Profiad personol o greulondeb diciâu mewn gwartheg

  • Cyhoeddwyd
gwartheg

Roedd y Prif Weinidog yn "greulon" pan ddywedodd mai symud gwartheg oedd yn gyfrifol am gynnydd yn nifer yr achosion o'r diciâu, neu TB, yn ôl un ffermwr sydd wedi gorfod difa 21 o anifeiliaid yn ddiweddar.

Dywedodd Mark Drakeford mai'r "un rheswm mawr" am y cynnydd mewn rhai ardaloedd oedd bod "ffermwyr yn prynu anifeiliaid oedd wedi'u heintio a dod â nhw i'r ardal".

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod "asesiad epidemiolegol" wedi dangos bod wyth o bob 10 achos o TB mewn ardaloedd â lefelau isel o'r afiechyd wedi'u hachosi gan symudiadau gwartheg.

Yn dilyn y sylwadau mae undeb NFU Cymru wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Prif Weinidog.

Bydd y llywodraeth yn ymateb i gais yr undeb "maes o law".

Mae Cymru wedi'i rhannu i wahanol ardaloedd lle mae'r risg o TB mewn gwartheg yn isel, canolradd neu uchel.

Disgrifiad o’r llun,

Abi Reader wrth ei gwaith

'Penderfyniadau ofnadwy'

Mae fferm Abi Reader ym Mro Morgannwg - ardal ganolradd - wedi bod dan gyfyngiadau TB ers mis Mawrth 2019 ac o ganlyniad, mae hi wedi colli 41 o wartheg ac un tarw.

"Mae hi wedi bod yn anodd, yn anodd iawn," meddai.

"Rwy wedi gorfod gwneud penderfyniadau ofnadwy, pethau fyddwn i fyth wedi'u dychmygu pan o'n i yn y coleg amaethyddol.

"Penderfyniadau am les anifeiliaid, penderfyniadau am fywydau anifeiliaid, a sut i redeg y busnes o un diwrnod i'r nesaf.

"Pethau fyddwn i erioed wedi eu deall cyn cael TB yma," meddai.

Mae Abi wedi bod yn ffilmio'i phrofiadau a'u rhannu ar Twitter, er mwyn dangos yr effaith mae'r afiechyd yn ei gael.

"Ro'n i eisiau gwahodd pobol i weld fy myd i a dweud 'dyma sy'n digwydd i fi, dyma sy'n digwydd i'r fuches, a plîs sylwch ar be sy'n digwydd achos dwi'n teimlo anweladwy, a does neb rili'n gweld be sy'n mynd ymlaen."

Abi ydi cadeirydd bwrdd ffermwr godro NFU Cymru, ac mae hi'n dweud bod angen ymdrech benodol i ddileu TB, gan gynnwys cynllun i ddal a difa moch daear ger ffermydd sydd ag achosion o TB.

"Dwi wir yn credu bod yn rhaid, er mwyn pob ffermwr yng Nghymru, i ddefnyddio bob un o'r tools yn y bocs."

Dywedodd Abi iddi "weld coch" pan glywodd hi sylwadau Mr Drakeford.

"Fe safodd yno a dweud bod ffermwyr yn gyfrifol am greu ein problemau ein hunain - roedd hynny mor greulon.

"Roedd yn teimlo ei fod o wedi bwrw'r gyllell i mewn, cyn troi'r llafn o un ochr i'r llall."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth Mr Drakeford y sylwadau ar 15 Mehefin ar ôl i AS Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders ofyn pam fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod difa moch daear er mwyn ceisio dileu TB mewn gwartheg.

"Mae hyn yn sicr: y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd mewnforio TB gan ffermwyr sy'n prynu gwartheg wedi'u heintio a dod â nhw mewn i'r ardal," atebodd Mr Drakeford.

"Dyna'r rheswm mwyaf pam mae ardaloedd lle mae nifer isel o achosion wedi symud i fyny'r hierarchaeth drist iawn honno," meddai.

Bythefnos wedyn, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies fod datganiad Mr Drakeford yn gamarweiniol, ac fe alwodd am ymddiheuriad am achosi "gofid a loes" i'r diwydiant amaeth.

Mynnodd Mr Drakeford nad oedd ei sylwadau yn anghywir ond fe ddywedodd nad oedd wedi bwriadu "peri loes" i unrhyw un.

"Mae ffurflenni adroddiadau asesu clefydau yn dangos bod 8 o bob 10 achos a gadarnhawyd mewn ardaloedd TB isel - ac ardaloedd TB isel y gofynnwyd i mi amdanyn nhw - i'w priodoli yn bennaf i symudiadau gwartheg."

Mae'n rhaid cynnal profion TB ar wartheg cyn neu symud, ac mae'r Prif Weinidog wedi cydnabod "yr ymdrechion enfawr y mae ffermwyr yn eu gwneud i gadw eu buchesau'n ddiogel ac i gydymffurfio â'r cyfundrefnau hynny".

"Yr hyn yr oeddwn i'n cyfeirio ato oedd bod y cwestiwn a ofynnwyd i mi wedi ceisio rhoi'r bai ar foch daear am y cynnydd mewn TB yn y gogledd mewn ardaloedd lle nad oedd llawer o achosion gan ddweud mai'r ffordd orau o ymdrin â hynny fyddai drwy ddifa moch daear.

