Prinder gwrthfiotigau Strep A mewn rhai fferyllfeydd

  • Cyhoeddwyd
Fferyllydd yn siarad gyda mam a'i merch sy'n salFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y llywodraeth, mae cynnydd yn y galw am wrthfiotigau i drin achosion posib o Strep A wedi arwain at brinder

Mae'r galw am gyffuriau gwrthfiotig sy'n cael eu defnyddio mewn achosion posib o Strep A yng Nghymru wedi arwain at brinder mewn rhai fferyllfeydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cydweithio gyda Llywodraeth y DU i gael gafael ar fwy o gyflenwad.

Mae merch saith mlwydd oed o Benarth ymhlith naw o blant dan 10 oed sydd wedi marw ar draws y DU yn sgil cymhlethdodau sy'n gallu codi mewn rhai achosion o'r salwch.

Yn y mwyafrif o achosion, mae Strep A yn achosi symptomau tebyg i annwyd neu ddolur gwddf.

'Gweithio i ateb y galw'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cynnydd yn y galw am gyffuriau gwrthfiotig i drin achosion posib o Strep A wedi arwain at rai fferyllfeydd i brofi prinder o stoc.

"Rydym ni yn gweithio ar y cyd gyda thîm cyflenwadau cyffuriau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ogystal â phartneriaid eraill i sicrhau fod gan fferyllfeydd yng Nghymru cyflenwadau digonol."

Fe ychwanegon nhw eu bod yn "hyderus fod cyflenwyr yn gweithio i ateb y prinder presennol".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn y Senedd ddydd Mercher: "Os ydy pobl yn ei chael hi'n anodd cael presgripsiwn yn lleol, mae'n bosib y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd i fferyllfa arall.

"Os ydyn nhw'n dal methu yna fe allan nhw fynd 'nôl at eu meddyg teulu ac fe allan nhw gynnig triniaeth wahanol."

graffeg Strep A

Yn ôl Iechyd Cyhoedus Cymru mae clefyd Streptococol Grŵp A ymledol (iGAS), neu Strep A, yn parhau i fod yn brin yng Nghymru.

Fe wnaeth Ms Morgan bwysleisio hynny hefyd, ond dywedodd ei bod yn cydnabod y gallai fod yn amser pryderus i rieni.

"Yr hyn ry'n ni'n ei weld nawr ydy nifer o achosion o'r haint bacteriol cyffredin yma - mae'n rhywbeth mae nifer o bobl yn byw gydag ef," meddai.

"Ond mae'n lledaenu ar yr un pryd â sawl haint anadlol arall, a ry'n ni'n meddwl mai dyma sydd wedi arwain at gynnydd yn nifer yr achosion mwy prin, a mwy difrifol, o Strep A.

"Niferoedd bychan iawn sydd yma, ond dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n dod nesaf felly yn amlwg mae'n amser pryderus iawn i bobl sydd â phlant ifanc."

Sut mae fferyllfeydd yn gallu helpu?

"Mae ganddon ni stoc yn y fferyllfeydd ond lot llai o gwrthfiotigau yn dod i mewn," meddai Lowri Puw ar ran Fferyllwyr Llŷn ar raglen Dros Frecwast.

Dywedodd bod y galw am wrthfiotigau "wedi cynyddu yn sylweddol a mwy yn archebu" yn sgil yr achosion o Strep A a bod "gwneuthurwyr ddim wedi disgwyl y nifer o archebion ac yn dal rhai yn ôl hefyd".

Mae'r fferyllwyr yn cynnig gwasanaeth asesu a thrin dolur gwddf "ers tro" ar gyfer cleifion dros chwech oed, gan ystyried hanes bob claf unigol.

"Os ydyn nhw yn cyrraedd y rhicyn, yna fe fyddwn ni'n cymryd swab ac yn asesu os mai Strep A sy'n achosi'r haint.

"Feirws sy'n achosi dolur gwddw yn aml iawn a does dim angen gwrthfiotigau ar gyfer hynny ac mae sawl straen o Strep A. Dydi'r prawf yma ddim yn gwahaniaethu os mai'r un gwael ydy hwn."

Plentyn yn y gwely gyda'r dwymyn gochFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Strep A yn gallu achosi'r dwymyn goch ac yn yr achosion mwyaf difrifol mae cymhlethdodau'n codi sy'n gallu bod yn andwyol

Mae'r prawf yn galluogi'r fferyllwyr i roi cyngor penodol a thaflenni gwybodaeth i rieni o ran y camau nesaf, gan gynnwys gweld meddyg teulu neu galw gwasanaeth brys os oes angen.

Dywedodd Ms Puw bod hi'n "bwysig i rieni gadw golwg ar y plant [gan mai] nhw sy'n eu 'nabod nhw orau" a chadw golwg am unrhyw newid yn eu cyflwr.

Mae'r cyngor yn cynnwys cadw paracetamol neu Ibuprofen yn y tŷ "i ddod ag unrhyw wres lawr a gwneud yn siŵr bod y plant yn yfed digon o ddŵr a phasio dŵr - dau arwydd cynta' bod plant yn mynd yn sâl, [er] maen nhw yn gallu mynd yn sâl yn ofnadwy o sydyn a bownsio'n ôl yn sydyn".

Ychwanegodd: "Os ydy rhiant yn teimlo ym mêr eu hesgyrn nad ydy pethe yn iawn, yna gwrando ar hynny ac yn amlach na pheidio ma' 'na rywbeth o'i le."

Pynciau cysylltiedig