Pryder am anafiadau i filgwn gyda chynllun trac rasio
- Cyhoeddwyd
Mae elusen achub cŵn yn ofni bydd cynllun i drwyddedu trac rasio milgwn yn achosi mwy o anafiadau difrifol a marwolaethau.
Mae dros 23,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd rasio milgwn.
Yn ôl rheolwr Valley Greyhound Stadium yn sir Caerffili, bydd trwydded rasio yn sicrhau'r gofal a lles gorau i'r cŵn sy'n cystadlu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried rasio milgi fel rhan o'i Chynllun Lles Anifeiliaid.
Cafodd Cyril y ci ei anafu tra'n rasio ar unig drac rasio milgi Cymru sef yn Ystrad Mynach.
Yn ôl yr elusen Hope Rescue, gwariwyd miloedd o bunnau ar driniaeth y ci wedi iddo dorri ei goes. Cafodd Cyril ei ailgartrefu wedi'r ddamwain.
Pryder Hope Rescue yw y bydd mwy o gŵn cael eu hanafu'n ddifrifol os yw Valley Greyhound Stadium yn derbyn trwydded gan gorff swyddogol y gamp, Greyhound Board of Great Britiain (GBGB).
Ar hyn o bryd mae'r trac yn cael ei redeg yn annibynnol, ond ar ôl derbyn trwydded mae pryder y bydd rhagor o bobl yn cael eu denu i'r safle, gan gynnwys darlledwyr.
Er mwyn sicrhau trwydded mae angen i'r trac cyrraedd safonau gofal a lles GBGB.
Bwriad perchennog newydd y trac yn Ystrad Mynach yw gwario £500,000 i wella safon y trac, adeiladu cytiau cŵn o safon a sicrhau bod milfeddyg yn bresennol ar gyfer pob ras.
Er gwaetha'r gwelliannau sy'n cael eu cynnig, mae'r elusen Hope Rescue wedi mynegi ei wrthwynebiad i rasio milgi yng Nghymru wedi'r cyhoeddiad diweddaraf.
'Mwy o anafiadau a mwy o farwolaethau'
"Rydyn ni wastad wedi bod yn erbyn rasio milgwn ers i ni ddechrau 15 mlynedd yn ôl," meddai perchennog Hope Rescue, Vanessa Wadden.
"Y rheswm dros lansio'r ddeiseb hon nawr yw oherwydd bod yna gynnig i gynyddu nifer y rasys ar drac y Valley o dan reolau GBGB.
"Mae hyn yn golygu mynd o rasio unwaith yr wythnos i hyd at bedair gwaith yr wythnos. Dydyn ni ddim eisiau i Gymru ddweud 'ie' i fwy o anafiadau a mwy o farwolaethau."
Yn ôl ffigyrau swyddogol GBGB, cafodd 3,575 o filgwn eu hanafu tra'n rasio ar draws Prydain yn 2020, a bu farw 200.
Bu gostyngiad yn y niferoedd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol yn ôl y rheoleiddiwr, ond bu llai o rasio yn ystod 2020 oherwydd y pandemig.
Dywedodd cyn-berchennog a rheolwr presennol Valley Greyhound Stadium, Malcolm Tams: "Dros y 17 mlynedd diwethaf mae gwelliant aruthrol wedi bod yn y ffordd mae pobl yn gofalu am filgwn o fewn y gamp.
"Mae'r gost o brynu milgi y dyddiau yma yn ddrud iawn, felly mae llawer o bobl yn gofalu amdanyn nhw pan fyddan nhw'n gorffen rasio.
"Rydw i wedi gweld y math yma o ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyda 120,000 o lofnodion a phenderfynodd y llywodraeth i adael i'r gamp lywodraethu ei hun o dan y BGRB, neu'r GBGB fel mae'n cael ei adnabod erbyn heddiw."
Fel rhan o'r datblygiad, gobaith y perchennog newydd yw cyflwyno bwyty hefyd, gan greu 150 o swyddi newydd ar y safle a fydd yn rhoi hwb i'r economi leol, meddai.
'Lefelau uchel iawn o reoleiddio'
Fe ddywedodd Mark Bird, prif weithredwr Bwrdd Milgwn Prydain bod lles milgwn dan ystyriaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
"Nid yw'r ddeiseb hon yn ystyried y lefelau uchel iawn o reoleiddio a chraffu sy'n bodoli ar draws rasio milgwn trwyddedig ym Mhrydain," meddai.
"Mae lles milgwn yn flaenoriaeth yn ein camp ac mae'r gofal a roddir i filgwn rasio yn llawer mwy na'r hyn a roddir i gŵn domestig.
"Byddem yn croesawu cais gan Valley Greyhounds am drwydded oherwydd mi fydd yn ofynnol i'r trac gynnal ein Rheolau Rasio a darparu'r lefelau uchaf o ofal a lles i bob milgi rasio."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae perchnogaeth gyfrifol anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac rydyn ni'n ymrwymo i gynnal safonau uchel ar gyfer llesiant anifeiliaid yng Nghymru yn ystod pob adeg o'u bywydau.
"Bwriad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw ystyried rasio milgwn yng Nghymru fel rhan o gynllun trwyddedu y dyfodol, sy'n rhan o'n Cynllun Llesiant Anifeiliaid Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011