"Nid wyf yn ymddiheuro am ailadrodd y ffaith nad dyna yw polisi'r llywodraeth, ac nid dyna fyddai'r ymateb cywir ychwaith," meddai Mr Drakeford.

Ffynhonnell y llun, Arterra
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mark Drakeford yn ateb cwestiwn oedd wedi crybwyll moch daear fel achos posib o TB mewn gwartheg mewn un ardal

Yn dilyn ei sylwadau mae undeb amaethwyr NFU Cymru wedi gofyn am gyfarfod gyda'r Prif Weinidog.

Mae gan Simon Davies fferm odro yn Eglwyswrw yng Ngogledd Sir Benfro - ardal sydd wedi bod yn Ardal Triniaeth Ddwys (ATDd) ar gyfer y diciâu ers 2010.

Nod yr ATDd oedd dileu'r afiechyd ym mhoblogaeth gwartheg yr ardal.

"Dyw'r polisi ddim yn gweithio, achos mae TB dal yma," dywedodd Mr Davies.

"Ry'n ni wedi bod dan y cyfyngiadau yma ers degawd.

"Fi'n hanner cant oed, fi 'di bod yn ffermio ers 35 mlynedd, ac am 25 o'r rheiny, ni 'di bod yn delio, ac yn stryglan, gyda TB."

Disgrifiad o’r llun,

'Dyw'r polisi ddim yn gweithio, achos mae TB dal yma,' medd Simon Davies

Dydi Simon ddim yn credu bod yna ddealltwriaeth o wir effaith TB ar y gymuned wledig.

"Wy'n nabod un ffermwr sy'n godro sy'n mynd trwy uffern.

"Mae wedi cael cymaint o effaith arno fe.

"Mae fe'n fachan llwyddiannus, ond mae wedi cael shwt effaith arno fe nad yw e'n gallu gadael y tŷ."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Abi Reader wedi bod yn rhannu ei phrofiadau mewn fideos ar wefannau cymdeithasol

Mae Abi Reader yn poeni fod iechyd meddwl ffermwyr yn dioddef oherwydd y straen sy'n dod law yn llaw gyda TB.

"Mae pethau ofnadwy'n mynd trwy'ch meddwl pan mae'r fferm yn cau lawr gyda TB, pethau 'nes i erioed feddwl byddai'n dod i flaen fy meddwl.

"Mae'n codi ofn arna'i i feddwl fod 'na rai sy'n delio gyda hynny eu hunain."

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi disgrifio'r cadarnhad gan Mr Drakeford na fydd moch daear yn cael eu difa er mwyn atal lledaeniad TB yn "dorcalonnus a rhwystredig iawn".

Mae UAC yn dweud bod angen cyflwyno cynllun difa moch daear newydd.

Mae'r undeb yn cefnogi cynllun peilot Llywodraeth Cymru ond yn rhybuddio mai "dim ond rhan o'r ateb" ydi'r cynllun brechu.

Yn Lloegr, lle mae cynllun difa yn cael ei weithredu, mae Llywodraeth y DU bellach yn canolbwyntio ar frechu gwartheg a moch daear.

Mae Dawn Varley o elusen y Badger Trust yn cefnogi safbwynt Mr Drakeford.

"Ry'n ni'n annog ffermwyr i sylweddoli taw'r gwir wrth ddelio â TB, afiechyd sy'n amharu ar y ffordd mae gwartheg yn anadlu, ydi gwartheg.

"Bydd yn rhaid i ni newid y ffordd y mae'r anifeiliaid yn cael eu symud o gwmpas y wlad a gwneud hynny law yn llaw â chynllun brechu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae TB mewn gwartheg yn her enfawr i bawb.

"Rhan o'r ateb i'r broblem yw parodrwydd pobl, yn y Llywodraeth a'r diwydiant, i weithio gyda'i gilydd.

"Mae rhaglen Dileu TB Cymru wedi'i hadeiladu ar gydweithrediad, gyda thri bwrdd dileu rhanbarthol yn gweithio ar lefel leol i sicrhau bod polisïau'n cael eu datblygu ar y cyd a'u cyfathrebu'n effeithiol.

"Ymddengys bod y cynnydd mewn clefyd a welsom yn ardaloedd Dyffryn Conwy, Sir Ddinbych a Phennal wedi cael ei yrru i ddechrau gan symud gwartheg i'r ardal o ddaliadau mewn ardaloedd TB mynychder uwch, ac yna wedi hynny, gan symudiadau lleol gan gynnwys o fewn daliadau o dan yr un rheolaeth fusnes.

"Rydym yn gwybod o asesiad epidemiolegol bod wyth o bob 10 dadansoddiad a gadarnhawyd yn yr Ardal TB Isel i'w priodoli'n bennaf i symudiadau gwartheg - felly mae'n hanfodol bod ffermwyr yn gwneud yr hyn a allant i amddiffyn eu hardal trwy gyrchu gwartheg yn ofalus a chael phrofion cyn ac ar ôl symud."

Pynciau cysylltiedig