Cannoedd o weithwyr ambiwlans Cymru ar streic

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Aron Roberts a Llio Hafal yn barafeddygon sydd ar streic ddydd Mercher

Mae cannoedd o weithwyr ambiwlans ar streic ddydd Mercher - y trydydd diwrnod o weithredu diwydiannol gan staff y gwasanaeth iechyd o fewn wythnos.

Mae disgwyl i 25% o staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru - y rheiny sy'n aelodau o undeb y GMB - fod ar streic.

Ond mae'r gwasanaeth - sy'n cyflogi dros 3,500 o bobl i gyd - yn cydnabod fod "risg" y gallai staff sy'n aelodau o undebau eraill ymuno â nhw.

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi annog y cyhoedd i gymryd gofal, a dim ond ffonio 999 ar gyfer argyfyngau sy'n bygwth bywyd.

Mae'r streic yn cael ei chynnal o hanner nos, nos Fawrth, tan hanner nos, nos Fercher.

Parafeddygon, cynorthwywyr gofal, technegwyr a staff corfforaethol sydd yn cymryd rhan.

£11.24 yr awr 'ddim yn ddigon'

Mae Richard Collyer yn dechnegydd meddygol brys gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans a dywed ei fod wedi ymuno â'r linell biced i gael cyflog teg.

"Dwi'n cael fy nhalu £11.24 yr awr," meddai. "Mae gweithwyr y Post Brenhinol ar £12.50 yr awr, baristas sy'n gwneud coffi ar £13 yr awr.

"Am y gwaith ry'n yn ei wneud yn arbed bywydau a'r trawma a'r pethau ofnadwy ry'n yn eu gweld bob dydd - dyw £11.24 ddim yn ddigon."

Disgrifiad o’r llun,

Richard Collyer: 'Dyw £11.24 yr awr ddim yn ddigon'

Mae Mr Collyer, sy'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin, yn un o arweinwyr undeb y GMB.

"Am y pedair shifft diwetha' rwy' wedi eistedd y tu allan i Ysbyty Glangwili. Dwi ddim wedi symud ambiwlans. Dwi ddim wedi ymateb i anghenion y gymuned - y bobl sydd ein hangen ni.

"Yn llythrennol does dim gwelyau wedi bod yn Ysbyty Glangwili ac felly dwi ond wedi bod yn eistedd tu allan yn gwarchod cleifion am 25-30 awr," ychwanegodd.

Beth os oes digwyddiad difrifol?

Mae gwasanaethau sy'n achub a chynnal bywydau yn cael eu diogelu rhag y streic - drwy gytundeb - a gallai staff ddychwelyd i'r gwaith os oes "digwyddiad difrifol" fel damwain trên neu ymosodiad terfysgol.

Golyga hyn fod staff mewn canolfannau galwadau yn gweithio fel arfer er mwyn ateb ac asesu difrifoldeb galwadau 999.

Mae hawl hefyd gan y gwasanaeth ofyn i staff adael y llinell biced er mwyn ymateb i alwadau coch - y rheiny lle mae bywyd mewn perygl yn syth - ond allan nhw ddim mynnu bod staff yn ymateb.

Mae galwadau coch yn cynnwys achosion lle mae rhywun wedi cael ataliad ar y galon, ddim yn anadlu, yn anymwybodol neu'n cael ffitiau.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Staff y Gwasanaeth Ambiwlans yn picedu tu allan i orsaf ambiwlans Caerdydd fore Mercher

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nyrsys yng Nghymru eisoes wedi bod ar streic am ddau ddiwrnod yn yr wythnos ddiwethaf

Rhwng 10-15% o alwadau 999 i'r gwasanaeth ambiwlans sydd yn y categori mwyaf difrifol yma.

Bydd rhai galwadau difrifol eraill hefyd yn cael eu heithrio rhag y streic, ond fe fydd mwyafrif galwadau 999 yn cael eu heffeithio.

Bydd effaith sylweddol hefyd ar wasanaeth cludo cleifion i ac o apwyntiadau ysbyty, ond mi fydd cludiant i apwyntiadau dialysis a chanser yn cael ei warchod.

Mae penaethiaid y gwasanaeth ambiwlans yn cydnabod y bydd effaith y streic yn sylweddol, a'i bod yn debygol na fydd modd ymateb o gwbl i rai galwadau 999.

Bydd effaith hefyd ar y gwasanaeth 111.

Disgrifiad o’r llun,

Aelodau'r GMB yn picedu tu allan i orsaf ambiwlans Caerfyrddin fore Mercher

Mewn datganiad cyn y streic fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan annog y cyhoedd i "feddwl yn ofalus", a defnyddio'r gwasanaeth ar gyfer argyfyngau sy'n bygwth bywyd yn unig.

"Does dim amheuaeth y bydd y ddau ddiwrnod o weithredu diwydiannol, yn fuan iawn ar ôl gweithredu gan nyrsys a achosodd oedi yn nhriniaeth miloedd o gleifion yng Nghymru, yn rhoi pwysau aruthrol ar y gwasanaethau ambiwlans," meddai.

"Dim ond y galwadau mwyaf brys y bydd ambiwlansys yn gallu ymateb iddynt ar ddiwrnodau'r streic.

"Peidiwch â rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau ar y diwrnodau hyn a meddyliwch yn ofalus am y gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud yfory ac ar yr 28ain.

"Fel defnyddwyr ein GIG, mae'n hanfodol bod pob un ohonom yn gwneud popeth gallwn i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y gweithredu diwydiannol."

'Penderfyniad anodd iawn'

Yn ôl un o gadeiryddion cangen y GMB yng Nghymru, Ian James o Grucywel, dyw'r penderfyniad i streicio ddim wedi bod yn hawdd i staff.

"Roedd yn benderfyniad anodd iawn i streicio, o ystyried y ffaith ein bod yn aml iawn - y rhan fwyaf ohonom - yn gofalu am y cymunedau lle cafon ni ein geni," meddai Mr James sydd wedi gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans ers 30 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r penderfyniad i fynd ar streic ddim wedi bod yn hawdd i staff, medd Ian James

"O weithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans, ma' staff yn gorfod delio ag anafiadau catastroffig yn rheolaidd.

"Felly mae morâl ychydig yn isel, ac mae angen cryn dipyn o amser weithiau i adfer ein hunain.

"Dydyn ni ddim yn cael yr amseroedd hynny bellach."

Yn ôl Mr James dyw staff ddim wedi cael tâl digonol yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, ac mae hynny wedi cael effaith ar eu gallu i ofalu am gleifion.

"Mae rhai aelodau o staff yn gorfod defnyddio banciau bwyd," meddai.

"Mae hynny'n effeithio'n ddifrifol ar eich gallu i weithredu ar y lefel uchaf wrth ddelio â chleifion. Mae'n bryder difrifol."

Perfformiad gwaethaf erioed

Mae'r streic yn digwydd mewn cyfnod pan fo'r gwasanaeth ambiwlans yn wynebu rhai o'r heriau mwyaf yn ei hanes.

Yn ddiweddar fe fu'n rhaid i'r gwasanaeth ddatgan "digwyddiad o barhad busnes" ar ôl derbyn mwy o alwadau nag oedd modd ymateb iddyn nhw.

Ers y pandemig mae perfformiad y gwasanaeth o ran ymateb i'r galwadau mwyaf difrifol hefyd wedi dirywio i'r lefel waethaf erioed.

Ym mis Hydref dim ond 48% o'r galwadau hyn gafodd ymateb o fewn wyth munud. Y targed yw 65%.

Yn ystod yr un mis derbyniodd y gwasanaeth 4,545 o alwadau coch, sef 12.1% o'r holl alwadau.

Dyma'r nifer uchaf o alwadau coch erioed, sef 150 o alwadau lle mae bywyd yn y fantol bob dydd ar gyfartaledd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ambiwlansys yn treulio oriau lawer yn sownd tu fas i unedau brys gan fod yr unedau hynny'n orlawn

Ond mae rhai o'r problemau mae'r gwasanaeth yn eu hwynebu tu hwnt i'w reolaeth.

Un her benodol yw bod cymaint o ambiwlansys a'u criwiau yn treulio oriau lawer yn sownd tu fas i unedau brys gan fod yr unedau hynny'n orlawn.

Mae'r ystadegau yn dangos fod nifer yr oriau mae ambiwlansys wedi gorfod aros y tu fas i ysbytai Cymru cyn trosglwyddo eu cleifion wedi mwy na threblu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bu'n rhaid i ambiwlansys a'u cleifion aros dros 28,000 o oriau ym mis Hydref oherwydd bod unedau brys yn llawn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y lluoedd arfog gynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans yn ystod y pandemig, ond ni fydd hynny'n digwydd yng Nghymru yn ystod y streic

Mae nifer o staff y gwasanaeth ambiwlans yn Lloegr hefyd ar streic.

Ond yn wahanol i'r hyn allai ddigwydd yn Lloegr, ni fydd aelodau'r lluoedd arfog yn gyrru ambiwlansys yng Nghymru yn ystod cyfnod y streic.

Mae streic staff y gwasanaeth ambiwlans yn dilyn deuddydd o streicio gan gannoedd o nyrsys yng Nghymru ddydd Mawrth yr wythnos hon a dydd Iau diwethaf.

Mae disgwyl i ail streic gan weithwyr y gwasanaeth ambiwlans gael ei chynnal ar 28 Rhagfyr.

Pam fod y streic yn digwydd?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff y gwasanaeth iechyd, ond gyda chwyddiant dros 10% mae undebau yn mynnu fod hyn yn doriad cyflog mewn termau real.

Mae undebau'n galw am godiadau cyflog sy'n uwch na chwyddiant.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu na allan nhw gynnig yr hyn sy'n cael ei alw amdano heb arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn mynnu fod angen mwy o arian gan Lywodraeth y DU er mwyn ariannu codiadau cyflog uwch

Wrth siarad â'r BBC dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi codi trethi neu ailgyfeirio arian o fewn eu cyllideb er mwyn cynyddu cyflogau staff iechyd, ond y byddai hynny wedi "golygu llai o driniaethau, llai o nyrsys, llai o arian i'r gwasanaeth iechyd".

"Yn syml, y gwir yw bod faint o arian rydyn ni'n ei gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a chyflogau yng Nghymru yn ganlyniad i'r penderfyniadau y mae gweinidogion Lloegr yn eu gwneud ar gyfer Lloegr," meddai.

"Dyna'n union fel mae'r system yn gweithio."

Ond mae undeb y GMB yn mynnu fod y streic hefyd yn ymwneud â'r pwysau a'r straen ar weithwyr ambiwlans, a phryder na all staff gynnig gofal diogel i gleifion o ganlyniad.

Beth yw safbwynt y gwahanol undebau?

Undeb y GMB - sy'n cynrychioli tua 25% o staff y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru - sy'n gweithredu'n ffurfiol ddydd Mercher.

Methodd pleidlais gan undeb Unsain gyrraedd y trothwy angenrheidiol er mwyn caniatáu gweithredu diwydiannol, er mae disgwyl ail bleidlais yn y flwyddyn newydd.

Bydd pleidlais gan staff ambiwlans sy'n aelodau o undeb Unite yn cau ar 22 Rhagfyr.

Ond mae rheolwyr y gwasanaeth ambiwlans yn cydnabod fod risg y bydd rhai aelodau o'r undebau nad sy'n gweithredu'n ddiwydiannol yn penderfynu peidio â chroesi'r llinell biced.

Cafodd rhai gwasanaethau ambiwlans hefyd eu heffeithio ar ddiwrnodau streic y nyrsys, yn cynnwys nyrsys sy'n gweithio i'r gwasanaeth 111.