Miloedd o bobl ym Mharc y Scarlets i gofio Phil Bennett

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth coffa Phil Bennett
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd aelodau o'r cyhoedd - llawer yn gwisgo crysau Cymru a'r Scarlets - gyrraedd fwy nag awr cyn y gwasanaeth

Roedd miloedd o bobl ym Marc y Scarlets ddydd Gwener i dalu teyrnged i un o fawrion timau rygbi Cymru a'r Llewod, Phil Bennett.

Bu farw'r maswr o Felinfoel, a oedd yn cael ei adnabod gan lawer fel 'Benny', yn 73 oed ar 12 Mehefin.

Enillodd 29 o gapiau dros ei wlad ac fe chwaraeodd hefyd i'r Barbariaid.

Ond cyfeiriodd at gamp fwyaf ei yrfa fel buddugoliaeth Llanelli o 9-3 yn erbyn Seland Newydd yn 1972.

Dywedodd y Scarlets fod Bennett yn cael ei ystyried fel "y chwaraewr gorau erioed i wisgo crys y Scarlets".

Yn ogystal â chefnogwyr, roedd nifer o wynebau adnabyddus y byd rygbi wedi dod i dalu teyrnged yn y gwasanaeth goffa.

Yn eu plith, roedd Gareth Edwards, Gerald Davies a Fran Cotton ac aelodau o'r tîm wnaeth guro'r Crysau Duon yn 1972.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

'Dduw bendithia di': Fe roddodd Delme Thomas deyrnged emosiynol i'w gyfaill oes

Wrth dalu teyrnged emosiynol i'w gyfaill oes ar y cae, dywedodd Delme Thomas, cyn-gapten Llanelli: "Mae'n anodd iawn sefyll yma ac egluro sut rydw i'n teimlo am y dyn bach hwn.

"Beth allwch chi ei ddweud am y chwaraewr gorau rydw i erioed wedi'i weld yn chwarae'r gêm?

"Mae hynny'n beth mawr i'w ddweud oherwydd rydw i wedi chwarae gyda chwaraewyr gwych - mae llawer ohonyn nhw'n eistedd yn yr eisteddle heddiw - ond roedd Phil yn rhywbeth arbennig, yn ŵr bonheddig ac yn chwaraewr rygbi gwych."

'Gwrthod ffarwelio'

Ychwanegodd: "Pwy all anghofio'r diwrnod hwnnw ar Barc y Strade yn 1972. Roeddwn i'n ddigon ffodus i chwarae yn y gêm honno, ac o'r diwrnod hwnnw ymlaen fe wnaeth Phil stampio ei awdurdod ar rygbi Cymru.

"Doeddwn i erioed wedi gweld perfformiad tebyg. Ar ôl y diwrnod hwnnw, roedd pawb yn gwybod pwy oedd Phil Bennett.

"Fy ffrind hyfryd, Benny, mae'n ddrwg gen i, fachgen, i fod yn sefyll yma o dy flaen di.

"Rwy'n gwrthod ffarwelio. Fel Cristion, gobeithio y byddwn yn cyfarfod eto, felly bendith Duw i ti, boi."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o gyn gyd-chwaraewyr Phil Bennett, ac arwyr '72, yn ei wasanaeth coffa ym Mharc y Scarlets

Gan ein gohebydd chwaraeon, Dafydd Pritchard

Ni fyddai Phil Bennett wedi bod eisiau ffws. Roedd e'n eicon o rygbi Cymru ond yn un a wisgodd ei fawredd yn ysgafn, diymhongar i'r olaf.

Er y byddai Bennett wedi dymuno aros yn y cefndir, nid oedd modd bychanu'r foment hon i anrhydeddu dyn oedd wedi dod â chymaint o lawenydd i gynifer.

Wrth i'r glaw ddisgyn o'r awyr llwyd, ychwanegodd galarwyr liw at yr achlysur wrth iddynt gael eu gwahodd i wisgo crysau timau Bennett - Felinfoel, Llanelli, Cymru a'r Llewod.

Dathliad oedd hwn. O Bennett y chwaraewr, un o fawrion y gêm, ac o Bennett y dyn, cynnes a hael.

Fe chwaraeodd Phil Bennett 413 o weithiau dros Lanelli gan ddechrau pan oedd yn 18 - fe chwaraeodd ei gêm olaf yn 1981.

Sgoriodd 2,535 o bwyntiau i'r clwb gan gynnwys 131 cais.

Cafodd cerflun ohono ei ddadorchuddio yn Felinfoel rai misoedd yn ôl.

Ffynhonnell y llun, Bill Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Fe fuodd Phil Bennett (dde) a Delme Thomas mewn seremoni i ddadorchuddio cerflun o Bennett ym mis Ebrill

"Dwi ddim yn siŵr faint fyddai [Bennett] wedi mwynhau [y gwasanaeth] oherwydd pa mor ddiymhongar oedd e ond roedd y bobl a ddaeth yma yn dangos y parch oedd ganddo ar draws y gymuned, nid dim ond y gymuned rygbi," meddai bachwr y Scarlets, Cymru a'r Llewod, Ken Owens.

"Roedd yn ddyn diymhongar o Felinfoel. Byddech chi'n ei weld yn siarad â phobl a fyddech chi ddim yn gwybod popeth roedd wedi'i gyflawni yn y gêm ac mewn bywyd.

"Rwy'n cofio bod yn y lolfeydd ar ôl gemau'r Scarlets ac fe fyddai'n goleuo'r ystafell. Byddai pobl yn ymgynnull o'i gwmpas i glywed ei straeon.

"Mae'n mynd i fod yn golled enfawr i'r rhanbarth, y clwb, y dref, ei deulu yn amlwg ac i bawb oedd yn ei adnabod."

Ffynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Phil Bennett 29 o weithiau i Gymru ac wyth gwaith i'r Llewod

Roedd Phil Bennett yn sylwebydd poblogaidd gyda BBC Cymru ar ôl ymddeol o'r gêm, ac yn llywydd ar ranbarth y Scarlets.

Fe weithiodd gyda'r newyddiadurwr Graham Thomas yn y BBC am flynyddoedd ac mi fydd ef hefyd yn rhannu gair yn y gwasanaeth goffa.

"Ro'n i'n adnabod Phil am fwy na 30 mlynedd... ro'n i'n ei ystyried yn ffrind ac mae'n fraint enfawr i geisio crynhoi ei fywyd yn y gwasanaeth a'i gyfraniad i rygbi a phobl Llanelli a Chymru.

"Mae'r cariad a'r anwyldeb sydd wedi ei rannu iddo dros y pythefnos diwethaf wedi bod yn anhygoel ac mae hynny jyst yn dangos gymaint o drysor cenedlaethol oedd e."

Cafodd angladd Phil Bennett ei chynnal yn Felinfoel yn ddiweddarach ddydd Gwener.