Dadorchuddio mainc yn Felinfoel er cof am Phil Bennett

  • Cyhoeddwyd
Teulu Phil Bennett wrth y fainc
Disgrifiad o’r llun,

Dywed teulu Phil Bennett bod achlysur dydd Sadwrn wedi bod yn un "teimladwy" iddyn nhw

Mae mainc goffa wedi cael ei dadorchuddio yn Sir Gâr er cof am gyn gapten rygbi Cymru, Phil Bennett yn y fan lle roedd yn arfer gwylio ei dîm pentref yn chwarae.

Cafodd y seremoni ei chynnal yn dilyn gêm tîm dan-8 Felinfoel yn erbyn Llangennech.

Roedd y tîm cartref yn gwisgo crysau gyda 'Benny 10' arnyn nhw, gan gyfeirio at rif a llys-enw'r chwaraewr a fu farw ym mis Mehefin yn 73 oed.

Dywedodd ei deulu bod yr achlysur yn anrhydedd "ffantastig".

Mae Bennett, a gafodd ei eni yn Felinfoel, yn cael ei ystyried yn yn un o'r goreuon i chwarae'r gêm erioed. Enillodd ddau Gamp Lawn a thri Choron Driphlyg yn y 1070au.

Dywedodd ei wyres, Ela: "Ry'n ni mor falch ohono.

"Mae'n sbesial i ni ac i bawb o'n cwmpas, a thîm rygbi Felinfoel.

"Rwy'n meddwl y byddai'n ddiolchgar iawn i gael ei fainc ei hun yma oherwydd roedd y tîm rygbi'n golygu gymaint iddo fe achos roedd e'n rhan fawr iawn o'r tîm."

Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd aelodau ifanc clwb Felinfoel gêm cyn y dadorchuddiad

Dywedodd Huw Owen, oedd yn nabod Phil Bennett am oddeutu hanner canrif: "Mae heddiw wedi bod yn ddiwrnod arbennig iawn, yn ddiwrnod trist iawn.

"Fe dyfon ni lan 'da'n gilydd, chwaraeon ni bêl-droed 'da'n gilydd. Ry'n ni wedi bod ar draws y byd gyda'r rygbi a phopeth arall, ac fe gafodd ei gymryd oddi arnon ni'n lawer rhy fuan ac mae wedi gadael bwlch mawr yn y gymuned.

"Mae'r [fainc] yn syniad neis oherwydd bob tro roedd Felinfoel yn chware gartref bydden ni'n edrych tua'r gornel yma achos dyma oedd llecyn Phil ac mae'n drist iawn na fydd e yma.

"Ond nawr, o edrych ar y fainc, bydd yn ein hatgoffa ohono."

'Bydd yr enw gyda ni am byth'

Mae yna gerflun o Phil Bennett hefyd yn y pentref ac yn ôl Mr Owen mae yna bobl yno'n gyson, yn gosod blodau ac yn tynnu lluniau.

"Bydd yr enw gyda ni am byth oherwydd roedd yn ddyn diymhongar... ac yn ffigwr chwedlonol yn y rhan yma o'r byd."

Dywedodd mab Phil Bennett, James: "Mae'n ddiwrnod teimladwy i ni fel teulu.

"Roedd hwn yn barc ble y tyfodd lan, chwarae criced a rygbi yma. Byddech chi'n dal yn dod ar ei draws yma yn ei saithdegau pan roedd mas yn hyfforddi, beth bynnag y tywydd.

"Mae cael mainc yma er cof amdano yn ffantastig i ni ac yn atgofiad gwych o beth oedd e'n ei olygu i'w clwb."

Ychwanegodd: "Mae'n mynd i fod yn Nadolig gwahanol iawn eleni.

"Yn amlwg mae yna ran enfawr o ein bywyd teuluol ar goll, ac yn ddiamau fe fyddai'n mo'yn i ni dal drio mwynhau ond mae'n mynd i fod yn wahanol iawn a dyna lle fydd ein meddylie."

Pynciau cysylltiedig