Dedfrydu tri llanc wedi terfysg Mayhill yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
MayhillFfynhonnell y llun, Social Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tân ei gynnau mewn car a chafodd ffenestri eu torri ar 20 Mai 2021

Mae tri llanc wedi cael eu dedfrydu am eu rhan yn nherfysg Mayhill yn Abertawe ym mis Mai 2021.

Bydd y tri, sy'n 17 oed, yn treulio'u dedfrydau mewn canolfannau cadw a hyfforddi. Does dim modd eu henwi am resymau cyfreithiol.

Roedd y tri wedi'u cyhuddo o derfysg, ac un wedi ei gyhuddo'n ychwanegol o gynnau tân yn fwriadol ac yn ddi-hid.

Bydd y bachgen 17 oed gafodd ei gyhuddo o'r ddwy drosedd yn treulio dwy flynedd dan glo, a'r ddau arall 14 mis ac wyth mis yr un.

Er mai dedfrydau o'r fath yw'r opsiwn olaf i bobl dan 18 oed, meddai'r Barnwr Paul Thomas, roedd effaith eu gweithredoedd ar y gymuned yn golygu bod hyn yn anochel.

Ddydd Llun, hefyd yn Llys y Goron Abertawe, cafodd 18 o bobl eu dedfrydu i gyfanswm o dros 83 o flynyddoedd o garchar am eu rhan yn y terfysg.

Beth ddigwyddodd?

Ar 20 Mai 2021 roedd yna anhrefn ar Heol Waun Wen, stad fawr uwchlaw dinas a phorthladd Abertawe.

Cafodd ceir eu llosgi'n ulw ac eiddo eu difrodi, ar ôl i wylnos i gofio Ethan Powell 19 oed fu farw'r diwrnod blaenorol droi yn dreisgar.

Yn ôl y barnwr roedd y dorf wedi "herwgipio'r" coffa.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr fod yr heddlu wedi gorfod cilio o'r ardal am gyfnod

Yn ôl y barnwr Thomas roedd dau o'r llanciau yn rhan o'r digwyddiad cwbl ofnadwy ar y teulu Romain.

Roedd gwylio'r fideo o Adam Romain yn galw'r heddlu, meddai'r barnwr, yn troi stumog.

Ac roedd y tri llanc, meddai, yn rhan o'r ymosodiadau ar yr heddlu a achosodd iddyn nhw gilio gan adael pobl Mayhill wedi eu parlysu ac yn ddiamddiffyn.

Wrth ddedfrydu'r tri, dywedodd y Barnwr Thomas, y byddai'n "methu yn fy nyletswydd gyhoeddus i amddiffyn pobl Abertawe pe na bai chi'n cael eich cadw dan glo ar unwaith".

Mae pum person ifanc arall eisoes wedi cael eu dedfrydu yn llys y goron neu'r llysoedd ieuenctid gan dderbyn rhybudd ieuenctid.