Beth yw dyfodol y ci defaid Cymreig?
- Cyhoeddwyd
A oes yna olygfa well yng nghefn gwlad Cymru na chi defaid Cymreig yn gwibio dros gaeau gwyrdd? Maen nhw'n gŵn deallus ac actif, ac yn ôl y sôn mae eu gwreiddiau nhw yma yn ymestyn dros 800 mlynedd.
Ond fe roedd yna gyfnod ble roedd yr olygfa yna mewn peryg o ddiflannu am byth.
Gyda'r niferoedd yn gostwng fe ffurfiwyd y Gymdeithas Cŵn Defaid Cymreig 25 mlynedd yn ôl, gyda'r bwriad o adfer y niferoedd o'r brîd.
Fe siaradodd John Davies, un sydd wedi bod yn rhan o'r gymdeithas ers y dechrau, gyda Geraint Lloyd ar BBC Radio Cymru.
"Roedd fy hen dad-cu yn gyrru defaid o Dregaron i Aberhonddu yn yr hydref, ac roedd e'n gwneud hyn tan yr adeg y daeth y loriau, a daeth ffensys yn fwy cyffredin i ddal defaid ac roedd llai o waith i'r cŵn.
"Daeth y treialon cŵn defaid yn fwy poblogaidd a daeth 'na gŵn lawr o'r Alban - y border collie, ac roedd rheiny'n siwtio treialon yn well ac fe gafon nhw eu hysbysebu lot hefyd. Felly, fe wnaeth y cŵn yma ddechrau cymryd drosodd gan yr hen fridiau o gŵn oedd ar hyd y wlad ac ar hyd Prydain."
Nodweddion y ci defaid Cymreig
Mae cŵn defaid Cymreig yn fwy o ran maint na'r border collie, ac yn dueddol o fod yn fwy ffyrnig hefyd. Esboniai John Davies mwy am nodweddion y ci defaid Cymreig.
"Mae'n nhw yn dod ym mhob lliw - glas, coch, torgoch... ac yn gryfach cŵn, cyfarth pan fo rhaid wrth eu gwaith. Pan oedden nhw'n gyrru'r defaid o Dregaron, ar y dwy neu dair milltir cyntaf oedd eisiau cŵn cryfion amser hynny achos roedd y defaid a'r gwartheg eisiau mynd am adre', felly oedd angen ci mwy ffyrnig i'w symud nhw.
"Mae nhw'n gŵn sy'n gallu dal cwningod os mae rhaid hefyd - o'n i'n defnyddio nhw ar gyfer y pwrpas yna pan o'n i'n iau."
Mae'r collie Cymreig hefyd yn gi boblogaidd, sy'n groesfrid o'r border collie a'r ci defaid Cymreig.
Bron â diflannu
Roedd y niferoedd o gŵn defaid Cymreig yn hynod o isel ar un pwynt, fel esboniai John: "Roedden nhw lawr i o dan y 100, a thua 50 cant oedd yn ddigon ifanc i fagu.
"Ffoniais i fachan o'r enw Huw Thomas o Aberaeron a oedd yn mynd rownd ffermydd gyda'i waith i holi beth oedd e'n feddwl o'r niferoedd, ac doedd e ddim yn gwybod am lawer ohonyn nhw rownd y lle. Fe alwodd e bwyllgor a doth 'na growd i fyny, gyda pawb yn cytuno bo'r niferoedd yn diflannu.
"Wedyn fe ddechreuon ni gymdeithas, gyda phawb yn mynd rownd y ffermydd i weld ble roedd y rhai ar ôl a dechre magu arnyn nhw, ac mae dros 3,000 o gŵn bach wedi'w cofrestru heddi, felly mae nhw 'di dod nôl yn dda iawn."
Roedd sawl cynllun arbennig wedi'u lansio gan y gymdeithas gyda'r amcan o gynyddu'r niferoedd o gŵn defaid Cymreig.
"Fuon ni'n rhoi ci bach i rywun er mwyn ei ddysgu fe, ac yn aml fe roedd rheiny'n gweithio mas yn dda iawn. Rydyn ni wedi bod yn gwneud arddangosfeydd ar hyd lle, cynnal diwrnode agored ac hysbysebu'r cŵn i bobl cael eu gweld nhw - hynny sy'n dod â phobl nôl atyn nhw."
Mae trefnu i gynyddu'r niferoedd yn gallu bod yn broses ddrud a chymleth, gan fod y cŵn wedi'w gwasgaru dros lefydd gwahanol: "Mae 'na gŵn tebyg yn Cumbria, ond mae'n dipyn o job ac mae hi'n gostus dod â'r had neu waed nôl o ardaloedd eraill."
Mae 'na gŵn border collie wedi'u gwerthu am arian mawr yn ddiweddar, gyda chi yn cael ei werthu yn Nolgellau'r llynedd am dros £27,000, ond yw'r un peth yn wir am brisiau'r ci defaid Cymreig? "Nac ydi, di nhw ddim yn gwerthu fel y cŵn treials" meddai John. "Cŵn ar y fferm - dyna ble maen nhw ar eu gore, yn gweithio'r gwartheg a defaid."
Amcanion i'r dyfodol
Gyda'r niferoedd cŵn defaid Cymreig bellach yn y miloedd, beth mae'r gymdeithas yn gobeithio'i wneud yn y dyfodol? "Dala i hysbysebu nhw a dal i gadw fynd fel ni'n mynd nawr" meddai John.
"Gan bod ni'n dathlu 25 mlynedd falle nawn ni arddangosfa yn y Sioe Frenhinol, ond da ni heb gael cyfarfod na dim ers dwy flynedd oherwydd y pandemig 'ma - fe gawn ni un cyn bo hir i drefnu'r haf a'r hydref sydd i ddod."
Mae poblogrwydd cŵn defaid Cymreig wedi lledu dramor hefyd, gyda hyd yn oed cymdeithas wedi ei sefydlu yn Sgandinafia.
"Maen nhw wedi mynd i America, ac ar draws y byd i ddweud y gwir, ac mae 'na gymdeithas wedi dechre yn Sweden - maen nhw'n cael hwyl dda arni yno ond yn chwilio am waed newydd, fel ry'n ni i ddweud y gwir!"
Felly, diolch i ymdrechion John a'r gymdeithas i gynyddu eu niferoedd dros yr 25 mlynedd diwethaf, gallwn obeithio y bydd y ci defaid Cymreig yn olygfa gyffredin iawn yng Nghymru am ganrifoedd.
Hefyd o ddiddordeb: