Rhai cartrefi yn parhau heb gyflenwad dŵr ar Noswyl Nadolig

  • Cyhoeddwyd
dim dwrFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd "llond llaw" o gartrefi yn dal heb gyflenwad dŵr ar Noswyl Nadolig yn dilyn tywydd gwael y penwythnos diwethaf.

Collodd tua 4,500 o eiddo yng Ngheredigion eu cyflenwad dŵr ddydd Sadwrn, 17 Rhagfyr ar ôl i bibellau cyflenwi fyrstio.

Dywedodd Dŵr Cymru, a oedd wedi bwriadu adfer pob eiddo erbyn bore Mercher, eu bod bellach wedi gwneud hynny ar gyfer "mwyafrif helaeth" o gartrefi.

Mae'r cwmni yn dweud nad oes unrhyw gymunedau mawr heb gyflenwad, dim ond "llond llaw o eiddo ynysig".

'Gweithio rownd y cloc'

Dywedodd pennaeth Dŵr Cymru, Peter Perry: "Mae'n ddrwg gennym am yr anghyfleustra y mae'r digwyddiad hwn wedi'i achosi a hoffem ddiolch i chi am eich amynedd."

Mae'r cwmni wedi sefydlu gorsafoedd dŵr yfed potel mewn rhai ardaloedd fel "rhagofal" a dywedodd y bydd staff yn gweithio drwy'r nos i adfer cyflenwad a monitro'r rhwydwaith.

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydyn ni'n gwybod bod yna rai problemau lleol o hyd gyda chyflenwadau ysbeidiol neu wasgedd isel ac mae hyn yn cael ei achosi gan 'gloeon aer' yn ein rhwydwaith wrth iddo ail-bwyso.

"Mae ein timau'n gweithio rownd y cloc i ddatrys hyn cyn gynted â phosib ond mae angen ei wneud yn ofalus i atal y pibellau rhag byrstio eto."

Ydych chi heb ddŵr dros y Nadolig? Cysylltwch gyda ni ar haveyoursay@bbc.co.uk.

Pynciau cysylltiedig