Abertawe: Dedfrydu 18 yn dilyn terfysg Mayhill
- Cyhoeddwyd

Rhes uchaf: Keiron Argent, Connor Beddows, Joshua Cullen, Niamh Cullen, Kian Hurley, Lewis James. Rhes ganol: Paul Jones, Tyrone Langan, Jahanzaib Malik, Mitchell Meredith, Christopher Munslowe, Ryan Owen. Rhes isaf: Michael Parsons, Aaron Phillips, Dean Price, Ryan Sarsfield, Keiran Smith, William Smoulden
Mae 17 o ddynion ac un fenyw wedi'u dedfrydu am eu rhan yn nherfysgoedd Mayhill ym Mai 2021.
Disgrifiodd y Barnwr Paul Thomas y digwyddiad fel yr "achos gwaethaf o drais torfol sydd wedi digwydd yma yn ystod fy oes".
Llosgwyd ceir a chwalwyd ffenestri yn ardal Mayhill o Abertawe ar 20 Mai 2021 yn dilyn digwyddiad i nodi marwolaeth dyn ifanc lleol - Ethan Powell, 19 - fu farw ddiwrnod ynghynt.
Bydd tri diffynnydd dan 18 oed - na ellir eu henwi oherwydd rhesymau cyfreithiol - yn cael eu dedfrydu ddydd Mawrth.
Yn Llys y Goron Abertawe, disgrifiodd y barnwr effaith eang yr anhrefn ar y gymuned, gan gynnwys ar blant, difrod i eiddo, a'r ffaith ei fod wedi niwedio enw da Mayhill.

Roedd Ffordd Waun-wen yn edrych fel "maes y gad" medd rhai trigolion
Dywedodd y Barnwr Thomas fod "y rhai ohonom sy'n cael y fraint o fyw yn ninas Abertawe yn ei ystyried yn le diogel, heddychlon i fyw ac i fagu teulu".
Ond yn dilyn y terfysgoedd, dywedodd fod saith teulu ym Mayhill naill ai wedi gadael neu eisiau gadael yr ardal.
Disgrifiodd sut y cafodd y digwyddiad i nodi marwolaeth Ethan Powell ei "herwgipio'n ddigywilydd ac yn sinigaidd" gan derfysgwyr, a'u prif gymhelliant oedd "awydd am adloniant torfol".
Yn benodol, tynnodd y Barnwr Thomas sylw at effaith y digwyddiadau ar y teulu Romain. Roedd brics wedi'u taflu at eu tŷ tra bod plentyn pedair oed a babi 16 mis oed yno.
Dedfrydwyd y diffynyddion am amrywiaeth o droseddau, gan gynnwys terfysg a llosgi bwriadol.
Keiron Argent, 18 - 3 blynedd, 2 fis mewn sefydliad troseddwyr ifanc
Connor Beddows, 22 - 4 blynedd, 3 mis
Joshua Cullen, 32 - 5 mlynedd, 6 mis
Niamh Cullen, 19 - 2 flynedd, 8 mis mewn sefydliad troseddwyr ifanc
Kian Hurley, 24 - 6 blynedd, 9 mis
Lewis James, 21 - 5 mlynedd
Paul Jones, 45 - 4 blynedd, 6 mis
Tyrone Langan, 28 - 5 mlynedd, 3 mis
Jahanzaib Malik, 21 - 4 blynedd
Mitchell Meredith, 20 - 6 blynedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc
Christopher Munslowe, 23 - 3 blynedd, 6 mis
Ryan Owen, 21 - 4 blynedd
Michael Parsons, 37 - 6 blynedd a 3 mis
Aaron Phillips, 24 - 6 blynedd a 3 mis
Dean Price, 41 - 5 mlynedd, 6 mis
Ryan Sarsfield, 26 - 4 blynedd, 3 mis
Keiran Smith, 20 - 4 blynedd mewn sefydliad troseddwyr ifanc
William Smoulden, 24 - 3 blynedd, 6 mis

Cafodd tân ei gynnau mewn car a chafodd ffenestri eu torri ar 20 Mai 2021
Bydd pob diffynnydd yn treulio hanner eu dedfryd yn y carchar cyn dod yn gymwys i'w rhyddhau ar drwydded, oni bai eu bod yn cyflawni unrhyw drosedd pellach neu'n torri amodau'r drwydded.
Wrth draddodi'r ddedfryd hiraf o chwe blynedd a naw mis i Kian Hurley, 24, dywedodd y Barnwr Thomas: "Fe wnaethoch chi ffilmio'r hyn oedd yn digwydd. Fe wnaethoch chi ddathlu a mwynhau'r hyn oedd yn digwydd."
Disgrifiodd y barnwr Michael Parsons, 37, fel un a chwaraeodd "rôl arweiniol yn y trais" ac y bu'n chwarae rhan "sylweddol" yn annog eraill fel "unigolyn hŷn".
Cyfeiriodd y barnwr hefyd at y feirniadaeth o Heddlu De Cymru mewn adolygiad annibynnol.
Dywedodd er y gallai "weld yn llawn pam y gwnaed hyn", roedd ymchwiliad dilynol yr heddlu "o'r safon uchaf" a dywed ei fod wedi ei "syfrdanu" gan y modd yr ymdriniwyd ag ef.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022
- Cyhoeddwyd21 Mai 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021