Streic ambiwlans: 'Dim bwriad defnyddio'r fyddin'

  • Cyhoeddwyd
AmbiwlansFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i 1,500 o aelodau staff ambiwlans yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid streic dydd Mercher yn sgil anghydfod dros gyflogau

Mae Gweinidog Iechyd Cymru'n dweud ei bod yn "obeithiol" y bydd ambiwlansys yn ymateb i'r galwadau brys mwyaf difrifol pan fydd parafeddygon ar streic ddydd Mercher.

Dywedodd Eluned Morgan y bydd y galwadau mwyaf brys yn cael eu blaenoriaethu ond bod angen i bobl gadw mewn golwg y bydd y pwysau o ran galwadau llai difrifol "yn fwy fyth".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd y fyddin yn cael cais i yrru ambiwlansys yng Nghymru yn ystod streiciau.

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd wedi dweud eu bod wedi derbyn nifer uchel o alwadau dros y penwythnos o ganlyniad i'r tywydd rhewllyd, gan ofyn i bobl ond ffonio 999 os yw bywyd yn y fantol.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i ddefnyddio 1,200 o aelodau'r fyddin a 1,000 o weision sifil yn ystod gweithredu diwydiannol yn Lloegr dros gyfnod y Nadolig.

Ond dywed Llywodraeth Cymru bod "dim cynlluniau" i ddefnyddio'r lluoedd arfog i lenwi bylchau'r gwasanaeth ambiwlans.

Dywedodd llefarydd: "Mae cymorth gan y lluoedd arfog wedi ei gytuno o ran cefnogaeth logistaidd, gan helpu i sicrhau'r defnydd gorau o'r capasiti ambiwlans sydd ar gael."

Mae'r GIG yn Lloegr hefyd wedi gofyn wrth ysbytai i ryddhau gymaint o welyau ysbyty â phosib wrth baratoi ar gyfer y streiciau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi derbyn nifer fawr o alwadau dros y penwythnos oherwydd y tywydd rhewllyd

Dywed Llywodraeth Cymru bod y GIG a'r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru'n "parhau i gydweithio'n agos ar drefniadau gyda staff ac undebau cyn y streiciau".

Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan fod paratoadau'r llywodraeth ar gyfer y streic ambiwlans yn debyg i'r rhai ar gyfer streic nyrsys Cymru ddydd Iau diwethaf.

Mae gweinidogion, meddai, "yn cydnabod bod y pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn anferthol, yn rhannol oherwydd trafferth gyda'r llif [o ran rhyddhau cleifion] allan o'n ysbytai".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r undebau'n ymweld "yn gyfforddus" gyda'r trefniadau, meddai'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan

Dywedodd bod "dros fil" o gleifion yng Nghymru yn "bobl yn yr ysbyty nad oes angen iddyn nhw fod yna" a bod y llywodraeth yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol i gynyddu'r nifer o welyau yn y gymuned.

Ond fe danlinellodd mai dim ond mewn rôl gyflenwol y bydd aelodau'r fyddin yn cael eu defnyddio i "sicrhau ein bod yn defnyddio'r capasiti sydd gyda ni i'r eithaf".

Ychwanegodd: "Rydym wedi trafod hynny gyda'r undebau ac maen nhw i'w gweld yn gyfforddus gyda'r defnydd arbennig yna o wasanaethau."

Dywedodd hefyd bod y llywodraeth "yn obeithiol" y bydd ambiwlansys yn ymateb i'r galwadau mwyaf brys ddydd Mercher "ond mae'n golygu y bydd y bwysau ar rheiny nad sydd yn y categori yna yn fwy fyth, sy'n rhywbeth y mae angen i bobl ystyried".

Mewn ymateb i'r sylwadau hynny gan Ms Morgan, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig Russell George ei fod "yn synnu bod y Gweinidog Iechyd mor ddi-flewyn-ar dafod, ei bod ond yn obeithiol y bydd ambiwlansys yn cyrraedd y sefyllfaoedd mwyaf difrifol".

Ychwanegodd mai "dyna'r achos, fodd bynnag, hyd yn oed pan nad oes streic ymlaen, gyda Chymru'n cofnodi'r amseroedd ymateb arafaf erioed ym mis Hydref".