Streic: Llywodraeth wedi trafod gofyn i'r heddlu adfywio cleifion

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r posibilrwydd o ofyn i heddweision helpu i adfywio cleifion yn ystod streic gweithwyr ambiwlans wedi ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

Fe fydd staff y Gwasanaeth Ambiwlans sy'n rhan o dri undeb yn cynnal streic ar 21 Rhagfyr, fydd yn effeithio ar alwadau sydd ddim yn peryglu bywyd.

Dywedodd gweinidog iechyd Cymru bod swyddogion wedi trafod gyda'r heddlu ynghylch "helpu gydag adfywio ac ati".

Ond mae Ffederasiwn yr Heddlu wedi codi pryderon am ofyn i swyddogion ddelio gydag achosion brys nad ydynt wedi eu hyfforddi ar eu cyfer.

Dywedodd cadeirydd cenedlaethol y ffederasiwn, Steve Hartshorn, bod ganddo "bryder gwirioneddol" dros heddweision "all brofi achosion meddygol brys nad ydyn nhw wedi cael yr hyfforddiant i ddelio gyda nhw".

"Mae goblygiadau dynol ofnadwy yn dod i'r dychymyg, ond rhaid i ni ystyried cyfrifoldebau cyfreithiol ac ymarferoldeb hefyd.

"Petai claf yn marw ym mhresenoldeb heddwas, neu o fewn cyfnod o fod gyda heddwas, yna mae'r swyddog yn cael ei gyfeirio at y Swyddfa Ymddygiad yr Heddlu am ymchwiliad."

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl ysgrifennydd cenedlaethol y GMB mae gweithwyr ambiwlans "ar eu gliniau"

Dywedodd prif swyddog y ffederasiwn yng Nghymru, Nicky Ryan: "Ni ddylai bod rhaid dweud, ond dydy'r heddlu ddim yn yrwyr ambiwlans nag yn barafeddygon wedi cymhwyso."

Mewn cyfnod pan mae'r heddlu "dan straen a phwysau fel erioed o'r blaen", dywedodd bod y cynllun yn rhoi "pryderon difrifol" am les heddweision.

Dim bwriad galw milwyr

Yn siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, bod y llywodraeth wedi bod yn trafod y mater gyda'r heddlu.

Ond dywedodd Ms Morgan nad oedd bwriad i ddefnyddio'r lluoedd arfog "oni bai bod hynny'n wirioneddol angenrheidiol".

Ychwanegodd mai dyna fyddai'r sefyllfa, oni bai bod "problem ddifrifol wrth gadw'r cyhoedd yn ddiogel".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod gan ei blaid "bryderon difrifol am ddefnyddio'r heddlu fel hyn".

"Yn hytrach na siarad gyda'r heddlu a gofyn iddyn nhw lenwi bylchau ar ddiwrnodau streic, dylai'r llywodraeth siarad gyda'r undebau iechyd, i wella'r cynnig ar gyflogau er mwyn osgoi streic."

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd y lluoedd arfog yn gyrru ambiwlansys ar ddiwrnodau streic yn Lloegr.

Ddydd Iau, mae disgwyl i nyrsys sy'n aelodau o'r Coleg Nyrsio Brenhinol gynnal streic ymhob bwrdd iechyd ond un.

Pynciau cysylltiedig