Beth yw 'Nadolig Adre Nôl' i aelodau Eden?
- Cyhoeddwyd
Bybls a sudd oren, hosan yr un uwch ben y lle tân, ham noswyl Nadolig, siocledi i frecwast ac aros tan ei bod hi ar ôl naw i agor yr anrhegion.
Mae gan bawb eu traddodiadau a'u harferion eu hunain pan ddaw hi i ddathlu'r Nadolig. Ac mae hynny'n wir am Non, Rachael ac Emma sef Eden.
'Nadolig Adre Nôl' yw enw eu cân newydd ac mae'n crisialu'r teimlad hudolus a chysurus o fod adref dros gyfnod yr ŵyl, ynghanol yr un traddodiadau ag erioed.
Cymru Fyw ofynnodd i'r dair be' sy'n gwneud 'Nadolig Adre Nôl' yn arbennig iddyn nhw.
Nadolig Rachael
Dwi RILI yn mwynhau'r Nadolig. Dwi'n un o rheina sy'n dechrau siopa Nodolig ym mis Ebrill! Dwi wrth fy modd yn bod adre hefo'r teulu.
'Dan ni bob noswyl Nadolig yn rhoi diod a bisgedi ar blât i Sion Corn a moron i Rudolph. Un o fy hoff draddodiadau.
Pan oedd y plant yn iau o'n i wrth fy modd hefo'r gwisgoedd oedden nhw'n cael gan Siôn Corn. Alys yn gwisgo fel tywysoges Disney ac Owen fel Spiderman. Oedden nhw'n gwisgo'r gwisgoedd am ddyddiau ac roedd o'n job cael nhw allan ohonyn nhw.
Nadolig Non
Mae cwpwl o bethe yn neud Nadolig adre i mi. Un peth mawr i fi yw agor y bocs addurniadau pob blwyddyn. Dwi'n sentimental iawn am yr addurniadau sy'n mynd ar y goeden! Mae gweld nhw'n dod allan or bocs fel gweld hen ffrindiau!
Dwi'n prynu un newydd i'r casgliad bob blwyddyn a mae rhai wedi cael eu neud gan y plant … rhai yn syrthio'n ddarnau ond mae hanes gan pob un! Tydyn nhw ddim yn addurniadau traddodiadol iawn chwaith! Ond dwi'n caru nhw.
Hefyd os nad ydw i'n mynd adre i'r gogledd, mae adre'r gogledd yn dod ata i! A 'dan ni gyd yn licio gwisgo fyny yn wirion… weithie crysau-t Nadolig, weithie gwisgo mwstashus neu trwynau neu rhywbeth gwirion ar ein pennau!
Ble bynnag ydw i y teulu yw adref.
Nadolig Emma
Dwi'n prynu pyjamas newydd i bawb i agor ar noswyl Nadolig yn syml gan obeithio bydd pawb yn edrych yn weddol deidi mewn llunie… y drafferth ydi… dwi'n anghofio tynnu llynie!!
Dyma'r unig un sy gen i!! Ond dwi'n licio meddwl bod hynna'n golygu mod i'n mwynhau gormod i dynnu llunie?!! Dyna'n esgus i beth bynnag!!
Hefyd o ddiddordeb: