Gwinllan Wyllt: Ail-ddychmygu drama eiconig Buchedd Garmon
- Cyhoeddwyd
'Gwinllan a roddwyd i'm gofal yw Cymru fy ngwlad, i'w thraddodi i'm plant, ac i blant fy mhlant, yn dreftadaeth dragwyddol...'
Llinellau eiconig - neu'r 'Live, laugh, love' Cymraeg erbyn hyn efallai, fel mae ailwampiad newydd o'r ddrama sy'n eu cynnwys yn ei awgrymu.
Fe'u clywyd am y tro cyntaf yn 1937 pan ddarlledodd y BBC y ddrama gyntaf i'w chomisiynu ar gyfer radio yn y Gymraeg, Buchedd Garmon gan Saunders Lewis.
Rŵan mae'r BBC wedi rhoi'r ddrama arwyddocaol hon yn nwylo Seiriol Davies a Hanna Jarman i'w hailwampio er mwyn nodi canmlwyddiant y BBC ac maen nhw wedi creu fersiwn wahanol iawn ar gyfer Cymru heddiw sy'n reiat o hiwmor, tiwns sioe cerdd a dychan.
Ond roedd elfen o'r ddrama wreiddiol oedd yn "broblematig" i'r awduron pan aethon nhw ati i'w darllen am y tro cyntaf.
Yn nrama wladgarol Saunders Lewis mae'r sant Garmon yn dod nôl i helpu'r brenin, Emrys Wledig, i achub y wlad rhag gwrthwynebwyr crefyddol ac ymosodiadau'r Sacsoniaid a'r Pictiaid ac yn cyflawni gwyrth drwy 'iacháu' plentyn dall.
Ond beth os nad oedd y plentyn eisiau nac angen cael ei 'gwella'?
Yn eu diweddariad, Buchedd Greta: Gwinllan Wyllt mae Seiriol Davies a Hanna Jarman yn troi syniad Saunders Lewis ar ei ben ac yn dweud y stori o safbwynt y plentyn dall, Greta.
"Wnaeth e fy nharo i a Seiriol bod themâu [y ddrama] dal yn bodoli heddiw ond hefyd pa mor broblematig oedden ni yn ffeindio y stwff o gwmpas anabledd gyda'r person dall," meddai Hanna.
"So nes i gael sgwrs gyda Mared, fy chwaer, sydd â nam golwg, ac o'n i'n trafod gyda hi am hwn a wnaeth Seiriol gael y syniad o newid y naratif i bersbectif y 'plentyn dall', sef enw'r cymeriad yn y ddrama wreiddiol."
'Dim angen gwella'
Mared Jarman, chwaer Hanna, sy'n chwarae rhan Greta yn y ddrama ac fe chwaraeodd hi ran fawr yn cynghori'r ddau awdur o bersbectif rhywun sydd yn byw gyda nam golwg.
Mae Mared wedi siarad yn ddiweddar am sut mae ei hanabledd yn rhan o bwy ydi hi a ddim yn rhywbeth mae hi eisiau ei newid.
"Yn y gwreiddiol mae Garmon yn 'iachau''r plentyn i brofi pa fath o lygredd ellith gael ei lanhau," meddai Seiriol.
"Yn y cyfnod, fyse hynny i ran fwyaf o bobl dwi'n siŵr wedi ymddangos yn beth da i ddigwydd.
"Mae jest yn teimlo fel rhywbeth reit frwnt i'w wneud rŵan."
Roedden nhw eisiau gwneud y pwynt "nad oes angen 'gwella' y pethau sy'n cael eu gweld fel anableddau: mae'r pethau rheiny yn agweddau annatod o hunaniaeth."
Drama 'radical' yn ei dydd
Ar y pryd roedd Buchedd Garmon yn ddrama radical: cafodd ei hysgrifennu tra roedd Saunders Lewis yn aros am ei achos llys am losgi ysgol fomio Penyberth ac eisiau ysbrydoli ei gyd-Gymry. Roedd yn wahoddiad dewr i'r BBC ei estyn ar y pryd o ystyried hyn.
