Mwy o weithwyr ambiwlans yn pleidleisio o blaid streic

  • Cyhoeddwyd
Picedu CaerdyddFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Staff y Gwasanaeth Ambiwlans yn picedu tu allan i orsaf ambiwlans Caerdydd fore Mercher

Mae rhagor o weithwyr ambiwlans Cymru wedi pleidleisio dros gynnal streic, meddai undeb.

Dywedodd undeb Unite bod 88% o'r rhai a bleidleisiodd o blaid gweithredu diwydiannol, yn dilyn anghydfod dros y codiad cyflog sydd wedi ei gynnig i weithwyr.

Mae'r undeb yn cynrychioli tua 1,000 o staff yn cynnwys parafeddygon, technegwyr a derbynwyr galwadau.

Yn y cyfamser mae undeb arall, y GMB, wedi cyhoeddi bod diwrnod o streicio oedd wedi ei gynllunio wedi ei ohirio tan 2023.

Yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth gweithwyr ambiwlans sy'n aelodau o undeb y GMB gynnal streic yng Nghymru.

Dydd Gwener, dywedodd y GMB y byddai'n oedi'r gweithredu ar gyfer 28 Rhagfyr, er mwyn i'r cyhoedd "gael mwynhau'r Nadolig heb bryder ychwanegol".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y llywodraeth yn ymwybodol o ddicter a siom gweithwyr y sector cyhoeddus.

Pam fod y streiciau'n digwydd?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig codiad cyflog o rhwng 4% a 5.5% i staff y gwasanaeth iechyd, ond gyda chwyddiant dros 10% mae undebau yn mynnu fod hyn yn doriad cyflog mewn termau real.

Mae undebau'n galw am godiadau cyflog sy'n uwch na chwyddiant.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu na allan nhw gynnig yr hyn sy'n cael ei alw amdano heb arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU.

Gohirio streic 28 Rhagfyr

Roedd cannoedd o weithwyr ambiwlans o undeb y GMB ar streic ddydd Mercher, a hynny'n dilyn deuddydd o streicio gan nyrsys ddydd Mawrth a dydd Iau diwethaf.

Roedd disgwyl diwrnod arall o weithredu gan aelodau'r GMB ar 28 Rhagfyr, ond mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd yr undeb na fyddai hynny'n digwydd.

Dywedodd yr undeb bod y gefnogaeth i'r streicio hyd yn hyn wedi bod yn "rhyfeddol" ac yn "emosiynol i lawer".

"Dyna pam rydyn ni'n atal y gweithredu diwydiannol gan y GMB ar 28 Rhagfyr", meddai'r datganiad.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd y cyhoedd yn gwerthfawrogi cael mwynhau'r Nadolig heb bryder ychwanegol."

Er hynny, fe fydd y streic yn digwydd yn y flwyddyn newydd, gydag 11 Ionawr wedi ei gadarnhau fel dyddiad newydd, meddai'r undeb.

Disgrifiad,

Mae Aron Roberts a Llio Hafal yn barafeddygon sydd ar streic ddydd Mercher

Dywedodd Unite y byddai'n cadarnhau dyddiadau'r gweithredu yn y flwyddyn newydd.

Mae'r bleidlais ddiweddaraf gan aelodau Unite oherwydd bod gweithwyr "yn gweld yn ddyddiol sut mae'r GIG yn cwympo'n ddarnau", meddai Sharon Graham, yr ysgrifennydd cyffredinol.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru roi cynnig gwell er mwyn datrys yr argyfwng recriwtio a chadw staff sy'n difetha'r gwasanaeth.

"Ond mae angen hefyd i'r llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, sydd â chyfrifoldeb yn y pendraw am flynyddoedd o ddirywio'r GIG, i gwrdd ag undebau iechyd a mynd i'r afael â lefelau cyflog a staffio ar frys."

'Parhau i drafod'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn cydnabod pam fod cymaint o weithwyr ambiwlans wedi pleidleisio fel hyn a pha mor flin a siomedig yw gweithwyr y sector cyhoeddus ar hyn o bryd.

"Ry'n yn credu y dylai ein gwasanaethau brys gael cydnabyddiaeth deg am eu gwaith pwysig ond dyw'n setliad ariannol presennol ddim yn cwrdd â'r gofynion heriol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus a gweithwyr ar draws Cymru.

"Ry'n yn parhau i gyfarfod ag undebau llafur i drafod ystod o faterion sy'n effeithio ar y gweithlu."

Pynciau cysylltiedig