffliw o gwmpas, felly cynghorir rhieni i dderbyn y cynnig o frechiad ffliw".

Ychwanegodd llefarydd bod cynnydd yn yr achosion yn rhannol am fod mwy o bobl yn profi a mwy o feddygon yn rhoi gwybodaeth am achosion.

Pynciau cysylltiedig