Bowlio lawnt 'ddim yn gêm i hen ddynion yn unig'

  • Cyhoeddwyd
Tîm bowlioFfynhonnell y llun, Tegan Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tegan Rees (pumed o'r dde) wedi bod yn siarad ag enwau mawr y gamp yng Nghymru

Mae menyw ifanc o Gwm Rhondda yn awyddus i "newid y stereoteip" o amgylch bowlio lawnt.

Mae Tegan Rees, 19, wedi cynrychioli Cymru yn y gamp ers blynyddoedd.

Dechreuodd chwarae gyda'i thad yn saith oed ac mae'n gweld dyfodol disglair i'r gamp gyda "phobl ifanc yn cymryd drosodd".

Mae Tegan yn fyfyrwraig yn Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, a bu'n rhannu ei stori gyda BBC Cymru Fyw.

Ro'n i wastad yn ymwybodol beth oedd bowls - yn wahanol iawn i'r plant eraill yn yr ysgol.

Does neb yn disgwyl i unrhyw blentyn ddweud eu bod nhw'n chwarae bowls - mae'n rhywbeth sydd fel arfer yn cael ei weld fel gêm i hen ddynion.

Pan yn 12 oed wnes i lwyddo i gael fy newis i dîm Cymru dan 25.

Dwi hefyd wedi cynrychioli Cymru o dan 18 gan ennill dwy fedal, un efydd ac un arian.

Ers hynny dwi wedi chwarae i'r Uwch Dîm Cenedlaethol gan ennill fy nghap cyntaf a medal efydd mewn cystadleuaeth yn Iwerddon.

Ffynhonnell y llun, Tegan Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tegan (yn y blaen) wedi hen arfer chwarae bowls gyda dynion

Roedd hi'n amser prowd iawn i gael fy newis i'r tîm a oedd yn llawn bechgyn - dim ond pedair merch gafodd eu dewis.

O'n i'n falch i gael y cyfle i ddangos fod merched yn gallu cystadlu ar y lefel uchaf.

Roedd yn deimlad anhygoel i brofi bod pobl ifanc - a merched yn enwedig - yn chwarae bowls.

Er ei bod hi'n cael ei gweld fel gêm hen ddynion - ni yw'r dyfodol, a ni fydd y rhai i newid y stereoteip yma.

'Anodd iawn cael parch'

Un fenyw sydd wedi serennu ar y lefel uchaf yw Anwen Butten o Lanbedr Pont Steffan.

Anwen oedd capten Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022 - ac mae'n cydnabod bod angen newid ym myd bowls.

Ar ôl llwyddiant y tîm yn Birmingham y llynedd, dywedodd Anwen y byddai wedi bod yn braf gweld mwy o gydnabyddiaeth cyhoeddus er mwyn hybu poblogrwydd y gamp.

Mae Anwen wedi bod yn chwarae ers yn 13 oed, ac yn teimlo fod rhagfarn tuag at fenywod yn dal i fodoli yn y gamp.

"Fi yn credu bod 'na lawer o ddynion yng Nghymru a thu hwnt sydd yn meddwl bod menywod ddim yn gallu bowlio yn dda," meddai.

Ffynhonnell y llun, Carwyn Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Anwen Butten oedd capten Cymru yn y Gemau yn Birmingham y llynedd

"Mae'n anodd iawn cael parch wrth lot o ddynion yn enwedig o male-dominated clubs o fewn Cymru.

"Yn anffodus, mae hi'n anodd iawn i newid hyn, ond rwy'n credu bod e yn bwysig i menywod i chwarae yn mwy o mixed competitions i ddangos pa mor dda ni yn gallu bod, i trio newid yr agwedd, ond mae'n anodd."

'Stereoteip enfawr mewn bowls'

Un arall a ddechreuodd ei yrfa bowls yn ifanc yw Daniel Salmon, sydd hefyd wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad gan ennill aur yn 2018 a 2022.

Dywedodd Dan fod "stereoteip enfawr mewn bowls oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl tu allan i bowls jyst yn meddwl taw hen bobl sy'n chwarae".

"Ond nes i ti weld neu cael go, byddech chi'n sylweddoli nad yw hynny'n wir," meddai.

"Rwy'n credu y bydd Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham wedi helpu llawer gyda hynny."

Ffynhonnell y llun, Tegan Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tegan yn gobeithio newid stereotepiau

Mae Dan yn credu y byddai cyfuno bowls menywod a dynion o dan un bwrdd rheoli yn fuddiol, gan wella cydraddoldeb yn y gêm.

"Rwy'n credu bydd e'n helpu ychydig. Gyda hwnna yn digwydd efallai y byddwch yn gallu cael mwy o gyllid," dywedodd.

Ychwanegodd bod camau yn barod yn cael eu cymryd yn y cyfeiriad cywir er mwyn denu mwy o bobl ifanc i chwarae'r gêm gyda chitiau lliwgar yn cael eu cyflwyno.

Gobaith y chwaraewyr yma i gyd yw y bydd llwyddiant parhaus timoedd bowls Cymru yn arwain at fwy o ddiddordeb a mwy o bobl ifanc yn cymryd rhan.