Y bardd a'r nofelydd T Rowland Hughes oedd y cyfarwyddwr ac roedd Saunders Lewis yn gwrando ar y darllediad o'r carchar.
Mae Seiriol a Hanna yn parchu'r radicaliaeth honno ac arwyddocâd y ddrama yn ei chyfnod.
Ond gyda chymdeithas wedi symud ymlaen mae angen arloesi unwaith eto a maen nhw'n cymryd y cyfle i holi pwy sy'n penderfynu beth yw hunaniaeth rhywun?
'Iacháu' o'r iaith hefyd?
Yn ei linellau enwog mae Saunders Lewis yn sôn am y 'moch' yn difetha'r winllan ac yn galw ar bobl i weithredu '...fel y cedwir i'r oesoedd a ddêl y glendid a fu'.
Ond pwy sy'n penderfynu beth yw'r 'glendid a fu'? A ble mae hynny'n stopio?
"Be oeddan ni'n trio ei ofyn ydi, yn y ffurf mwyaf pryfoclyd sy'n dod fyny yn hwyrach ymlaen yn y sioe ydy: os wyt ti, fel Garmon, o blaid newid rhywun i fod fwy fel ti a 'iacháu' rhywbeth ti'n meddwl sy'n rong efo nhw, sut mae hynna'n wahanol i, dyweda, y moch, sydd yn dod i fewn i dy winllan di? Sydd eisiau dy newid di i fod fwy 'fatha nhw?" esbonia Seiriol.
"Achos pam fysach chdi yn boddran siarad iaith leiafrifol pan mae'n lot lot haws jyst ffitio fewn efo pawb arall? Pam ddim dy 'iacháu' di o hynny hefyd?
"Dyna oedd y paralel oeddan ni eisiau ei dynnu allan, heb golli unrhyw beth o'r angerdd," meddai.
"Roedden ni eisiau edrych yn ôl mewn ffordd reit chwareus a gweld be fedrwn ni wneud i ddod â'r themâu allan eto - purdeb versus ffitio fewn versus cydio ymlaen mewn rhywbeth fel yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg yn wyneb newidiadau mawr."
Dydyn nhw ddim wedi rhwygo'r gwreiddiol a'i daflu i un ochr meddai Seiriol, ond maen nhw'n chwarae efo'r stori.
Meddai Seiriol: "Os wyt i'n caru rhywbeth mae rhaid i ti fod yn hapus i'w gymryd o'n ddarnau weithiau a'i roi o nôl at ei gilydd a gweld os ydio'n dal yn gweithio; neu fynd â fo ar noson allan ac interrogatio fo ar ôl cwpl o shots - os di rhywbeth yn werth glynu ato fo, mae'n werth gwneud ond does na ddim point gwneud hynny yn ddifeddwl.
"Mae'n arwydd o ba mor bell rydyn ni wedi dod ein bod ni rŵan yn teimlo bod angen ei ddiweddaru."
"Ond mae na dal ffordd i fynd," ychwanega Hanna. "Dydyn ni ddim yn clywed lleisiau anabl yn y cyfryngau o hyd rili - mae dal yn beth eitha niche a dal lle i fynd gyda hynny, dyna pam roedd yn bwysig inni gydweithio gyda Mared o'r cychwyn fel rhywun sydd gyda'r profiadau yna."
Yn y cyfnod roedden nhw'n sgrifennu hefyd fe gafwyd cwynion yn yr Eisteddfod am berfformwyr drag yn darllen straeon i blant ar y maes ac mae cyfeiriad at hynny yn y ddrama.
"O'n i jyst yn meddwl, mae e dal mor bresennol yng Nghymru nawr - mae dal y syniad yma o burdeb a beth mae'r Eisteddfod i fod i fod neu beth mae Cymreictod i fod. So mae dal lle gyda ni i fynd," meddai Hanna.
Mi fedrwch chi fwynhau mwy o ffrwyth cydweithio creadigol Seiriol a Hanna o fis Ionawr 2023 yn y sioe gerdd Branwen, dolen allanol gan gwmni'r Frân Wen.
Hefyd o ddiddordeb: