'Arwyddion eisoes' bod pobl yn cefnu ar gŵn y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ronnie y staffieFfynhonnell y llun, Canolfan Achub Hope
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ronnie yn chwilio am gartref newydd ar ôl cael ei symud rhwng pedair aelwyd wahanol

Mae elusen cŵn wedi dweud ei bod yn poeni y bydd cynnydd yn y bobl sy'n cefnu ar gŵn a gafodd eu prynu yn ystod y cyfnodau clo wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio.

Dywedodd elusen Dogs Trust ei fod eisoes wedi gweld rhai "tueddiadau pryderus" ac er nad yw pobl wedi dechrau rhoi'r gorau i'w cŵn eto, mae "tueddiad hanesyddol" o hyn yn digwydd yn ystod cyfnodau anodd.

Dywedodd Canolfan Achub Hope yn Rhondda Cynon Taf fod y galw am eu cŵn wedi cynyddu pum gwaith ers i'r pandemig ddechrau.

Roedd nifer y cŵn sy'n crwydro a oedd yn cael eu rhoi iddyn nhw wedi haneru ers i'r pandemig ddechrau oherwydd bod cŵn yn cael eu gwerthu rhwng pobl yn lle cael eu rhoi i'r elusen i'w mabwysiadu.

Arweiniodd hyn at waethygu materion iechyd neu ymddygiad presennol, meddai'r elusen.

Cafodd un daeargi 11 mis oed ei basio rhwng pedair aelwyd wahanol cyn iddo gael ei yrru i'r ganolfan yn Llanharan yn y pendraw.

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, wedi annog pobl i ofyn am gyngor gan filfeddyg cyn prynu ci, neu os ydyn nhw'n cael trafferth gyda chi maen nhw'n berchen arno.

Dywedodd cyfarwyddwr gyda'r Dogs Trust, Adam Clowes, fod y cyfnodau cloi wedi rhoi cyfle i bobl gael cŵn am eu bod nhw'n treulio mwy o amser gartref.

Fodd bynnag, wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi eto mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sy'n cefnu ar eu cŵn, meddai.

Ffynhonnell y llun, Dogs Trust
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Dogs Trust yn cynnal dosbarthiadau ar sut i ofalu am anifeiliaid anwes dros y we yn ystod y pandemig

Dywedodd Mr Clowes: "Rydyn ni'n gwybod bod yna duedd hanesyddol i bobl orfod rhoi'r gorau i'w cŵn yn ystod amseroedd anodd.

"Dydyn ni ddim wedi taro'r amser anodd hwnnw eto oherwydd rydyn ni wedi cael sawl cyfnod clo gwahanol, ond mae yna rai tueddiadau pryderus iawn rydyn ni wedi'u gweld yn barod."

Yn ôl yr elusen, materion yn ymwneud ag ymddygiad oedd y prif reswm dros roi'r gorau i gŵn, ac fe allai'r cyfnod clo fod wedi gwaethygu'r rhain oherwydd diffyg cymdeithasu a llai o ddosbarthiadau.

Mae'r Dogs Trust yn cynnal dosbarthiadau hyfforddi cŵn ar-lein i helpu perchnogion i baratoi cŵn ar gyfer newidiadau ac i atal problemau ymddygiad wrth i gyfyngiadau gael eu codi'n raddol.

Symud cŵn o le i le

Mae Canolfan Achub Hope yn derbyn cŵn amddifad ar ran chwe awdurdod lleol yn ne Cymru, sydd tua chwarter cyfanswm y cŵn sydd heb eu hawlio ar draws Cymru.

Dywedodd y ganolfan fod ceisiadau gan bobl sydd eisiau mabwysiadu ci wedi cynyddu o gyfartaledd o 1,000 bob blwyddyn i 5,000 yn 2020, tra bod nifer y cŵn sydd ar gael i'w hailgartrefu wedi haneru.

Ychwanegodd Canolfan Achub Hope fod galw uwch yn golygu bod perchnogion a oedd angen rhoi'r gorau i gi yn aml yn dewis eu gwerthu neu eu trosglwyddo yn lle eu rhoi i ganolfan achub, gan arwain at faterion ymddygiad neu iechyd cymhleth yn ddiweddarach ym mywyd yr anifail.

"Yr hyn rydyn ni'n ei weld nawr yn digwydd yw, yn aml os nad yw rhywun yn ymdopi â chi, maen nhw wedyn yn dewis ei werthu oherwydd bod y galw mor uchel," meddai Sara Rosser, pennaeth lles a mabwysiadu'r elusen.

"Y broblem gyda hynny yw, yn enwedig os oes gan y ci broblem ymddygiad neu feddygol, ac nad yw'n cael ei drin yn gywir, bod y problemau hynny'n gwaethygu.

"Erbyn i'r ci hwnnw ein cyrraedd ni, mae gennym ni lawer iawn o waith i'w wneud i baratoi'r ci hwnnw i gael ei ailgartrefu."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sara Rosser bod pobl yn tueddu i werthu cŵn yn hytrach na'u rhoi i elusen ar hyn o bryd

Un ci sy'n aros i gael ei ailgartrefu yw daeargi 11 mis oed, Ronnie.

Mae wedi cael ei werthu rhwng o leiaf pedair aelwyd wahanol ers i'r pandemig ddechrau am nad oedd y perchnogion gwreiddiol yn gallu ymdopi â'i ymddygiad pryderus.

Dywedodd y sefydliad hefyd fod y cynnydd yn y galw am gŵn wedi arwain at "fridio anghyfrifol".

Meddai Ms Rosser: "Mae bridwyr cudd wedi gallu cynyddu eu prisiau yn aruthrol ac wedi dal i allu gwerthu eu cŵn bach.

"Felly iddyn nhw mae hwn wedi bod yn fusnes mawr - Covid fu'r peth gorau posib iddyn nhw."

Dywedodd y ganolfan ei bod wedi gweld mwy o gŵn bach yn dod i mewn i'r ganolfan gyda "phroblemau iechyd difrifol" o ganlyniad i fridio diegwyddor ymhlith rhai bridiau, yn ogystal â chŵn bach a oedd angen eu hailgartrefu oherwydd nad oedd pobl wedi gwneud digon o ymchwil a oedd y math o gi yn iawn iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Teulu Constantinou
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ash bellach mewn catref newydd gyda theulu'r Constantinou

Yn ddiweddar, ailgartrefodd y ganolfan gi bach Labrador-Huntaway 9 wythnos oed o'r enw Ash.

Roedd ei gyn-berchennog wedi ei brynu o fferm ond sylweddolodd o fewn dyddiau i ddod ag ef adref na fyddent yn gallu darparu'r gofal iawn ar gyfer y ci bywiog yma.

Cysylltodd y perchennog â Chanolfan Achub Hope, a cafodd Ash ei fabwysiadu o fewn dim gan deulu Constantinou o Gaerdydd.

Roedden nhw wedi bod yn aros ers dechrau 2020 i fabwysiadu ci ar ôl cofrestru eu diddordeb gydag amryw o gartrefi cŵn yn eu hardal.

'Cyfrifoldeb llawn amser'

Dywedodd Emma Constantinou fod Ash yn "werth aros amdano".

"Mae'n torri'ch calon ac rydych chi'n clywed llawer am hyn, pobl yn prynu cŵn bach a ddim yn deall mewn gwirionedd sut i ofalu amdanyn nhw," meddai.

"Mae'n nhw fel baban newydd-anedig, maen nhw'n gyfrifoldeb llawn amser.

"Gydag Ash rwy'n ddiolchgar iawn bod y perchennog hwnnw wedi gwneud y peth iawn. Byddai wedi bod yn eithaf hawdd iddyn nhw ei werthu ymlaen i rywun arall.

"Ond rydych chi'n gwybod eu bod yn amlwg â eisiau'r gorau i'r anifail yn y bôn."

Ffynhonnell y llun, Teulu Constantinou

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop mai "y peth olaf y dylai pobl ei wneud yw ceisio gwerthu eu hanifeiliaid anwes i rywun arall" os ydyn nhw'n cael trafferth.

Mae hi wedi annog pobl i ddechrau paratoi eu cŵn wrth i gyfyngiadau gael eu codi, ond hefyd i siarad â'u milfeddyg os ydyn nhw'n poeni eu bod wedi ymgymryd â rhywbeth nad ydyn nhw'n gallu ymdopi gyda mwyach.

Fis diwethaf, pasiwyd pleidlais yn y Senedd i gyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer gwerthu anifeiliaid anwes, a ddaw i rym ym mis Medi.

Bydd yn drosedd gwerthu ci bach neu gath fach nad yw'r gwerthwr wedi bridio ei hun pan ddaw'r ddeddf i rym.

Dywedodd yr Athro Glossop fod y ddeddfwriaeth wedi'i chynllunio i leihau rhai o'r materion yn ymwneud â'r galw cynyddol am gŵn bach, ond nad yw'n datrys pob problem ar ei phen ei hun.

"Mae llawer iawn i'w ddweud dros bobl sy'n gwneud yr ymchwil cyn iddynt brynu ci bach newydd, a hefyd i ddeall anghenion yr anifail hwnnw," meddai.

Pynciau cysylltiedig