Argyfwng cŵn digartref Cymru

  • Cyhoeddwyd
Vanessa Waddon, sylfaenydd a rheolwr yr Hope Rescue Centre.Ffynhonnell y llun, Vanessa Waddon
Disgrifiad o’r llun,

Vanessa Waddon, sylfaenydd a rheolwr yr Hope Rescue Centre.

Yn aml iawn ar adeg yma'r flwyddyn rydym yn clywed sloganau bod cŵn yn haeddu oes o ofal, nid dim ond yn ystod cyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.

Yn dilyn cyfnod pandemig Covid-19 mae'r cyngor yma i'w weld yn bwysicach nag erioed gyda nifer fawr o bobl wedi prynu cŵn yn ystod y cyfnod clo.

Vanessa Waddon yw rheolwr Hope Rescue Centre ym Mhont-y-clun, ac mae hi wedi gweld newid mawr i'w helusen dros y flwyddyn ddiwethaf gyda llawer o gŵn yn cael eu gadael yn ddigartref.

"Mae'r galw am wasanaethau wedi saethu i fyny yn gyflym" meddai Vanessa. "Os edrychwn ni ar ble roedden ni yr adeg 'ma y llynedd roedden ni wedi cymryd 550 o gŵn i fewn, ac eleni rydyn ni wedi cymryd 654, sef cynnydd o 19%. Ond mae'n rhaid cofio hefyd ein bod ni wedi derbyn cwymp yn y niferoedd sy'n ceisio mabwysiadu cŵn gennym ni.

"Ry'n ni'n lloches i gŵn sydd wedi eu hamddifadu, ac felly rydyn ni wedi gweld bobl yn camddefnyddio ein gwasanaeth er mwyn diystyru y cŵn maen nhw berchen. Felly da ni'n cael dipyn o'r cŵn sy'n anoddach i'w trin - cŵn mae pobl yn methu cael mewn i'r llefydd dog rescue, sy'n aml efo anghenion iechyd neu chyflyrau cronig."

Disgrifiad o’r llun,

Hank, ci Dogue de Bordeaux, sydd dan ofal y Hope Rescue Centre ym Mhont-y-clun

Mae Vanessa o'r farn bod sawl ffactor wedi dod at ei gilydd i gyrraedd y sefyllfa argyfyngus sy'n bodoli heddiw.

"Mae'n rhywfath o perfect storm gyda lot o gŵn wedi'u prynu yn ystod Covid, a llawer gan berchnogion cŵn am y tro cyntaf a oedd efallai heb feddwl am y goblygiadau hir-dymor i fod berchen ar gi."

Argyfwng costau byw

"Mae ganddon ni hefyd wrth gwrs argyfwng costau byw, sy'n rhoi pwysau ar gyllidebau teuluoedd, ac o ganlyniad mae rhai pobl yn ffeindio hi'n anodd i edrych ar ôl cŵn - y biliau gan y fet, costau yswiriant ac yn y blaen. Mae 'na fanciau bwyd sy'n helpu bobl sy'n ffeindio hi'n anodd, ond ateb byr-dymor ydy hynny. Mae llawer o bobl wedi gwneud camgymeriad ac nawr yn meddwl 'efallai nad dyma'r amser iawn i ni gymryd ci ymlaen'."

"Mae'r sefyllfa yn arswydus yn ein sector ni ar hyn o bryd - alla i ddweud yn onest, yn y bymtheg mlynedd ddiwethaf rwy'n teimlo bo' ni 'di cymryd cam yn ôl. Pan nes i ddechrau cwmni Hope Rescue bymtheg mlynedd yn ôl - dyna lle i ni nawr, y ffaldau cŵn yn llawn ac yn gorfod rhoi cŵn i gysgu yn anffodus."

Disgrifiad o’r llun,

Monty, ci Staffordshire Bull Terrier, sydd yn un o'r bridiau sy'n cael eu gadael yn y ganolfan amlaf

"Dylai cŵn sy'n cael eu diystyru ddim fod yn mynd i'r dog pounds - dyle rheiny fod ar gyfer cŵn sydd yn wirioneddol ar goll ac heb obaith. Felly beth mae llawer yn gwneud dyddiau 'ma yw diystyru eu cŵn yn fwriadol a gadael iddyn nhw grwydro, neu yn dweud celwydd bod na gŵn wedi amddifadu yno - a 'dan ni'n edrych ar ein records a gweld bod gan y ci berchennog. Mae hyn yn digwydd mwy a mwy dyddiau 'ma a dydi hyn ddim yn deg ar bobl sydd wirioneddol angen ein help, wedi ein ffonio ni ac ar ein rhestr aros.

"Rydyn ni'n nôl cŵn sydd wedi eu hamddifadu o Ben-y-bont, Bro Morgannwg a Rhondda Cynon-Taf. Rydyn ni hefyd yn cymryd cŵn o Ferthyr, Blaenau Gwent a Thorfaen. Mae gan Caerdydd a Chasnewydd wasanaethau cyngor eu hunain, ac rydyn ni'n rhoi sylw i weddill de Cymru."

Beth yw'r mathau o frîd sy'n cael eu gadael a'u diystyru amlaf? "Staffordshire Bull Terriers a Lurchers," meddai Vanessa. "Ond 'dan ni hefyd wedi gweld cynnydd enfawr yn y niferoedd o'r bulldog Seisnig, y bulldog Ffrengig a'r Amercian bullies. Mae hyn yn bennaf oherwydd materion iechyd a dydi'r perchnogion methu fforddio talu y biliau i'w trin nhw."

Effaith Y Nadolig

A fydd Vanessa'n disgwyl mwy o gŵn wrth ei drws ym mis Ionawr a Chwefror? "Yn sicr, dwi'n meddwl fydd pobl efallai'n teimlo'r straen ariannol dros y Nadolig ac erbyn y flwyddyn newydd wnawn ni weld mwy o gŵn yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Kiara, ci Akita sydd hefyd o dan ofal Vanessa a'i thîm.

Felly, beth fyddai'r cyngor fyddai Vanessa yn ei gynnig i'r bobl sy'n ystyried prynu ci newydd?

"Meddyliwch yn ofalus iawn am y costau o edrych ar ôl anifail anwes yn gyfrifol. Rydym yn gwybod bod bwyd ac yswiriant yn ddrud - rydych chi'n gwybod hynny o'r dechrau felly gwnewch yn siŵr bod gennych y gallu yn ariannol i edrych ar ôl yr anifail yn iawn. Nid dim ond prynu sydd angen, mae llwyth o bethau eraill, ac mae costau yn hollbwysig i wneud yn siŵr bod y brechiadau i gyd wedi'u gwneud, triniaethau rhag llyngyr ayyb.

"Mae angen gwneud yn siŵr bod chi'n prynu'r math o gi sy'n iawn i chi - rydyn ni'n gweld gymaint o gŵn yn cael eu gadael 'ma gyda phroblemau iechyd, fel y bulldog Seisnig a'r bulldog Ffrengig. Cafon ni ddau bulldog i fewn heddiw - bydde hynny ddim wedi digwydd bum mlynedd yn ôl, maen nhw'n fridiau drud.

"Os ydych chi am gael ci, cymrwch olwg ar y canolfannau sy'n achub cŵn yn gyntaf. 'Dan ni o dan lot o bwysau ar hyn o bryd, ac efo ystod eang iawn o gŵn sydd ar gael. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael ci o le cyfrifol, ac eich bod wedi meddwl yn ddyrys am allu bod yn gyfrifol am yr anifail 'ma am y 15 mlynedd nesaf."

Hefyd o ddiddordeb: