Rhyddhad tad yn dilyn dedfrydau terfysg 'cwbl ofnadwy'

  • Cyhoeddwyd
Adam Romain
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Adam Romain a'i gartref eu targedu yn yr anhrefn ym mis Mai

Mae tad i ddau o blant ifanc wnaeth orfod gadel ei gartref ar noson o derfysg yn Abertawe wedi dweud fod dedfrydu 21 o bobl wedi lleddfu ychydig ar boen meddwl ei deulu.

Cafodd ffenestri tŷ Adam Romain yn ardal Mayhill eu chwalu gan frics, ac fe wnaeth ffilmio'r ymosodiad wrth iddo ffonio'r heddlu yn ymbilio am help ym mis Mai 2021.

Gellir clywed ei blant, merch fach 18 mis oed ar y pryd, a'i brawd tair oed, yn sgrechian yn y cefndir wrth i ffenest ei ddrws dorri'n deilchion.

Ffynhonnell y llun, Robert Mellen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ffordd Waun-wen yn edrych fel "maes y gad" medd rhai trigolion

Ond er fod y terfysg wedi digwydd 19 mis yn ôl, mae Adam Romain yn dweud fod y noson yn dal i effeithio ar y teulu.

"I mi yn bersonol, ac yn seicolegol, mae wedi cael effaith fawr, ac wedi cael effaith hir dymor yn ariannol hefyd, yn ogsytal â stress arno ni fel teulu," meddai Mr Romain, 36, wrth ymweld â Ffordd Waun Wen am y tro cyntaf ers iddo symud o'r ardal.

Effeithio 'pob rhan' o fywyd

Roedd cael llety newydd, meddai, yn anodd a bu'n rhaid i'w deulu aros gyda ffrindiau am rai misoedd cyn dod o hyd i gartref newydd.

"Mae wedi rhoi pwysau arno ni fel teulu," meddai "felly ydy mae wedi effeithio ar bob rhan o'n bywyd a dweud y gwir."

Disgrifiad,

Yr anhrefn yn Mayhill, Abertawe fis Mai 2021

Mae Mr Romain yn dal i gofio'r criw mawr o bobl yn gweiddi ar y stryd, gan ddweud bod yr holl brofiad yn swreal hyd heddiw.

Wrth ddedfrydu tri llanc dan 18, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, dywedodd y Barnwr Paul Thomas fod dau o'r llanciau yn rhan o'r digwyddiad "cwbl ofnadwy ar y teulu Romain".

Roedd gwylio'r fideo o Mr Romain yn galw'r heddlu yn "troi stumog", meddai Paul Thomas.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfanswm o 21 o bobl eu dedfrydu am eu rhan yn y terfysg yn Mayhill fis Mai 2021

Mae Mr Romain yn dweud fod dedfrydu'r 21 yn golygu fod pwysau wedi ei godi, yn rhyddhad mawr ac y gall ddechrau symud ymlaen.

Ond ni fydd o fyth yn anghofio.

"Roeddwn i'n ofni am fy mywyd, ac roedd y fordd yr oedd fy mhlant yn sgrechian yn ofnadwy.

"Mae pawb dwi'n siarad gyda sydd wedi gweld y fideo o'r ymosodiad yn dweud bod nhw methu gwylio'r cyfan am ei fod mor ofnadwy."

Bu'r profiad yn un anodd i'w blant, gyda'r ddau, yn ôl Mr Romain yn ymddwyn yn wael am rai misoedd.

"Mae rhywun yn gwneud popeth o fewn ei allu i ddwyn ei blant i fyny yn ddiogel," meddai.

"Ond mae'r noson yma wedi gwneud i mi sylweddoli nad yw'r cyfrifoldeb yn gorffen ar stepen eich drws, mae'n ymestyn i fewn i'r gymuned leol, mae'n ymestyn at bob un ohono ni."

Pynciau cysylltiedig